Apeliadau AmgylcheddolDalier sylw: Nid ydym yn cyhoeddi unrhyw benderfyniadau apêl ar y wefan ond maent i'w cael o'r dudalen Penderfyniadau ar Apeliadau. Apeliadau Caniatad Sylweddau PeryglusMae gwahanol fathau a meintiau o sylweddau sy'n destunau rheolaeth wedi'u nodi yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Sylweddau Peryglus) 1992. Mae caniatâd yr Awdurdod Sylweddau Peryglus (HSA) yn ofynnol er mwyn cadw'r maint a ragnodir o unrhyw sylwedd o'r fath. Mae Adran 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 yn gwneud darpariaethau ar gyfer apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylech ein hysbysu os ydych yn apelio, neu'n bwriadu apelio yn erbyn gwrthod caniatâd Cynllunio am gynnig datblygu cysylltiedig, gan y byddwn yn ymdrin â'r ddwy apêl gyda'i gilydd, fwy na thebyg. Mae'r nodiadau hyn yn amlinellu'r amgylchiadau pan y gallech wneud apêl a'r weithdrefn ar gyfer gwneud hynny. Rheolau Gwrychoedd 1997Caniatad Gollwng DwrTrwyddedau Rheoli GwastraffMae’r arweiniad hwn yn cynnwys gwybodaeth am y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd (yr awdurdodau rheoleiddio gwastraff gynt) i wrthod, diwygio neu nacáu cais am drwydded rheoli gwastraff. Mae’r arweiniad yn esbonio’r cefndir deddfwriaethol, yn casglu ynghyd y gwahanol gyhoeddiadau sy’n berthnasol i’r broses hon ac yn tynnu sylw at rai o’r materion penodol a all fod yn destun apêl. Cyfeiriad Apeliadau AmgylcheddolYr Arolygiaeth Gynllunio Ffôn: 029 2082 5155 Yn aml, fe fydd darllen ein dudalen Cwestiynnau Cyffredin yn rhoi ateb i unrhyw gwestiynnau cyn cysylltu ar Arolygiaeth. Ffurflenni cysylltiedigMae’r ffurflenni isod yn agor o fewn ffenestr pori newydd.
Sut i edrych ar ddogfennau PDFGallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |