Nodiadau Canllaw ar gyfer Gwneud Apeliadau Caniatâd Adeilad Rhestredig neu Ganiatâd Ardal GadwraethMae ein llyfryn ‘Gwneud eich apêl gynllunio’ yn egluro’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â gwneud apêl o dan adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae’r mwyafrif o’r cyngor yn berthnasol i naill ai apeliadau caniatâd adeilad rhestredig neu apeliadau caniatâd ardal gadwraeth o dan Adran 20 Deddf Gynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Darllenwch y llyfryn, yn arbennig Atodiad 2, a’r nodiadau hyn,
yn ofalus Os yw eich apêl yn ymwneud â chaniatâd cynllunio, rhaid i chi gael y ffurflenni priodol gennym o’r cyfeiriad isod: Yr Arolygiaeth Gynllunio Ffôn: 029 2082 3892 Rhaid i chi gwblhau ffurflen apêl ar wahân ar gyfer pob
apêl
a wnewch. Dim ond yr ymgeisydd gwreiddiol a gaiff wneud apêl. O
bryd i’w gilydd, gall yr ymgeisydd roi caniatâd ysgrifenedig
i rywun arall apelio, ond byddwn yn cofnodi’r apêl yn enw’r
ymgeisydd gwreiddiol. Tystysgrifau PerchenogaethRhaid i’r apelydd gyflwyno hysbysiad i holl berchnogion yr adeilad(au). Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu tystysgrif i ddangos eich bod wedi gwneud hyn. Mae copi o dystysgrifau A a B ar y ffurflen apêl. Atodir rhai eraill i’r nodiadau hyn. Dewis y dystysgrif gywirDim ond un o’r tystysgrifau hyn, sef A, B, C neu D y mae’n rhaid i chi ei cwblhau. Mae tystysgrifau A a B ar y ffurflen apêl. Tystysgrif A – Cwblhewch hon os mai chi yw unig berchennog yr adeilad(au) sy’n ymwneud â’r apêl; os nad chi yw unig berchennog pob adeilad sy’n ymwneud â’r apêl, bydd un o’r canlynol yn berthnasol :- Tystysgrif B – Cwblhewch hon os gwyddoch enwau a chyfeiriadau
holl berchnogion yr adeilad(au) sy’n ymwneud â’r apêl.
Rhaid i chi ddefnyddio rhybudd un. Tystysgrif D – Cwblhewch hon os nad ydych yn gwybod enwau a chyfeiriadau perchnogion yr adeilad(au) sy’n ymwneud â’r apêl. Rhaid i chi sicrhau bod hysbysiad 2 yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol. Rhaid i chi anfon copi o’r hysbysiad a gyhoeddwyd atom gyda ffurflen eich apêl. Cyflwyno hysbysiadLle mae rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i berchennog, ac y gwyddoch eu henw a’u cyfeiriad, cewch ei gyflwyno’n bersonol iddynt, neu ei anfon trwy gyfrwng post cofrestredig neu ‘recorded delivery’ wedi’i gofnodi. Os oes rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i sefydliad, rhaid i chi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y sefydliad yn eu swyddfa gofrestredig neu yn eu prif swyddfa. Cewch ei gyflwyno yn unrhyw un o’r ffyrdd uchod. Tystysgrifau ffugMae unrhyw un sy’n cyflwyno tystysgrif sy’n cynnwys unrhyw ddatganiad sy’n ffug neu’n gamarweiniol, a hynny’n fwriadol neu’n fyrbwyll, yn atebol i ddirwy os dyfernir hwy’n euog. Nodiadau ar gyfer Cwblhau Tystysgrifau(i) Mae‘Perchennog’ yn golygu unigolyn â diddordeb rhyddfreiniol neu ddiddordeb prydles, â’i dymor annarfodedig heb fod yn llai na 7 blynedd. Tystysgrifau C a D yn Unig(ii) Disgrifiad o’r camau a gymerwyd. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |