Detholiad o Gylchlythyr 2/93, 'Hawliau Tramwy'Atodiad A, paragraffau 11 i 15 – Ceisiadau am Gostau11. Fel arfer disgwylir i’r partïon mewn ymchwiliadau yn ymwneud â Gorchmynion Hawliau Tramwy a wneir gan Awdurdodau Lleol gwrdd â’r treuliau eu hunain ni waeth beth fo’r canlyniad. Yn ddarostyngedig i’r eithriadau a nodir ym mharagraff 14 isod, dim ond ar sail “ymddygiad afresymol” y dyfernir costau. Felly nid yw dyfarniad costau yn dilyn canlyniad y penderfyniad yn ôl teilyngdod. Dylid gwneud ceisiadau am gostau ar sail ymddygiad “afresymol” i’r Arolygydd yn yr ymchwiliad a fydd yn cyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â hynny. Nid oes gan yr Arolygydd yr awdurdod i ddyfarnu costau yn yr ymchwiliad. Darperir enghreifftiau o ymddygiad “afresymol”, trwy gyfeirio at yr hyn a ddisgwylir fel arfer gan bartïon mewn apeliadau ac achosion cynllunio eraill (sy’n berthnasol, trwy gydweddiad, i achosion yn ymwneud â hawliau tramwy), ac arweiniad gweithdrefnol cyffredinol, yn fuan mewn Cylchlythyr diwygiedig a fydd yn disodli Cylchlythyrau 2/87 a 23/91 Adran yr Amgylchedd [Cylchlythyrau 5/87 a 77/91 y Swyddfa Gymreig], yn dwyn y teitl “Dyfarniadau costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys gorchmynion prynu gorfodol)”. Sylwer bod Cylchlythyr 2/87 DOE wedi’i ddisodli gan Gylchlythyr 8/93 DOE.12. Yn gyffredinol, ac yn gyson â’r fframwaith statudol a pholisi ar gyfer hawliau tramwy a esbonnir yn y Cylchlythyr hwn a’r Atodiadau, ni fydd y prif bartïon (hynny yw, yr awdurdod lleol neu wrthwynebydd statudol) mewn perygl y dyfernir costau yn eu herbyn, oni ellid bod wedi osgoi’r achos yn rhesymol – er enghraifft, pan fydd diffyg sylfaenol yn y gorchymyn sy’n golygu na ellir ei gadarnhau, neu pan na chydymffurfir â gofynion gweithdrefnol arferol ymchwiliadau – ac, o ganlyniad, mae hyn yn arwain at gost ddiangen, ychwanegol i’r parti sy’n gwneud y cais. Yn yr un modd, bydd gwrthwynebwyr sy’n arfer eu hawl i gael gwrandawiad, ond nad ydynt yn ymddangos yn yr ymchwiliad ar ôl hynny, mewn perygl y dyfernir costau yn eu herbyn am ymddygiad “afresymol”. 13. Mae’r hawl i wrthwynebu gorchymyn yn hawl statudol, ond dylid ei harfer yn rhesymol. Bydd gwrthwynebwyr y rhoddwyd iddynt y cyfle (yn unol â pharagraff 9 uchod) i ddiwygio sail gwrthwynebiad, nad yw’n gyfreithiol berthnasol, ond a wrthododd wneud hynny, mewn perygl y dyfernir costau’r awdurdod yn eu herbyn (o dan adran 250(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i cymhwysir gan baragraff 9 Atodlen 15 i Ddeddf 1981) os byddant yn mynd â’r gwrthwynebiad ymlaen, heb ei ddiwygio, i ymchwiliad, ond mae’n rhaid ei bod yn amlwg nad oedd gan y gwrthwynebiad, o fwrw ymlaen ag ef fel hyn, unrhyw obaith rhesymol o lwyddo. Gorchmynion “Cydweddol”14. Ystyrir bod gorchmynion creu llwybrau cyhoeddus o dan adran 26 Deddf Priffyrdd 1980 yn gydweddol â gorchmynion prynu gorfodol, am y byddai gwneud neu gadarnhau’r gorchymyn yn cymryd oddi wrth wrthwynebydd rhyw hawl neu ddiddordeb yn y tir y mae’r ystatud yn rhoi hawl i iawndal ar ei gyfer. Gall gorchmynion diddymu a gwyro a wneir o dan adrannau 118-119A Deddf 1980 fod yn gydweddol hefyd, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Fodd bynnag nid ystyrir bod y mathau eraill o orchmynion a restrir ym mharagraff 3 uchod yn gydweddol. 15. Felly os bydd person â diddordeb yn y tir y bwriedir creu, diddymu neu wyro llwybr drosto yn gwrthwynebu’r cyfryw orchymyn yn llwyddiannus - hynny yw mae’r person yn mynychu ymchwiliad, neu fe’i cynrychiolir yno, ac mae’n cael gwrandawiad fel gwrthwynebydd statudol, ac ni chadarnheir y gorchymyn - dyfernir costau o blaid y person hwnnw oni fydd rhesymau eithriadol dros beidio â gwneud hynny. Nid oes angen i’r cyfryw wrthwynebydd wneud unrhyw gais am gostau yn yr ymchwiliad am y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifennu at y partïon dan sylw. Dyfernid costau’r gwrthwynebydd yn erbyn yr awdurdod sy’n gwneud y gorchymyn, er na fyddai hynny, ar ei ben ei hun, yn awgrymu ymddygiad afresymol ar ran yr awdurdod. Darperir arweiniad cyffredinol ar ddyfarnu costau mewn perthynas â gweithdrefn gorchmynion prynu gorfodol a chydweddol yn yr arweiniad ar wahân y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 11 uchod. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |