Lleoliad a Chyfleusterau ar gyfer Ymchwiliadau Cyhoeddus, Gwrandawiadau ac Archwiliadau1. Darperir y lleoliad a'r cyfleusterau ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus, gwrandawiadau ac archwiliadau i apeliadau cynllunio ac apeliadau cysylltiedig a cheisiadau a alwyd i mewn, gorchmynion prynu gorfodol a hawliau tramwy, dogfennau cynlluniau datblygu a'u tebyg ar y cyfan gan Awdurdodau Cynllunio Lleol neu Awdurdodau sy'n Gwneud Gorchmynion. Lleoliad5. Dylai'r lleoliad:
Dylid sicrhau bod digon o arwyddion yn arwain at y lleoliad ac y gellir ei gyrraedd yn uniongyrchol ac yn hawdd, heb fynd drwy ystafelloedd neu swyddfeydd eraill. Yn arbennig, mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl 2006 i sicrhau bod y cyfleusterau a ddarperir yn hygyrch i bobl ag anableddau, drwy wneud addasiadau priodol os oes angen. Gweler y nodyn a'r holiadur atodedig i gael rhagor o fanylion. Yr Ystafell6. Dylai'r ystafell fod yn ddigon mawr i gynnal y nifer o bobl y disgwylir iddynt fod yn bresennol yn gyfforddus ond nid yw neuaddau mawr yn briodol ar gyfer gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad lle na fydd ond ychydig o bobl yn debygol o fod yn bresennol. Yn yr un modd, nid yw ystafelloedd bach yn briodol ar gyfer ymchwiliadau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd. Cyngor ar Fynediad13. Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod lleoliadau ar gyfer gwrandawiadau ac ymchwiliadau yn hygyrch ond nid yw hyn yn golygu nad yw Arolygwyr yn atebol am hyn hefyd. Gall problemau o ran mynediad effeithio ar aelodau eraill o'r cyhoedd, e.e. gofalwyr neu warcheidwaid gyda chadeiriau gwthio neu blant ifanc a phobl anabl, a gallant gynnwys:
Os bydd prinder cyfleusterau priodol yn annerbyniol ym marn yr Arolygydd yn dderbyniol caiff y gwrandawiad neu'r ymchwiliad ei ohirio hyd nes y deuir o hyd i leoliad sy'n fwy hygyrch neu hyd nes y darperir cyfleusterau priodol. Cynllun Ystafell yr Ymchwiliad14., Dylai bwrdd yr Arolygydd, a ddylai fod â sgrin preifatrwydd, fod mewn lleoliad canolog ar un pen neu ochr o'r ystafell, ar blatfform isel yn ddelfrydol. Dylid gosod y bwrdd fel na fydd yn rhaid i bobl gerdded y tu ôl i'r Arolygydd. Dylid creu gweithfan gyfforddus i'r Arolygydd gyda digon o fyrddau a chadeiriau addas - dylai'r bwrdd fod yn ddigon mawr i osod cynlluniau arno, ac mae bwrdd i'r ochr i roi dogfennau arno yn ddefnyddiol. Fel arfer dylai fod modd troi'r gadair a dylai gynnal y cefn yn briodol. Cynllun Ystafell yr Archwiliad neu Ystafell y Gwrandawiad (gan gynnwys sesiynau bord gron)23. Dylai'r trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu archwiliad gael eu cynllunio i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer trafod, ac i leihau neu osgoi ffurfioldeb ymchwiliad. Yn ddelfrydol bydd y lleoliad yn ystafell bwyllgora neu fan tebyg, sy'n ddigon mawr i fod yn gyfforddus i'r holl bobl hynny sy'n debygol o fod yn bresennol, ond heb fod yn rhy fawr fel ei bod yn anodd clywed. Yn gyffredinol, mae siambrau cyngor yn anaddas. Fel arfer dylai'r Arolygydd a'r partïon (gan gynnwys partïon â diddordeb) allu eistedd o amgylch bwrdd mawr neu fyrddau wedi'u trefnu mewn siâp petryal o faint digonol. Os disgwylir i nifer fawr o bartïon â diddordeb neu wylwyr fod yn bresennol, efallai y bydd angen gosod seddau ychwanegol y tu hwnt i'r bwrdd, yn wynebu cadair yr Arolygydd. Y nod yw sicrhau bod pawb sy'n bresennol, gan gynnwys y rheini ag anableddau neu anghenion arbennig yn gallu clywed, gweld a chymryd rhan yn yr achos heb anhawster. Dylai offer sain fod ar gael hefyd i'w gwneud yn haws i bobl glywed. Yr Iaith Gymraeg24. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd siarad Cymraeg mewn gwrandawiadau, ymchwiliadau ac archwiliadau a drefnir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd unrhyw ddeunydd a gyhoeddir (gan gynnwys hysbysiadau ffurfiol) yn datgan yn glir bod croeso i'r cyhoedd gyfrannu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn darparu cyfleusterau cyfieithu i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i bob parti yn yr apêl. 25. Gofynnwn i unrhyw un sydd am siarad Cymraeg roi gwybod i'r Arolygiaeth ymlaen llaw fel y gall yr awdurdod lleol drefnu i wasanaeth cyfieithu gael ei ddarparu cyn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad. Gwneir y cais hwn yn yr hysbysiadau a'r llythyrau ffurfiol. Gellir gwneud ceisiadau ar y diwrnod er y gall hyn ohirio amser dechrau'r ymchwiliad neu'r gwrandawiad. 26. Byddwn yn penderfynu p'un a ddylai Arolygydd sy'n siarad Cymraeg gynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad gan ystyried pob ffactor perthnasol gan gynnwys, lleoliad y digwyddiad ac a oes Arolygydd ar gael sy'n siarad Cymraeg. Ieithoedd Eraill27. Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau, ymchwiliadau ac archwiliadau yn Saesneg. Efallai y bydd angen cael gwasanaethau cyfieithu/dehongli ar gyfer unigolion neu grwpiau os nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Ystafelloedd Cotiau a Thoiledau28. Dylai cyfleusterau toiled fod yn ddigonol gydag arwyddion clir. Dylid sicrhau y gellir cadw dillad awyr agored ar wahân. Dylai cyfleusterau toiled fod yn hygyrch i bobl anabl. Dylai cyfleusterau toiled fod yn hygyrch drwy gydol y digwyddiad heb fod angen i'r cyhoedd fynd drwy ddrysau lle y byddai'n rhaid iddynt ofyn am gael mynd i mewn ac allan. Llungopïo29. Dylid sicrhau bod darpariaeth ar gael i gopïo dogfennau yn gyflym yn ystod yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad. Ystafelloedd Ymwisgo30. Y tu allan i ystafell yr ymchwiliad, gwrandawiad neu archwiliad dylid cadw'r Arolygwyr a'r partïon perthnasol ar wahân. Felly, lle bynnag y bo’n bosibl, dylid darparu ystafell i’r Arolygydd allu mynd iddi er mwyn osgoi cyswllt â'r partïon cyn ac yn ystod seibiannau yn yr achos ac i adael dogfennau ac eiddo personol yno. Dylai’r ystafell hon fod yn agos at yr ystafell a dylai fod bwrdd, cadeiriau a ffôn ynddi. Mae ystafell ymwisgo yn hanfodol ar gyfer ymchwiliadau sy’n para mwy na diwrnod. Iechyd a Diogelwch33. Yr awdurdod lleol, a/neu berchennog trydydd parti adeiladau a logir sy’n gyfrifol am ddiogelwch yr adeiladau a’r bobl sy’n eu defnyddio. Pwyntiau Eraill i'w Hystyried34. Efallai y bydd grwpiau penodol o bobl yn ystyried bod rhai lleoliadau yn amhriodol e.e. adeilad crefyddol neu eiddo trwyddedig ac felly dylid eu hosgoi fel arfer. Dylid darparu jygiau o ddŵr ffres a gwydrau hefyd ar gyfer yr Arolygydd, yr eiriolwyr a'r tystion. Annex 1 - CYNLLUN AWGRYMEDIG AR GYFER YSTAFELL YMCHWILIAD
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |