Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)Cyflwyniad1. Mae’r Cylchlythyr hwn yn diweddaru ac yn cadarnhau arweiniad polisi ar ddyfarnu costau mewn rhai achosion cynllunio ac achosion eraill. Mae’n dilyn ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd ac arolwg gofalus o’r arweiniad cyfredol yng Nghylchlythyr 2/87 DOE (Cylchlythyr 5/87 y Swyddfa Gymreig), yng ngoleuni profiad ymarferol a gafwyd ohono ers mis Ebrill 1987. Ar wahân i baragraff 23, bu’r arweiniad hwnnw yn berthnasol lle y gall yr Ysgrifennydd Gwladol orchymyn un parti i ddwyn achos i gwrdd â chostau parti arall. 2. Cyhoeddwyd arweiniad interim, yng Nghylchlythyr 23/91 DOE (77/91 y Swyddfa Gymreig), ar "Ddyfarnu Costau mewn Achosion Cynllunio, Ar ôl i Ymchwiliad neu Wrandawiad Gael eu Canslo’n Hwyr", ar 16 Rhagfyr, 1991. Esboniai’r arweiniad hwn (yn Ychwanegiad 1) sut y bwriedid i arfer pðer disgresiwn newydd, yn adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (a fewnosodwyd gan adran 30 o’r Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991), a ddaeth i rym ar 2 Ionawr, 1992, i ddyfarnu costau ar ôl i ymchwiliad neu wrandawiad gael eu canslo’n hwyr gan y naill barti neu’r llall. Ar ben hynny esboniai’r Cylchlythyr y modd y câi dyfarniadau costau eu cyflwyno mewn achosion trwy wrandawiadau o 2 Ionawr, 1992. 3. Mae ychwanegiadau 1 i 7 at y Cylchlythyr hwn bellach yn darparu arweiniad diwygiedig, gan gynnwys datblygiadau deddfwriaethol yn deillio o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, fel a ganlyn:
Mae crynodeb byr o’r meini prawf ar gyfer dyfarnu costau ar sail ymddygiad afresymol yn yr Atodiad i’r Cylchlythyr hwn. Pamffledyn esboniadol4. Pamffledyn esboniadol diwygiedig ("Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio – Canllaw i’r Apelyddion"), ar gael o’r cyfeiriadau canlynol: -
Cwmpas y trefniadau diwygiedig5. Bydd yr arweiniad newydd yn Ychwanegiadau 1 i 6 yn berthnasol i bob apêl a wnaed, neu i achosion eraill a ddechreuwyd, ar ddyddiad y Cylchlythyr hwn neu ar ôl hynny, fel a ganlyn: -
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |