Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Medi 1999 – Dyfarnu Costau Apeliadau

Sut i wneud cais am asesiad manwl ac annibynnol pan geir anghydfod ynghylch swm y costau a ddyfarnwyd

Canllaw cyffredinol yn unig yw’r nodyn hwn. Os na fyddwch yn siwr sut i fynd ati mewn achos penodol, dylech geisio cyngor proffesiynol.

Os na all y partïon gytuno ar swm y costau i’w adennill gall y naill barti neu’r llall gyfeirio’r costau y ceir anghydfod yn eu cylch at Swyddog Costau neu Farnwr Costau am asesiad manwl. Ymdrinnir â hyn gan:

The Supreme Court Costs Office
Cliffords Inn
Fetter Lane
London EC4A 1DQ
DX 44454 Strand
(Ffôn: 020 7947 7314).

Ond cyn y gall hyn ddigwydd, mae’n rhaid i chi drefnu bod y dyfarniad costau yn cael ei wneud yn orchymyn gan yr Uchel Lys. Gwneir hyn drwy ysgrifennu at:

The Crown Office Royal 
Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL

Dylech gyfeirio at adran 250(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ac amgáu gorchymyn gwreiddiol yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ei Arolygydd, yn dyfarnu costau. Dylid amgáu amlen ragdaledig. Dychwelir gorchymyn yr Uchel Lys gydag arweiniad ynghylch y camau nesaf i’w cymryd yn y broses asesu fanwl.

Llywodraethir y broses asesu fanwl gan Ran 47 o Reolau’r Weithdrefn Sifil a ddaeth i rym ar 26 Ebrill 1999. Gallwch brynu’r Rheolau hyn yn siopau llyfrau’r Llyfrfa (HMSO yn flaenorol) neu edrych ar gopïau yn eich llyfrgell leol neu swyddfeydd y cyngor.

Noder na ellir hawlio unrhyw log ar y costau a gaiff eu hawlio oni fydd gorchymyn wedi’i wneud gan yr Uchel Lys. Dim ond o ddyddiad y gorchymyn hwnnw y bydd llog yn gymwys.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English