Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml – Cwestiynau ac Atebion yn deillio o’r rheolau newydd ar gyfer apeliadau cynllunio

Cwestiynau a ofynnir yn aml ac atebion am y trefniadau newydd ar gyfer Apeliadau Cynllunio a gyflwynir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 (Cynrychioliadau Ysgrifenedig) neu 1 Mehefin 2003 (Gwrandawiadau neu Ymchwiliadau) i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 07/2003 (Ffurf PDF 919Kb) o’r enw “Gweithdrefnau Apeliadau Cynllunio (gan gynnwys ymchwiliadau i geisiadau a alwyd i mewn)” yn rhoi cyngor manwl ar weithredu’r rheolau. Gellir dod o hyd i ymholiadau cyffredinol ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Pam caniatáu i’r ACLl fynd yn gyntaf mewn Apeliadau Adran 78?

Er mwyn rhoi gwell tegwch, drwy roi gwell cyfle i ACLl i gyflwyno eu hachos. Dylai caniatáu i ACLl agor yr Apeliadau helpu apelyddion (yn enwedig apelyddion na chânt eu cynrychioli) i ddeall penderfyniad yr ACLl i wrthod caniatâd yn iawn. Bydd hyn yn helpu i gadw ffocws yr ymchwiliad ar faterion allweddol.

Pa mor dda fydd yr Arolygiaeth wrth sicrhau nad yw’r datganiadau 9 wythnos yn cynnwys tystiolaeth newydd?

Byddwn yn drylwyr. Efallai y bydd tystiolaeth newydd yn cael ei cholli weithiau ond byddwn yn edrych yn fanwl iawn.

Gan na fydd unrhyw sylwadau yn cael eu cyflwyno ar ôl 9 wythnos, beth fyddai’r ffordd orau i ymdrin â thystiolaeth newydd mewn datganiadau tystiolaeth ysgrifenedig; ymdrinnir â hyn ar hyn o bryd fel tystiolaeth atodol?

Ni ddylid cael unrhyw dystiolaeth atodol, ond gallai fod yn dderbyniol os bydd yn arbed amser yn yr ymchwiliad.

Mewn achos cynrychioliadau ysgrifenedig, sut mae sail lawn yr apêl yn wahanol i’r datganiad 6 wythnos?

Yr Arfer gorau fyddai cyflwyno sail llawn wrth gyflwyno’r apêl. Nid oes rhaid i chi gyflwyno unrhyw beth adeg y cam 6 wythnos ond os byddwch yn cyflwyno sail ddigonol dros apelio ar adeg cyflwyno ac yna’n anfon datganiad 6 wythnos llawnach, ni chewch eich cosbi.

A fydd yn rhaid cynnwys y llythyr i hysbysu partïon sydd â diddordeb gyda dogfennau’r holiadur?

Bydd.

Ai’r hen Reolau ynteu’r Rheolau newydd fydd yn ymdrin ag apeliadau fydd eisoes gerbron yr Arolygiaeth ar 1af o Ebrill?

Ymdrinnir â phob apêl a derbynnir cyn neu ar ôl 1af Ebrill 2003 o dan y rheolau a’r rheoliadau newydd. Ymdrinnir â’r apeliadau a dderbynnir cyn y dyddiad hwnnw nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud arnynt, gan yr hen reolau.

A fydd ffurflenni apêl newydd yn cael eu cyhoeddi?

Bydd.

A all yr ACLl barhau i wneud cais am wrandawiad os bydd yr apelydd wedi gofyn am y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig?

Gall, mae’r hawl i gael gwrandawiad, ar gyfer y naill barti neu’r llall, yn parhau o hyd.

Pwy sy’n archwilio sylwadau 9 wythnos er mwyn sicrhau mai dim ond sylwadau ydynt, ac nid tystiolaeth newydd?

Y staff gweinyddol yn yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ar hyn o bryd, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy mewn ymchwiliadau, nid oes rhaid i ACLl hysbysu partïon sydd â diddordeb am fanylion apêl neu ymchwiliad nes bod y manylion hynny wedi cael eu cadarnhau. Yn y Rheolau newydd, mae’n rhaid i ACLl hysbysu preswylwyr lleol o fewn 2 wythnos i’r dyddiad dechrau. A oes rhaid iddynt wedyn eu hysbysu eto?

Oes, ond mae’r rheolau’n caniatáu i ymchwiliad gael ei hysbysebu mewn un neu fwy o 3 cham h.y. cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd, anfon hysbysiad at bobl, gosod hysbysiad mewn lleoliad amlwg.

Yr apelydd sy’n cyflwyno Datganiad ar Sail Gyffredin. Os caiff ei gyflwyno’n hwyr neu os na chyflwynir ef o gwbl, a ellid ystyried hyn fel ymddygiad afresymol ac yn sail dros wneud cais am gostau?

Gellir, os yw’r rheswm dros beidio â chyflwyno Datganiad ar Sail Gyffredin yn fethiant gan y naill barti neu’r llall i gydweithredu wrth ei baratoi.

A argymhellir y dylid postio datganiadau drwy wasanaeth ‘recorded delivery’?

Ddim o reidrwydd. Byddwn yn gweithredu’r un egwyddor ag a wnawn i apeliadau gorfodi. Dylid eu postio mewn pryd i gyrraedd cyn y dyddiad cau, byddwn yn edrych ar y marciau post. Gallech gael tystysgrif postio os bydd y dyddiad cau yn agos.

A yw’r cylchlythyr yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer yr hyn y dylid ei gynnwys mewn datganiadau?

Nac ydy, ond mae’n cynnwys templed ar gyfer datganiad o sail gyffredin a chyngor ar arfer gorau.

A yw’r crynodeb 1,500 o eiriau o ddatganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn dal yn berthnasol?

Ydy. Mae’n amodol ar yr un terfyn amser â’r datganiad llawn.

A oes rhaid rhoi amodau yn llawn neu a yw’n ddigonol cael penawdau o delerau?

Mae penawdau o delerau yn ddigonol ar gyfer amodau arferol ond byddai’n fwy defnyddiol pe rhoddwyd hwy’n llawn ar gyfer yr achosion mwy cymhleth.

Os caiff datganiad ei ddychwelyd at barti, a fydd yr apêl yn dal i fynd ymlaen i benderfyniad?

Bydd y parti yn cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth yn y gwrandawiad ac yn yr ymchwiliad ar gyfer y mathau hynny o weithdrefnau – ond gall costau gael eu dyfarnu yn eu herbyn. Ar gyfer achosion cynrychioliadau ysgrifenedig, bydd yr Arolygydd yn gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth a dderbyniwyd o fewn y terfynau amser. Gall yr Arolygydd ofyn i’r naill barti neu’r llall gyflwyno gwybodaeth bellach os bydd ei hangen cyn y dyddiad cau.

A oes partïon Rheolau 6(6) yn y rheolau newydd ac a ydynt yn amodol ar yr un terfynau amser â’r partïon eraill?

Oes, ceir partïon Rheolau 6(6) yn y rheolau newydd ac maent yn amodol ar yr un terfynau amser â phartïon eraill. Bydd yr Arolygiaeth yn dychwelyd datganiadau ac ati i’r partïon hyn pan na chânt eu derbyn o fewn y terfynau amser.


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English