Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Apeliadau Cynllunio Cymru

Noder: ni allwn dderbyn ffurflenni apêl neu gyflwyniadau ar apeliadau byw dros y Rhyngrwyd. Mae’n RHAID iddynt gael eu postio’n uniongyrchol i’r Arolygiaeth Gynllunio. Nid yw penderfyniadau apêl yn cael eu cyhoeddi ar y safle ond gellir cael gafael arnynt o’n tudalen Cysylltiadau Perthnasol.

Cwestiynau ac Atebion sy’n deillio o’r Rheolau Newydd ar gyfer Apeliadau Cynllunio

Rheolau a Rheoliadau Apeliadau Cynllunio

1 Mehefin 2003

Daeth rheolau a Rheoliadau newydd i rym o 1 Ebrill ac 1 Mehefin 2003 ar gyfer apeliadau cynllunio a wneir yng Nghymru. Mae’r trefniadau newydd hefyd yn berthnasol i apeliadau adeiladau rhestredig a chyda rhai addasiadau i geisiadau cynllunio galw i mewn, gweler Rheolau Newydd – Offerynnau Statudol am fwy o wybodaeth.

Yr Arolygwyr sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau, ond bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu ar ganran fechan ohonynt, fel arfer oherwydd bod y datblygiad yn fawr neu’n ddadleuol. Nodir y canllawiau cyfredol ar gyfer “adfer” apeliadau, yn paragraff 4.11.2 o Bolisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2003).

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml – Cwestiynau ac Atebion sy’n deillio o’r rheolau newydd ar gyfer apeliadau cynllunio.

Canllawiau

Gwneud eich apêl cynllunio (Cymru)
Mae’r canllaw hwn yn egluro’r weithdrefn apeliadau cynllunio ac mae’n cynnwys apeliadau sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig neu adeiladau mewn ardal gadwraeth. Caiff ei anelu at yr apelydd nad yw’n cael ei gynrychioli. I Edrych ar y canllaw, gweler yr adran cyhoeddiadau.

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio (Cymru)

Weithiau, gall penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) arwain at apêl. Dim ond y sawl a wnaeth gais am ganiatâd cynllunio a all apelio yn erbyn penderfyniad yr ACLl, ond os oedd gennych ddiddordeb yn y cais, yna mae’n debyg y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn yr apêl. Mae’r canllaw hwn yn egluro sut i fynegi ei sylwadau eich hun.

Cylchlythyrau

Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 07/2003 919kb
Apeliadau Cynllunio: Gweithdrefnau (gan gynnwys ymchwiliadau Ceisiadau Cynllunio galw i mewn)

Cysylltiadau Perthnasol

Gwe Gysylltiadau Perthnasol

Mae’r cysylltiad canlynol yn agor mewn ffenestr bori newydd:

Safon Ymarfer Cynllunio y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

 


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English