Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cymru)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn sefydlu’r mesurau i ganiatau mynediad i dir agored (mynydd-dir, rhostir, gweundir neu dwyndir) a thir comin cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae’r mesurau yn cynnwys tri math o apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mathau o apêl

Mapio

Mae Pennod 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff statudol (yng Nghymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru) i baratoi mapiau cefn gwlad agored a thir comin cofrestredig.

Apeliadau Cyfyngu

Apeliadau yn erbyn gwrthodiad gais i ganiatau gwaharddiad neu cyfyngiad ar dir mynediad. Gall unrhyw berson sydd â budd yn y tir apelio i’r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn gwrthodiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i wneud cyfarwyddyd fel y dymunir.

Adran apeliadau cyfyngu

Apeliadau Hysbysiad

Gellir cyhoeddi hysbysiad pan wnaed cytundeb â pherchennog y tir ynghylch gwneud y cyfryw waith ond mae'r perchennog wedi methu â chyflawni'r cytundeb. Gellir eu cyhoeddi hefyd pan na ellir dod i gytundeb ac mae'r Awdurdod Perthnasol (AP) yn datgan ei fwriad i wneud y gwaith sydd ei angen.

Adran apeliadau hysbysiad

Cysylltwch y tîm prosesu apeliadau

Ystafell 1-004
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: chris.sweet@pins.gsi.gov.uk

Rhif Ffôn: 029 2082 1581