Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau Canllaw ar gyfer Gwneud Apêl yn erbyn Addasu neu Ryddhau Rhwymedi-gaeth Gynllunio

  1. Dim ond os ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth gynllunio ar neu ar ôl 25 Hydref 1991 a’i bod wedi bod ar waith am o leiaf bum mlynedd y gellir gwneud apêl i addasu neu ryddhau rhwymedigaeth gynllunio.
  2. Mae ein llyfryn ‘Gwneud eich apêl gynllunio’ yn egluro’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â gwneud apêl yn erbyn achos o wrthod caniatâd cynllunio. Mae’r rhan fwyaf o’r cyngor yr un mor berthnasol i apeliadau yn erbyn addasu neu ryddhau rhwymedigaeth gynllunio. Darllenwch y llyfryn a’r nodiadau hyn yn ofalus cyn cwblhau’r ffurflenni apelio.
  3. Mae’n rhaid i bob apêl ymwneud ag un cais yn unig. Mae’r hawl i apelio ar gael i unrhyw berson y gellir gorfodi rhwymedigaeth gynllunio yn ei erbyn. Mae hyn yn cynnwys y cyfamodwr gwreiddiol ac unrhyw un arall sy’n caffael diddordeb yn y tir ganddynt.
  4. Cofiwch bod yn rhaid i apêl gyrraedd yr Arolygiaeth o fewn 6 mis i’r dyddiad y cafwyd hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl), neu o fewn 6 mis i’r dyddiad y dylent fod wedi gwneud y penderfyniad.

NODYN – Ni ellir defnyddio’r ffurflen apelio ‘Addasu neu ryddhau
rhwymedigaethau cynllunio’ ar gyfer unrhyw fath arall o apêl. Os hoffech gyflwyno apêl mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig/ardal gadwraeth, gallwch gael y ffurflenni priodol oddi ar ein gwefan neu o’r cyfeiriad isod:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF11 3NQ

Ffôn: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150

Ebost: enquiries@planning-inspectorate.gsi.gov.uk


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English