Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Deddf Hawliau Dynol

Goblygiadau i’r Arolygiaeth Gynllunio

Mae’r Ddeddf yn ymgorffori hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i mewn i gyfraith y DU. Mae nifer o’r hawliau hyn yn berthnasol i waith yr Arolygiaeth Gynllunio. Gallant fod yn berthnasol i’r gweithdrefnau yr ydym yn eu gweithredu neu i’r achosion a gyflwynir gan y partïon.

Erthygl 6 (yr hawl i brawf teg) yw’r brif erthygl sy’n berthnasol i’r weithdrefn. Mae erthyglau eraill yn delio â chamwahaniaethu a rhyddid mynegiant. Roedd dilysrwydd y gweithdrefnau yr ydym yn eu gweithredu yn agored i’w herio yn y llysoedd. Ym mis Mai 2001, newidiodd Ty’r Arglwyddi farn y Llys Adrannol ar achos mawr (Alconbury), gan farnu bod y weithdrefn lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau ac ar achosion eraill yn gyson ag Erthygl 6.

O ran y modd yr ydym yn gweithredu gweithdrefnau, mae’r syniad o degwch a ymgorfforir yn Erthygl 6 yn agos i egwyddorion natur agored, tegwch a didueddrwydd (egwyddorion “Franks”) y mae’r Arolygiaeth wedi’u dilyn ers nifer o flynyddoedd. Er ein bod yn ystyried unrhyw gynrychioliadau sy’n cyfeirio at yr erthygl yn ofalus, nid ydym yn disgwyl i unrhyw wahaniaeth sylweddol ymddangos rhwng yr egwyddorion Franks ac Erthygl 6.

Gallai erthyglau eraill fod yn berthnasol i’r achosion a gyflwynir gan y partïon. Y mwyaf nodedig yw Erthygl 8, sy’n cyflwyno’r hawl i barchu bywyd preifat a theuluol a’r cartref. Cyfeiria Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf at fwynhau eiddo yn heddychlon. Dim ond os yw’r ymyrraeth yn hawl yr unigolyn perthnasol yn llai pwysig na diddordeb y cyhoedd y gall cais a wneir o dan yr erthyglau hyn lwyddo.

Yn y gyfraith achos berthnasol (yn bennaf, hyd yn hyn, y Llys Iawnderau Dynol Ewrop) anaml iawn y daethpwyd o hyd i achos lle torrwyd hawliau dynol unigolyn. Gall effeithiau llai difrifol fod yn briodol fel ystyriaethau perthnasol, ond nid ydynt yn debygol o lwyddo fel sail achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.

Cysylltiadau Perthnasol

Mae’r cysylltiadau isod yn agor eich porwr mewn ffenestr newydd.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English