Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cynlluniau Datblygu Lleol  

Cynlluniau Datblygu Lleol

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 wedi cyflwyno system newydd o gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) yng Nghymru i ddisodli'r Cynlluniau Datblygu Unedol (CDUau).

Mae'n rhaid i bob CDLl newydd gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol. Bydd yn ofynnol i'r Arolygydd a fydd yn gwneud yr archwiliad hwnnw asesu a yw'r cynllun cyffredinol yn gadarn yn hytrach nag ystyried gwrthwynebiadau unigol fel y gwneir ar hyn o bryd.

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Grwp Rhan-ddeiliaid CDLl, yn cynrychioli awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau sy'n ymwneud â'r gwaith o ddatblygu cynlluniau, i roi'r system newydd o gynlluniau datblygu i Gymru ar waith fel y'i nodwyd yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru – ‘Canllaw i Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl)’

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi creu ‘Canllaw i Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol’ yn dilyn cyhoeddi draft ymgynghori y llynedd.

Mae Rhan 6 o’r Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 un sefydlu system Cynllun Datblygu Lleol newydd i ddisodli’r Cynlluniau Datblygu Undeol cyfredol yng Nghymru. Rhan allweddol o’r system newydd yw profi p’un a yw’r cynllun yn ‘gadarn’ ai peidio.

Mae’r canllaw yn egluro sut yr asesir Cynlluniau Datblygu Lleol, gan ddehongli’r profion cadernid fel y dangosir yn ‘Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru’ (Mehefin 2005) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r canllaw hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut caiff Cynlluniau Datblygu Lleol eu harchwilio.

I weld yr canllaw ar Ffurff PDF '''' 202KB


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English