Datganiad i'r Wasg - Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ac ArolygiaethGynllunio Llywodraeth Cynulliad CymruPenodi Cyfarwyddwyr Anweithredol Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog dros Gynllunio, y Farwnes Andrews, a Jane Davidson AC - y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai - benodiad dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd ac ailbenodiad un o'r Cyfarwyddwyr Anweithredol cyfredol i'r Arolygiaeth Gynllunio. Wrth groesawu'r penodiadau dywedodd y Gweinidogion: "Rydym am i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gyflwyno safbwynt gwrthrychol newydd i'r Arolygiaeth Gynllunio, cyfrannu syniadau newydd a gwella cywirdeb prosesau'r Bwrdd. Rydym yn hyderus y bydd y rhai a benodwyd yn helpu i sicrhau bod yr Arolygiaeth yn gallu ateb yr heriau newydd sy'n codi yn sgîl y Papur Gwyn Cynllunio, er mwyn cyflymu'r system gynllunio ymhellach." NODYN I OLYGYDDION:Swyddogaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol yr Arolygiaeth Gynllunio yw mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Strategol a'r Pwyllgor Archwilio a chyfrannu at benderfyniadau cyfunol y Bwrdd ar faterion megis cynllunio busnes, polisi, strategaeth, perfformiad, adnoddau a Llywodraethu Corfforaethol. Byddant yn cynorthwyo drwy gynnig gwybodaeth a chyngor annibynnol yn ôl eu meysydd arbenigedd unigol sy'n seiliedig ar eu profiad ehangach mewn sefydliadau eraill. Cydymffurfiodd y gweithdrefnau ar gyfer eu penodi ag egwyddorion Swyddfa'r Cabinet ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Hysbysebwyd y swyddi ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa'r Cabinet, ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar wefan yr Arolygiaeth. Isod ceir cefndir cryno o bob un o'r rhai a benodwyd.
Penodir Jane Earl a Deep Sagar am gyfnod o ddwy flynedd, gyda'r dewis o estyn eu penodiadau am ddwy flynedd arall. Penodir Liz Peace am flwyddyn. Nod y dyddiadau terfyn gwahanol yw sicrhau parhad y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn y dyfodol. Cynigir swydd Cadeirydd Pwyllgor Archwilio'r Arolygiaeth Gynllunio i Mr Sagar hefyd. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |