Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Apeliadau Safleoedd o Diddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae Atodlen 9 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (a adwaenir fel arall fel "y Ddeddf") yn rhoi'r pwer i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (a adwaenir fel arall fel "y Cyngor") i gyhoeddi hysbysiadau caniatâd a hysbysiadau rheoli mewn perthynas â thir sy'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu a fyddai'n effeithio arno . Os bydd y tir wedi'i neilltuo i ofal y Comisiwn Coedwigaeth ac yn goetir yn bennaf, bydd y Comisiynwyr yn ymdrin ag unrhyw geisiadau.

Mae Adran 28F y Ddeddf yn rhoi'r hawl i bobl sy'n anfodlon ar benderfyniad y Cyngor apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Ddeddf ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus mwy. Yn ogystal, gallwch ei gweld ar y rhyngrwyd yn: http://www.legislation.hmso.gov.uk

Yn yr achos y caiff hysbysiadau o'r fath eu cyhoeddi, gellir gwneud apêl drwy anfon rhybudd apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn penodi Arolygydd i weithredu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd wedyn yn cynhyrchu adroddiad sy'n rhoi manylion am ei gasgliad ar y materion a godwyd ac argymhelliad o ran pa un a ddylid caniatáu'r apêl ai peidio.

Ffurflen Apêl SoDdGA (o ran gwrthod, neu roi Caniatâd ddarostyngedig I amodau, i gynnal gweithrediad) Word icon 72.5KB

Ffurflen Apêl SoDdGA (o ran Hysbysiad I dynnu Caniatâd yn ôl neu ei addasu) Word icon 68.5KB

Apêliadau SoDdGA - Canllaw I Apelyddion 87.2KB
Apêliadau SoDdGA - Canllaw I Apelyddion HTML


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader

 

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English