Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Siarter Gwybodaeth Bersonol

Mae angen i ni drin gwybodaeth bersonol amdanoch chi fel y gallwn ddarparu gwasanaethau ar eich cyfer. Dyma sut rydym yn gofalu am y wybodaeth honno.

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol, byddwn yn addo:

  • sicrhau eich bod yn gwybod pam fod ei hangen arnom;
  • gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom yn unig, heb gasglu gormod o wybodaeth neu wybodaeth amherthnasol;
  • ei diogelu a sicrhau na chaiff ei datgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i'w gweld;
  • rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rhannu â sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwasanaethau cyhoeddus gwell i chi - a dweud wrthych p'un a allwch wrthod;
  • sicrhau na fyddwn yn ei chadw yn hwy na sydd ei angen; 
  • peidio rhyddhau eich gwybodaeth bersonol at ddefnydd masnachol heb ofyn am eich caniatâd.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi:

  • roi gwybodaeth gywir i ni; a
  • dweud wrthym cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw newidiadau, megis cyfeiriad newydd.

Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod gennym wybodaeth ddibynadwy a diweddar amdanoch chi.

Gallwch gael rhagor o fanylion am:

  • sut i ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau;
  • cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth;
  • amgylchiadau lle y gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft, er mwyn atal a chanfod twyll neu i gynhyrchu ystadegau dienw;
  • ein cyfarwyddiadau i staff ar sut i gasglu, defnyddio a dileu eich gwybodaeth bersonol;
  • sut rydym yn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn ddiweddar; 
  • sut i gwyno (gweler ein Gweithdrefnau Cwyno).

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Diogelu Data

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn gweithredu yn unol â'r gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998. I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion yn ymwneud â rhannu data, gallwch gysylltu â:

The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 08456 30 60 60 neu 01625 54 57 45
Ffacs: : 01625 524510
Wefan : www.ico.gov.uk

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English