Gorchmynion Mapiau Diffiniol

1 Pan fyddwn yn derbyn gorchymyn
1.1 Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn gorchymyn, rydym
yn gwneud yn siwr ei fod ar ffurf sy’n unol â Rheoliadau
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Mapiau a Datganiadau Diffiniol)1993 (Offeryn
Statudol 1993 Rhif
12).
1.2 Pan fyddwn yn gwirio ffurf gorchymyn, nid oes
gennym unrhyw bwer i wneud dyfarniad pendant ar pa un a yw’n cydymffurfio â’r
Rheoliadau ai peidio. Dim ond y llysoedd a all wneud y math hwn o ddyfarniad.
Fodd bynnag, os credwn fod rhywbeth o’i le gyda’r gorchymyn,
er enghraifft os nad yw ar y ffurf gywir i raddau helaeth, byddwn yn
ei wrthod. Yna, byddwn yn ei ddychwelyd at yr awdurdod a’i hanfonodd
gyda llythyr yn esbonio’r rheswm dros ei wrthod ac yn gofyn i’r
awdurdod hysbysu pawb sy’n gysylltiedig ag ef.
1.3 Yna, byddwn yn gwneud yn siwr bod yr awdurdod
wedi anfon yr holl ddogfennau sydd eu hangen arnom i gefnogi’r gorchymyn fel y’u
rhestrir yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 5/93. Mae hyn yn cynnwys
datganiad o’r rhesymau pam fod yr awdurdod yn ystyried y dylem
gadarnhau’r gorchymyn ynghyd ag unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau’r
awdurdod ar y rhain.
1.4 Os nad yw’r awdurdod yn anfon rhai o’r
dogfennau sydd eu hangen arnom, byddwn yn gofyn amdanynt. Mae hyn yn
peri oedi wrth
brosesu gorchymyn.
1.5 Os yw ffurf y gorchymyn yn gywir a’n bod wedi derbyn yr holl
ddogfennau sydd eu hangen arnom, byddwn yn ysgrifennu at yr awdurdod
a’r rhai sydd wedi gwneud gwrthwynebiadau. Yn ein llythyr, byddwn
yn egluro a yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn bwriadu parhau drwy gynrychioliadau
ysgrifenedig, gwrandawiad neu drwy ymchwiliad cyhoeddus lleol. (Gweler
rhannau 2, 3 neu 4 o’r llyfryn hwn.)
Gorchmynion nad yw’r awdurdod yn eu cefnogi
1.6 Pan fydd awdurdod yn anfon gorchymyn atom, mae’n rhaid iddo
nodi’n glir os nad yw eisiau cefnogi’r gorchymyn, neu os
yw’n dymuno ei wrthwynebu. Yn yr achosion hyn, rydym yn gofyn i’r
awdurdod ddweud wrthym pwy, yn eu barn hwy, a fydd yn dadlau dros y gorchymyn.
Yna, byddwn yn ysgrifennu at y person hwnnw ac yn rhoi’r cyfle
iddynt ddadlau dros y gorchymyn hwnnw trwy gydol yr ymchwiliad cyhoeddus
lleol, y gwrandawiad neu’r weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig.
1.7 Weithiau, nid yw awdurdodau am gefnogi gorchmynion
y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud wrthynt am eu gwneud.
Mae hyn yn digwydd
os yw rhywun yn gwneud cais am orchymyn i gael ei wneud ac yna’n
gwneud apêl lwyddiannus i’r Ysgrifennydd Gwladol yn erbyn
penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i wrthod ei wneud.
1.8 Gall amgylchiadau eraill godi sy’n arwain at awdurdod yn penderfynu
nad yw eisiau cefnogi ei orchymyn. Y rheswm mwyaf tebygol yw fod tystiolaeth
newydd wedi dod i’r amlwg ers i’r gorchymyn gael ei wneud
a bod yr awdurdod yn teimlo’n gryf na ddylid cadarnhau’r
gorchymyn.
1.9 Waeth beth yw’r rheswm dros beidio â bod
eisiau cefnogi’r
gorchymyn, mae’n rhaid i’r awdurdod o hyd anfon yr holl
ddogfennau sydd eu hangen arnom atom (gweler adran 1.3 uchod). Hefyd,
os bydd yr
achos yn mynd i ymchwiliad lleol cyhoeddus neu i wrandawiad (gweler
rhannau 3 a 4 y llyfryn hwn), bydd disgwyl i’r awdurdod o hyd
ddarparu lle addas ar gyfer yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad ac
i anfon cynrychiolydd.

|