Apeliadau Caniatâd Sylweddau Peryglus – Adran 21 Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990Ffurflen apêl Caniatâd Sylweddau
Peryglus Ffurflen Apêl - Ffurf PDF Gwybodaeth GefndirGwneir ceisiadau i'r Awdurdod Sylweddau Peryglus (HSA). Gellir gwneud cais am Ganiatâd Sylweddau Peryglus newydd, i ddileu amodau o ganiatâd presennol, neu i barhau â chaniatâd presennol. Gall Awdurdodau ddarparu ffurflenni gwahanol am y mathau amrywiol o geisiadau, ac mae rhai dogfennau hanfodol y mae'n rhaid iddynt gyd-fynd â'r ffurflenni. Mae'n rhaid i'r Awdurdod roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad o fewn 8 wythnos o'r dyddiad y derbynnir y cais, neu o fewn cyfnod estynedig y cytunwyd arno yn ysgrifenedig. Yn dibynnu ar y canlyniad, efallai y byddech am weithredu eich hawl i apelio. Mae'r gweithdrefnau apêl i'w dilyn wedi'u hamlinellu yn Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992, fel y'i diwygiwyd. Rhoddir arweiniad hefyd yng Nghylchlythyr 20/01, 'Cyfyngiadau Cynllunio ar Sylweddau Peryglus' http://www.cymru.gov.uk/subiplanning/content/circulars/hazardous-w.pdf NoderYn rhinwedd erthygl 3 Gorchymyn (trosglwyddo Swyddogaethau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 (O.S. 1999/672), ynghyd ag adran 118(3) o Ddeddf 2004, mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfryw faterion bellach yn ymarferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Nodiadau canllaw ar gyfer ceiswyr Rheoliadau cynllunio (Sylweddau peryglus) 1992 Nodiadau ar gyfer ceiswyr
ar Fformat HTML
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |