Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Rheoliad Gwrychoedd 1997

Canllaw ar y Weithdrefn Apelio

Cyflwyniad

1. Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau yn erbyn Hysbysiadau Cadw Gwrychoedd neu Hysbysiadau Ailosod Gwrychoedd 1997 a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol (ALL).

2. Nodir y cefndir i’r gweithdrefnau yn Adran 97 Deddf yr Amgylchedd 1996; Rheoliadau Gwrychoedd 1997 a ‘The Hedgerow Regulations 1997 – A Guide to the Law and Good Practice’ (diwygiwyd Awst 1998). Gellir prynu’r cyhoeddiadau hyn gan y Ganolfan Gwerthu Cyhoeddiadau, DTLR, Unit 21, Goldthorpe Industrial Estate, Rotherham, S63 9BL, Siop Lyfrau’r Llyfrfa, neu eu benthyg o’r llyfrgell leol.

3. Mae’r Rheoliadau yn berthnasol i’r rhan fwyaf o wrychoedd yng nghefn gwlad. Yn arbennig, maent yn effeithio ar wrychoedd sy’n 20 metr neu’n hwy o hyd; sy’n cwrdd â gwrych arall ym mhob pen; sydd ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth; coedwigaeth; bridio neu gadw ceffylau, merlod neu asynnod neu sy’n gyfagos i’r tir hwnnw; tir comin; meysydd pentrefi; Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Warchodfeydd Natur Lleol. Nid effeithir ar wrychoedd gerddi.

4. Mae’r Rheoliadau yn ymwneud â symud gwrychoedd naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae symud yn golygu nid yn unig diwreiddio, ond unrhyw beth a allai arwain at ddinistrio’r gwrych hefyd.

Apeliadau

5. Gellir gwneud apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn naill ai Hysbysiad Cadw Gwrychoedd neu Hysbysiad Ailosod Gwrychoedd.

6. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dirprwyo’r pwer i benderfynu ar apeliadau i Arolygwyr. Nid oes terfynau amser statudol ar gyfer ymdrin ag apeliadau, ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn darparu dyddiadau cau dros dro i’r partïon ar gyfer gwneud cynrychioliadau. Copi o unrhyw sylwadau gan y Cyngor Cymuned;

Ymdrinnir ag apeliadau yn ysbryd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Threfn (Cyfeiriadau ac Apeliadau) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig)(Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 390 (W.52).

Mae gan y naill barti neu’r llall hawl i gael gwrandawiad gan Arolygydd a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhelir gwrandawiadau yn ysbryd Rheolau Cynllunio Gwlad a Threfn (Y Weithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 1271.

Gall y naill barti neu’r llall wneud cais am ymchwiliad lleol neu gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu bod ymchwiliad yn angenrheidiol.

Cynhelir ymchwiliadau yn unol â Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfyniadau gan Arolygwyr) (Rheolau Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003 OS 2003 Rhif 1267

O dan amgylchiadau eithriadol iawn, efallai y gellir adfer yr apêl er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu arni. Yn yr achosion hyn, bydd yr ymchwiliadau yn dilyn ysbryd Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ymchwiliadau)(Cymru) 2003, SI 2003 Rhif 1266.

Mewn achosion lle bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu penderfynu ar yr apêl ei hun (gweler Paragraff 21), bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac anfonir copi o’r adroddiad gyda’r llythyr penderfyniad.


7. Cynghorir darpar geisyddion i siarad â’u ALl i geisio datrys unrhyw anawsterau neu anghytundebau cyn i apêl gael ei gwneud. Dim ond fel dewis olaf y dylid gwneud apêl.

Sut i apelio

8. Mae’n rhaid i’r apêl gael ei gwneud o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y derbyniwyd yr Hysbysiad Cadw neu Ailosod. Efallai y caniateir cyfnod hwy mewn amgylchiadau eithriadol iawn.

9. Dylid gwneud eich hysbysiad apêl yn ysgrifenedig (nid oes ffurflenni apelio) a dylai gynnwys:

  • sail eich apêl;
  • copi o’r Hysbysiad Cadw neu Ailosod a gyhoeddwyd gan yr ALl ac unrhyw ohebiaeth berthnasol arall rhyngoch chi;
  • unrhyw ddogfennaeth arall a allai ategu eich achos yn eich barn chi;
  • datganiad yn dynodi pa un a hoffech i’r apêl gael ei thrin drwy gynrychioliadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
    (Disgrifir y tri dull isod ym mharagraffau 14, 17 a 19.)


10 Dylid anfon eich hysbysiad apêl a’r dogfennau i:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ar gyfer Lloegr cysylltwch:

The Planning Inspectorate
Room 4/19 Eagle Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay Bristol BS1 6PN


Ffôn : 0117 372 8812
Ffacs: 0117 372 6093


11. Wrth anfon eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio, dylid anfon copi i’r ALl a gyhoeddodd yr Hysbysiad hefyd.

Effaith gwneud apêl

12. Pan wneir apêl yn erbyn Hysbysiad Cadw, bydd yr hysbysiad yn aros mewn grym nes penderfynir ar yr apêl.

13. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cadarnhau eu bod wedi derbyn eich hysbysiad apêl ac yn ysgrifennu at yr ALl i ofyn am eu sylwadau ar yr apêl. Gofynnir i’r awdurdod ddarparu copïau o’r canlynol hefyd:

  • copi o’ch cais i symud y gwrych (ar gyfer Hysbysiadau Cadw):
  • copi o’r Hysbysiad Cadw neu Ailosod;
  • copi o unrhyw sylwadau gan y Cyngor Cymuned;
  • cynllun o’r lleoliad;
  • gwerthusiad yr awdurdod o’r gwrych. Dylai hyn gynnwys cynllun yn dangos lleoliad y gwrych a chopïau o ddogfennau/cynlluniau ffynhonnell lle yr honnir bod y gwrych yn bwysig am resymau hanesyddol a/neu archeolegol. Pan fydd cyfansoddiad rhywogaeth yn berthnasol, bydd angen cynnal arolwg a dylai hyn gynnwys nodweddion cysylltiedig hefyd os dibynnir arnynt.

Anfonir copi o’r dogfennau hyn atoch yn uniongyrchol gan yr awdurdod. Gofynnir i’r ALl hefyd a ydynt yn cytuno ar gynrychioliadau ysgrifenedig neu a ydynt yn dymuno parhau â’r apêl drwy wrandawiad/ymchwiliad lleol.

Cynrychioliadau Ysgrifenedig

14. Y dull ysgrifenedig o ymdrin ag apêl yw drwy gyfnewid datganiadau rhyngoch chi a’r awdurdod. Dilynir hyn gan ymweliad â safle’r gwrych gan Arolygydd a fydd yn gyfrifol am benderfynu ar yr apêl. Ymdrinnir ag apeliadau yn naws Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apeliadau) (Gweithdrefn ar gyfer Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 390 (W.52).

Gofynnir i’r ALl ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani ym mharagraff.

15 o fewn 2 wythnos i’r dyddiad y derbynnir yr apêl fel apêl ddilys gan yr Arolygiaeth Gynllunio (y dyddiad dechrau). Os byddant yn cytuno ar y weithdrefn ysgrifenedig, bydd yr Arolygiaeth yn gwneud trefniadau i ymweld â’r safle. O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau, dylech chi a’r ALl anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad i’r Arolygiaeth. Mae gan unrhyw bartïon â diddordeb gyfle i wneud sylwadau o fewn y cyfnod hwn hefyd. Gallwch chi a’r ALl wneud sylwadau ar yr holl gynrychioliadau o fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau. Yna, bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle.

16. Mae’n arferol i gynrychiolydd o’r ddau barti ymweld â’r safle gyda’r Arolygydd, er mwyn cael mynediad i’r safle a nodi’r gwrych. Fodd bynnag, ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu unrhyw drafodaeth ynghylch rhinweddau’r achos, a bydd yn cyfyngu ar y cwestiynau i drafod nodweddion ffisegol y gwrych ei hun. Mae’n rhaid i’r holl dystiolaeth gael ei rhoi yn ysgrifenedig.

Gwrandawiadau

17. Mae gan y naill barti neu’r llall yr hawl i gael eu clywed gan Arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad. Bydd gwrandawiad yn caniatáu i’r materion gael eu trafod o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd a dilynir hyn gan ymweliad â’r safle, a drefnir yn ystod y gwrandawiad. Mae’r amserlen ar gyfer cyflwyno datganiadau yn debyg i’r amserlen ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig. Gall trigolion lleol a phobl eraill â diddordeb fynychu’r gwrandawiad a mynegi eu barn, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.

18. Cynhelir gwrandawiadau yn naws Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 1271.

Ymchwiliadau

19. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cynnal ymchwiliad. Gallai hyn ddigwydd pan allai fod angen croesholi neu pan fydd nifer fawr o gyflwyniadau neu lawer iawn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd. Gall y naill barti neu’r llall ofyn am ymchwiliad lleol neu gallai’r Cynulliad benderfynu bod ymchwiliad yn angenrheidiol. Mae’r amserlen ar gyfer cyflwyno datganiadau yn debyg i’r amserlen ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig. Gofynnir i chi a’r ALl ddarparu datganiad o dir cyffredin ac hefyd proflenni tystiolaeth os bwriedir galw ar dystion arbenigol. Gall trigolion lleol a phobl eraill â diddordeb fynychu’r ymchwiliad a mynegi eu barn, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.

20. Cynhelir gwrandawiadau yn naws Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfyniad gan Arolygwyr) (Rheoliadau Gweithdrefnau Ymchwiliad) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 1267.

Adfer

21. Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, gellir adfer yr apêl er mwyn i’r Cynulliad benderfynu arni. Yn yr achosion hyn, bydd ymchwiliadau yn dilyn yn naws Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn ar gyfer Ymchwiliad) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 1266.

Penderfyniadau ar Apeliadau

22. Yn dilyn ymweliad â’r safle, gwrandawiad neu ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn ystyried yr holl gynrychioliadau cyn dod i benderfyniad. Bydd y penderfyniad, a gyhoeddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn cwmpasu’r pwyntiau pwysicaf a mwyaf perthnasol ac yn rhoi rhesymau dros y penderfyniad y daethpwyd iddo. Gallai’r Arolygydd ganiatáu’r apêl a dileu’r Hysbysiad, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, neu gallai ei newid. Fel arall, gallai’r Arolygydd wrthod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, gan adael yr Hysbysiad i sefyll naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol. Anfonir copi o’r llythyr penderfyniad i’r ALl hefyd.

23. Mewn achosion lle y mae’r Cynulliad wedi penderfynu dod i benderfyniad ar yr apêl ei hun (gweler Paragraff 22), bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad i’r Cynulliad, ac anfonir copi ohono gyda’r llythyr penderfyniad.

24. Mae copïau o’r llythyrau penderfyniad ar gael i bobl â diddordeb am dâl bychan. Gellir cael y rhain o:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 5670

Tynnu Apêl yn Ôl

25. Gellir tynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyhyd ag yr hysbysir yr Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifenedig. Dylid anfon copi i’r ALl. Os tynnir yr apêl yn ôl, bydd yr hysbysiad Cadw/Ailosod yn sefyll o hyd.

Costau

26. Gellir dyfarnu costau i’r naill barti neu’r llall mewn achosion yr ymdrinnir â hwy drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol. Dylid gwneud cais am gostau i’r Arolygydd yn y gwrandawiad/ymchwiliad a gellir eu dyfarnu ar y sail bod y parti arall wedi ymddwyn yn “afresymol” gan beri i’r parti sy’n ceisio costau dalu treuliau diangen neu wastraffus (mae Cylchlythyr 8/93 yn cyfeirio at hyn).

27. Gellir cyflwyno cais am gostau i’r Arolygydd os caiff y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ei ganslo o ganlyniad i dynnu’r apêl yn ôl yn hwyr. Dylid anfon cais o’r math hwn i:

Planning Inspectorate
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3857
Ffacs: 029 2082 5150

Cwynion am y Penderfyniad

28. Gweler yr adran Cwyno am ragor o wybodaeth.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English