Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Ceisiadau Cynllunio a Alwyd i Mewn

Canllaw i Geisiadau Cynllunio a Alwyd i Mewn

Paratowyd y daflen hon i esbonio'r hyn sy'n digwydd pan fydd ymchwiliad lleol cyhoeddus yng Nghymru i gais cynllunio a alwyd i mewn. Dim ond rhoi cyngor a wna'r nodyn. Nid oes ganddo unrhyw rym cyfreithiol.

Lle yr ydym yn defnyddio "ef" i gyfeirio at bawb, mae hyn hefyd yn golygu "hi" neu "hwy".

Beth yw cais cynllunio a alwyd i mewn?

Penderfynir ar y mwyafrif o geisiadau cynllunio yn lleol gan y cyngor sir, y cyngor bwrdeistref neu'r awdurdod parc cenedlaethol. Ond mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau wrth gefn i gyfarwyddo'r cyngor i gyfeirio cais ato er mwyn iddo benderfynu arno. Dyna a olygir wrth gais 'a alwyd i mewn'.

Bob blwyddyn gwneir miloedd ar filoedd o geisiadau, ond bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw i mewn rhwng 5 a 10. Ei bolisi yw mai dim ond os bydd yn meddwl bod materion cynllunio sy'n bwysicach y tu hwnt i'w milltir sgwâr y bydd yn galw cais i mewn fel arfer. Mae enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys -

  • datblygiadau a all wrthdaro â pholisi cynllunio cenedlaethol ar faterion pwysig e.e. materion trafnidiaeth a chynaladwyedd pwysig, neu faterion rhanbarthol pwysig;
  • datblygiadau a allai gael effeithiau eang y tu hwnt i'r ardal oddi amgylch;
  • datblygiadau sy'n codi materion pensaernïol a materion dylunio trefol pwysig;
  • datblygiadau lle y mae buddiannau diogelwch cenedlaethol neu Lywodraeth dramor yn gysylltiedig;
  • datblygiadau sy'n bynciau llosg pwysig yn rhanbarthol neu'n genedlaethol.

Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn galw cais i mewn, mae'n rhoi ei gyfarwyddyd mewn llythyr i'r cyngor. Dyma'r 'llythyr galw i mewn' a gyhoeddir fel arfer gan is-adran Gynllunio y Cynulliad, ac mae'n mynnu bod y cyngor yn cyflwyno hysbysiad o'r telerau a'r rhesymau dros y penderfyniad i alw'r cais i mewn i'r ceisydd ac yn ei hysbysu o'i hawliau i gael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan y Cynulliad.

Cynnwys:

1.  Cwestiynau a ofynnir yn aml
2. Ynglŷn â'r Arolygiaeth Gynllunio
3. Atodiad i - Termau a ddefnyddir yn aml
4. Atodiad ii - Cyfeiriadau defnyddiol

1. Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Credaf y dylid galw cais i mewn. Beth ddylwn ei wneud?

Os ydych o'r farn y dylid galw cais cynllunio i mewn gan y Cynulliad Cenedlaethol, dylech ysgrifennu at is-adran Gynllunio'r Cynulliad (gweler y cyfeiriad isod). Rhowch resymau clir pam yr ydych o'r farn y dylid galw'r cais i mewn, gan gynnwys pam y mae'n bwysicach y tu hwnt i'w milltir sgwâr.

A oes angen i mi brynu copi o'r Rheolau?

Nid oes rhaid i chi brynu copi o'r rheolau a phrofiad y mwyafrif o bobl yw nad oes angen iddynt edrych arnynt. Ond os hoffech brynu copi mae pedair ffordd -

  • Siopau Llyfrau'r Llyfrfa
  • Asiantiaid trwyddedig y Llyfrfa (gweler Yellow Pages);
  • trwy lyfrwerthwyr da.
  • Mae'r Llyfrfa wedi datblygu gwasanaeth gwybodaeth ar-lein a siop lyfrau ymddangosol. Mae ar gael ar Gwefan Llyfrfa Ei Mawrhydi

Pwy all gymryd rhan yn yr ymchwiliad?

O dan y Rheolau, mae gan y bobl ganlynol yr hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad -

  • y ceisydd;
  • yr awdurdod cynllunio lleol;
  • y cyngor cymuned ar gyfer y safle, os gwnaeth gynrychioliadau i'r awdurdod cynllunio lleol pan wnaed y cais;
  • os yw safle'r cais o fewn eu hardal ond nad hwy eu hunain yw'r awdurdod cynllunio lleol, y canlynol- 
    1. cyngor sir neu fwrdeistref
    2. Awdurdod Parc Cenedlaethol
    3. cyd-fwrdd cynllunio neu fwrdd cynllunio arbennig;
  • CADW, pe bai angen i'r awdurdod cynllunio lleol ei hysbysu o gais cysylltiedig am ganiatâd adeilad rhestredig;
  • unrhyw barti statudol;
  • unrhyw un a gyflwynodd ddatganiad o achos neu ddatganiad amlinellol - gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gymdeithas neu grðp sydd â gwybodaeth arbennig neu safbwynt penodol na chaent efallai ddigon o sylw, fel arall, yn yr ymchwiliad.

Os ydych yn drydydd parti ond ni ofynnwyd i chi am ddatganiad, nid oes gennych yr hawl i gymryd rhan. Ond serch hynny gallwch siarad yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, na chaiff wrthod rhoi caniatâd yn afresymol. Rydym yn annog pobl leol i gymryd rhan, am fod eu gwybodaeth leol a'u barn yn aml yn werthfawr.

Pam cynhelir cyfarfodydd cyn ymchwiliadau a beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Dim ond un diben sydd i'r cyfarfod cyn yr ymchwiliad - sef trafod y weithdrefn a ddilynir yn yr ymchwiliad. Y nod yw sicrhau bod yr ymchwiliad yn rhedeg yn effeithiol, trwy helpu'r Arolygydd a'r cyfranogwyr gyda'u paratoadau. Ni thrafodir rhinweddau'r materion cynllunio a godir gan y cais. Y prif faterion yr ymdrinnir â hwy fel arfer yw-

  • cyfleusterau a llety yn lleoliad yr ymchwiliad - mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfleusterau arbennig sydd eu hangen ar gyfer yr Arolygydd neu gyfranogwyr;
  • dyddiadau'r ymchwiliad ac amserau eistedd - bydd yr Arolygydd yn gofyn i'r cyfranogwyr faint o amser a gymerant, yn eu barn hwy, i gyflwyno eu tystiolaeth;
  • enwau'r prif gyfranogwyr a nifer y tystion;
  • nodi'r prif faterion i'w trafod yn yr ymchwiliad;
  • trefniadau ar gyfer paratoi'r datganiad tir cyffredin gan gynnwys trefniadau ar gyfer unrhyw gyfarfodydd anffurfiol y gall fod eu hangen i gynorthwyo i baratoi'r cyfryw ddatganiadau;
  • natur a diwyg tystiolaeth - mae'n arferol erbyn hyn i grynodebau o dystiolaeth gael eu darllen mewn ymchwiliadau ac i gymryd bod y prif ddatganiad ysgrifenedig o dystiolaeth wedi'i ddarllen;
  • agweddau eraill ar dystiolaeth, megis defnyddio unedau mesur safonol.

Nid atelir yr Arolygydd rhag holi'r cyfranogwyr yn ddiweddarach ynghylch materion y cytunwyd arnynt yn yr ymchwiliad, pan fydd o'r farn bod angen gwneud hynny. Er enghraifft, efallai y bydd angen iddo fod yn sicr bod sail gadarn i'r cyfryw gytundeb a bod y partïon wedi rhoi digon o bwys ar bob agwedd ar y datblygiad gan gymryd i ystyriaeth bolisïau cynllunio'r cynllun datblygu, y Cynulliad a'r llywodraeth. Ar ben hynny gall yr Arolygydd ganiatáu i bobl eraill gymryd rhan yn yr ymchwiliad - felly, tra gall unrhyw aelod o'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod cyn yr ymchwiliad, ni ddylai pobl leol deimlo dan anfantais os na allant ei fynychu neu os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Beth fydd yn digwydd yn yr ymchwiliad?

Mae ceisiadau a alwyd i mewn yn aml ar gyfer datblygiadau ar raddfa fawr, neu maent yn gymhleth mewn ffyrdd eraill. Felly gall ymchwiliad bara nifer o ddiwrnodau (neu wythnosau hyd yn oed). Yn yr ymchwiliad, mae'n debyg y bydd y prif gyfranogwyr yn cyflwyno tystiolaeth arbenigol ac yn croesholi tystion. Ond mae'r rhan a chwaraeir gan gyfranogwyr eraill, pobl leol er enghraifft, fel arfer yn llai amlwg. Ac am fod yr ymchwiliad yn agored i'r cyhoedd, mae rhai pobl yn ei fynychu dim ond i wrando neu i gyflwyno adroddiad arno ar gyfer y wasg.

Mae gan yr Arolygydd gryn ryddid o ran y modd y mae'n rhedeg yr ymchwiliad, o fewn y Rheolau. Yn aml bydd wedi cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad rhai wythnosau yn gynharach â'r prif gyfranogwyr i drafod ystyriaethau ymarferol yr ymchwiliad. Ond bydd yn dal i fynd trwy rai materion arferol. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn pwy fydd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Ar ôl i'r rhai sydd â hawl i gymryd rhan roi eu manylion, bydd yr Arolygydd yn gofyn a oes unrhyw un arall a hoffai siarad - wrth wneud hyn, bydd yn gofyn am eu henwau a'u cyfeiriadau yn unig. Yna bydd yr Arolygydd fel arfer yn esbonio'r weithdrefn ymchwiliad. Yn gyffredinol bydd y weithdrefn fel a ganlyn.

  • Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dechrau trwy wneud datganiad agoriadol ac wedyn bydd yn galw ar unrhyw dystion sydd o blaid y cais i roi eu tystiolaeth.
  • Bydd gan y ceisydd yr hawl i ateb olaf.
  • Gwrandewir ar gyfranogwyr blaenllaw eraill sydd â'r hawl (partïon statudol) neu a ganiateir (trydydd partïon) i gymryd rhan yn y drefn a bennir gan yr Arolygydd.
  • Bydd pobl sydd â'r hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn gallu galw tystiolaeth (tystion).
  • Bydd gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol, ac unrhyw barti statudol yr hawl i groesholi pobl sy'n rhoi tystiolaeth.
  • Gall yr Arolygydd wrthod caniatáu i rywun roi tystiolaeth os yw o'r farn ei bod yn amherthnasol.
  • Gall yr Arolygydd ddarllen yn uchel lythyron gan y rhai na all fynychu'r ymchwiliad.
  • Os oes rhaid, gall yr Arolygydd ohirio'r ymchwiliad.

Cynrychiolwyr adrannau'r Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill mewn ymchwiliad.

Mae gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu rywun sydd â'r hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad yr hawl o dan rai amgylchiadau i ofyn am i gynrychiolydd un o adrannau'r Cynulliad neu gorff cyhoeddus arall anfon cynrychiolydd i'r ymchwiliad ac i groesholi'r cynrychiolydd hwnnw. Ond mae'n rhaid i'r partïon hyn ofyn am hyn yn ysgrifenedig o leiaf 28 cyn y dyddiad y mae'r ymchwiliad i fod i ddechrau.

Sut y byddaf yn gwybod bod y cais wedi'i alw i mewn? A sut y byddaf yn cael gwybod am ddyddiad a lleoliad yr ymchwiliad?

Os ydym yn gwybod am eich diddordeb am i'r awdurdod cynllunio lleol ddweud wrthym i chi ysgrifennu ato neu am i chi ysgrifennu i is-adran Gynllunio'r Cynulliad, bydd y Swyddog Achos yn ysgrifennu atoch. Ac o dan y Rheolau byddwn yn-

  • mynnu bod yr awdurdod cynllunio lleol yn cyhoeddi'r trefniadau ar gyfer yr ymchwiliad yn y wasg leol;
  • mynnu bod yr awdurdod cynllunio lleol yn hysbysu perchenogion a deiliaid eiddo gerllaw'r safle, ac unrhyw un arall y mae'r awdurdod cynllunio lleol o'r farn y gall y datblygiad effeithio arno.
  • yn mynnu bod y ceisydd, os yw'n rheoli'r safle, yn gosod hysbysiad ar y safle mewn man lle y gall y cyhoedd ei weld.

Os bwriadaf gymryd rhan yn yr ymchwiliad, a oes rhaid i mi anfon datganiad ysgrifenedig yn gyntaf?

Os ydych yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad trwy hawl, gofynnir i chi gyflwyno datganiad ysgrifenedig llawn o achos cyn yr ymchwiliad o dan y Rheolau. Dylai fod yn ddiamwys ac yn berthnasol.

Fel arfer mae'n well gan bobl eraill (y rhai sy'n cymryd rhan yn ôl disgresiwn yr Arolygydd) wneud neu ddarllen datganiad byr yn nodi eu barn. Ond mae angen i chi feddwl am yr hyn yr ydych am ei ddweud a sut. Os mai chi yw trefnydd grðp neu gymdeithas ac rydych am chwarae rhan flaenllaw yn yr ymchwiliad trwy alw ar eich tystion eich hun, dylech gysylltu â'r swyddog achos cyn gynted ag y bo modd. Os cytunwn â'ch cais, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno datganiad o achos o dan y Rheolau. Bydd yn bosibl i chi wedyn gymryd rhan yn yr ymchwiliad trwy hawl, yr un fath â'r prif gyfranogwyr eraill - a byddwn yn anfon copïau o'u datganiadau atoch. Fodd bynnag, er mwyn osgoi gwneud yr ymchwiliad yn rhy ailadroddus, rydym yn annog cyfranogwyr sydd o'r un farn i ffurfio grðp ac ethol llefarydd i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ar ran y grðp.

A oes angen i mi gael fy nghynrychioli yn yr ymchwiliad gan gyfreithiwr, bargyfreithiwr neu ryw berson proffesiynol arll?

Nid yw ymchwiliad yn llys barn ac nid oes angen i unrhyw un gael ei gynrychioli'n gyfreithiol gan gyfreithiwr na bargyfreithiwr. Fel arfer bydd gan y ceisydd a'r awdurdod cynllunio lleol gynrychiolydd cyfreithiol, ac efallai y byddant yn galw ar wasanaethau gweithwyr proffesiynol eraill megis penseiri a pheirianwyr. Ac mae hyn yn digwydd yn aml yn achos y prif gyfranogwyr eraill.

Yn gyffredinol, nid yw pobl leol sy'n gwneud datganiad byr yn dewis cael eu cynrychioli'n broffesiynol ac ni ddylent deimlo dan anfantais.

Ni allaf fynychu ymchwiliad neu nid wyf yn dymuno gwneud hynny. Ond yr wyf am i'm barn gael ei hystyried. Beth ddylwn i wneud?

Rhaid i chi ysgrifennu at y Swyddog Achos i'w hysbysu o'ch barn gyn gynted ag y bo modd.

Ysgrifennais eisoes i'r awdurdod cynllunio lleol neu'r Cynulliad ynglþn â'r cais. Sut yr wyf fi'n sicrhau bod yr Arolygydd yn ymwybodol o'm barn?

Mae'n rhaid i'r Arolygydd ymdrin ag ymchwiliad â meddwl agored. Am y rheswm hwn, ni fydd yn edrych ar ohebiaeth a allai fod wedi dylanwadu ar benderfyniad y Cynulliad i alw'r cais i mewn. Felly os ydych am fwrw ymlaen â'r mater, rhaid i chi ysgrifennu at y Swyddog Achos i'w hysbysu o'ch barn, hyd yn oed os bu i chi ysgrifennu'n gynharach.

Ar ôl yr ymchwiliad.

Ar ôl yr ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn cynnwys ei ganfyddiadau/chanfyddiadau a'i (h)argymhellion. Pan fydd y Cynulliad wedi dod i benderfyniad, bydd yn esbonio'r penderfyniad hwnnw yn y llythyr penderfyniad. Anfonir y llythyr hwn fel arfer i is-adran Gynllunio'r Cynulliad.

2. Ynglyn â'r Arolygiaeth Gynllunio

Un o Asiantaethau Gweithredol ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ydym. O'n swyddfeydd yng Nghaerdydd, rydym yn trefnu i Arolygydd Cynllunio ystyried y materion sy'n gysylltiedig â'r cais ac yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar gyfer ei ystyriaeth.

Mae gan Arolygwyr wahanol gefndiroedd. Mae'r rhain yn cynnwys cynllunio trefol, tirfesuro, peirianneg, pensaernïaeth a'r gyfraith. Rydym yn dewis Arolygwyr yn ofalus iawn ac yn eu hyfforddi'n drylwyr. Fel arfer maent yn gweithio o'u cartrefi. Yn achos rhai ymchwiliadau cymhleth iawn, efallai y byddwn yn penodi asesydd i gynorthwyo'r Arolygydd gydag agweddau arbennig ar y cais (er enghraifft, sðn neu lygredd).

Rhaid i ni wneud hyn a hyn o waith gweinyddol cyn yr ymweliad â'r safle, y gwrandawiad neu'r ymchwiliad. Delir â'r gwaith gweinyddol hwn gan swyddog achos. Rydym bob amser yn enwi'r swyddog achos ac yn rhoi ei r(h)if ffôn, ei r(h)if ffacs a'i r(h)if e-bost. Nid ydym yn newid y swyddog achos a bennwyd ar gyfer cais penodol oni fyddwn yn gorfod gwneud hynny (er enghraifft, oherwydd salwch).

3. Atodiad i

Termau yn y daflen hon

Rydym yn ceisio osgoi jargon. Ond ni allwn osgoi defnyddio ychydig o eiriau ac ymadroddion arbennig. Rydym yn esbonio'r rhain yma-

Cais Cynllunio

Cais am ganiatâd cynllunio. Neu gais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl er mwyn cytuno arnynt yn ddiweddarach gan amodau caniatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes.

LPA

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dyma'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r awdurdod lleol a fyddai fel arfer yn penderfynu ar y cais cynllunio. Dyma'ch Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref neu'ch Awdurdod Parc Cenedlaethol. Ond weithiau sefydliad arall fydd hwn megis cyd-fwrdd cynllunio.

Cais a alwyd i mewn

Penderfynir ar y mwyafrif o geisiadau cynllunio gan yr LPA. Ond mae gan y Cynulliad bwerau wrth gefn i gyfarwyddo'r cyngor i gyfeirio cais ato er mwyn iddo benderfynu arno. Dyma a olygir wrth gais "a alwyd i mewn".

Llythyr galw i mewn

Pan fydd y Cynulliad yn galw cais i mewn, mae'n rhoi ei gyfarwyddyd mewn llythyr i'r cyngor. Gelwir y llythyr hwn yn "llythyr galw i mewn".

Safle'r Cais

Y tir a gwmpesir gan y cais cynllunio.

Ceisydd

Y person neu'r sefydliad a wnaeth y cais cynllunio.

Parti statudol

Unrhyw un sy'n berchen ar safle'r cais neu'n sy'n denant amaethyddol ar y safle, ar wahân i'r ceisydd ei hun. Ond er mwyn cael eich cyfrif yn barti statudol, rhaid eich bod wedi gwneud cynrychioliadau ynghylch y cais i'r LPA neu'r Cynulliad o fewn 21 o ddiwrnodau i chi gael eich hysbysu o'r cais.

Prif gyfranogwyr

Y bobl sydd â'r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad

Trydydd parti

Unrhyw un arall sy'n gwneud cynrychioliadau ynghylch y cais. Enghreifftiau o drydydd partïon yw cymdogion a chymdeithasau amwynder lleol.

Arolygydd

Yr Arolygydd Cynllunio a benodwyd i ystyried y materion sydd ynghlwm wrth y cais cynllunio.

Swyddog Achos

Y person a bennir gennym i ddelio â'r gwaith gweinyddol y mae angen i ni ei wneud cyn y gellir ymweld â safle neu gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad.

Y Rheolau

Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ymchwiliadau)(Cymru) 2003 (Rhif Offeryn Statudol ).

Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Gwrandawiadau)(Cymru) 2003 (Rhif Offeryn Statudol ).

Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Apeliadau)(Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig)(Cymru) 2003 (Rhif Offeryn Statudol ).

Cyfarfod cyn yr Ymchwiliad

Cyfarfod a gynhelir gan yr Arolygydd i'w helpu ef a'r prif gyfranogwyr baratoi ar gyfer yr ymchwiliad. Fel arfer mae'r Arolygydd yn penderfynu a oes angen cynnal y cyfryw gyfarfod. Ond o bryd i'w gilydd gall y Cynulliad beri i un gael ei gynnal.

Datganiad o achos

Y datganiad ysgrifenedig a baratoir gan y ceisydd a'r LPA a'r bobl eraill sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad. Mae'n rhaid i'r datganiadau hyn gynnwys manylion llawn y pwyntiau y mae'r cyfranogwyr yn bwriadu eu gwneud yn yr ymchwiliad. Mae'n rhaid cynnwys hefyd restr o unrhyw ddogfennau y maent yn bwriadu cyfeirio atynt.

Datganiad amlinellol

Datganiad ysgrifenedig tebyg i'r Datganiad o Achos, ond sy'n gyfyngedig i brif argymhellion y cyfranogwr. Dim ond pan fydd y Cynulliad, nid yr Arolygydd, wedi peri i gyfarfod gael ei gynnal cyn yr ymchwiliad y bydd angen datganiad amlinellol. Felly anaml y bydd angen llunio un.

Datganiad Tir Cyffredin

Datganiad ar y materion y cytunwyd arno gan y ceisydd a'r LPA.
Dylid cyflwyno'r meysydd y maent yn cytuno arnynt a'r rhai y mae anghytundeb yn eu cylch o hyd heb fod yn llai na 4 wythnos cyn dyddiad yr ymchwiliad.

Datganiad Ysgrifenedig o Dystiolaeth

Tystiolaeth ysgrifenedig i'w darllen yn yr ymchwiliad.

Adroddiad yr Arolygydd

Yr adroddiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r Cynulliad gan yr Arolygydd.

Llythyr Penderfyniad

Llythyr y Cynulliad yn penderfynu ar y cais ar ôl i adroddiad yr Arolygydd gael ei ystyried. Cyfeirir y llythyr at y ceisydd ac fel arfer fe'i hanfonir gan Is-adran Gynllunio'r Cynulliad.

4. Atodiad ii

Cyfeiriadau Defnyddiol

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 20825155
Ffacs: 029 20825150
E-bost: Wales@pins.gsi.gov.uk

Is-adran Gynllunio Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynllunio 1(C)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English