Gwneud eich apêl gorfodi
Ein datganiad ansawdd
Ein nod yw darparu’r canlynol yn y broses apelio:
- cyngor a gwybodaeth eglur, prydlon a chwrtais;
- ymdrin â’ch apêl yn gyflym ac yn effeithlon;
- cyfnewid sylwadau rhwng y bobl sy’n ymwneud â’r apêl yn agored;
- penderfyniadau teg a diduedd gan bobl â chymwysterau priodol;
- penderfyniadau ac adroddiadau eglur a rhesymegol;
- gweithdrefn gwyno gyflym a thrylwyr;
- gwasanaeth sy’n peri i’r cyhoedd ymddiried ynom.
Mae’r Porth Cynllunio (www.planningportal.gsi.gov.uk) yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys rhestrau o gysylltiadau defnyddiol a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chynllunio. Gallwch gael mynediad i’r Porth Cynllunio am ddim.
|