Tystysgrifau Datblygiad Amgen PriodolGall perchnogion tir wneud cais am iawndal, pan brynir eu tir yn orfodol ar gyfer ei ddatblygu. Gallant wneud cais am iawndal sy'n gyfwerth â gwerth eu tir pe gallent fod wedi'i werthu ar y farchnad agored. Er mwyn helpu'r broses brisio gall perchennog y tir wneud cais i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) am Dystysgrif Datblygiad Amgen Priodol. Mae'r dystysgrif hon yn nodi'r hyn a fyddai wedi cael caniatâd cynllunio ym marn yr ACLl pe na phrynid y tir yn orfodol. Gall Awdurdodau Caffael fel ACLlau, Adrannau o'r Llywodraeth ac ymgymerwyr statudol wneud cais hefyd. Yr Awdurdod Caffael yw'r darpar brynwr a gall wneud cais am dystysgrif datblygiad amgen priodol er mwyn darganfod gwir werth y tir. Mae gweithdrefn y dystysgrif yn rhan III o Ddeddf Digolledu Tir 1961 yn rhoi canllawiau i briswyr a Thribiwnlysoedd ar werth datblygu tir a gaiff ei gaffael yn orfodol gan awdurdod sydd â phwerau prynu gorfodol. Gall yr awdurdod caffael neu berchennog y tir wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os ydynt yn anfodlon ar y dystysgrif (neu os nad yw'r ACLl yn ei chyhoeddi o fewn y terfyn amser). Gelwir hyn yn Apêl Digolledu Tir. Mae'r cysylltiadau isod yn cynnig canllawiau ar yr ystyriaethau sy'n
berthnasol i geisiadau o dan Adran 17 ac ar apeliadau o dan adran 18 o'r
Ddeddf. Sut i edrych ar ddogfennau PDFGallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |