2.1 Defnyddiwn ‘cynrychioliadau ysgrifenedig’, i olygu bod
yr Ysgrifennydd Gwladol neu ein Harolygydd yn gwneud penderfyniad yn
seiliedig ar y datganiadau a anfonwyd gan yr awdurdod sy’n gwneud
y gorchymyn a’r gwrthwynebwyr. Ni chynhelir ymchwiliad, ond bydd
ein harolygydd yn ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad
neu ysgrifennu adroddiad.
2.2 Defnyddiwn ‘gwrthwynebwyr’, i olygu unrhyw un sydd wedi
gwneud gwrthwynebiad i’r awdurdod cyn y terfyn amser a nodir yn
yr hysbysiad sy’n hysbysebu’r gorchymyn. Mae gan bob gwrthwynebydd
yr hawl i leisio eu barn gerbron arolygydd os dymunent.
2.3 Os yw’n angenrheidiol, byddwn yn ysgrifennu at bob gwrthwynebydd
ac at yr awdurdod er mwyn dweud wrthynt bod yr Ysgrifennydd Gwladol o’r
farn bod y gorchymyn yn addas ar gyfer y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig.
Ar gyfer y gwrthwynebwyr, byddwn hefyd yn amgáu copi o ddatganiad
yr awdurdod o’r rhesymau pam y dylid cadarnhau’r gorchymyn,
ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau.
2.4 Y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig yw’r un fwyaf addas
ar gyfer gorchmynion sydd ond wedi denu nifer fechan o wrthwynebiadau,
a dim un o’r rheini gan gyngor cymunedol. Mae’n rhaid i ni
fod yn siwr nad oes gormod o dystiolaeth i’w hasesu neu dystiolaeth
sy’n rhy gymhleth. Fel arall, bydd ymchwiliad neu wrandawiad
yn angenrheidiol. Os bydd unrhyw wrthwynebydd neu awdurdod yn dymuno
gwrandawiad,
byddwn yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol neu wrandawiad yn dilyn
y weithdrefn a nodir yn rhannau 3 a 4 y llyfryn hwn.
2.5 Unwaith y bydd pawb wedi cytuno i ddilyn y weithdrefn
cynrychioliadau ysgrifenedig, byddwn yn caniatáu pythefnos i wrthwynebwyr wneud
sylwadau ar ddatganiad a sylwadau’r awdurdod (a grybwyllir yn adran
2.3 uchod). Byddwn yn anfon unrhyw sylwadau a dderbyniwn i’r awdurdod,
a bydd ganddynt hwythau 14 diwrnod i ymateb. Bydd y broses o gyfnewid
sylwadau yn dod i ben pan na fydd gan yr awdurdod na’r gwrthwynebwyr
ragor o sylwadau. Mae’n bwysig cofio na fydd ailadrodd dadleuon
na hwyhau’r broses yn fanteisiol i neb a bydd yn gohirio’r
penderfyniad ar y gorchymyn. Felly, dylai bawb sicrhau eu bod yn rhoi
datganiad llawn o’u hachos yn eu cynrychioliad ysgrifenedig.
2.6 Unwaith y bydd yr holl sylwadau wedi’u cyfnewid, bydd ein harolygydd
yn ymweld â’r safle.
2.7 Os bydd unrhyw un o’r gwrthwynebwyr eisiau mynd gyda’r
arolygydd, bydd yn rhaid iddynt ofyn i ni yn ysgrifenedig cyn gynted
ag y bo’n bosibl. Yna, byddwn yn trefnu dyddiad lle y gall y gwrthwynebydd,
yr awdurdod a’n harolygydd fod yn bresennol. (Mae’n rhaid
i’r awdurdod fod yn bresennol). Byddwn hefyd yn gwahodd unrhyw
wrthwynebwyr eraill os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
2.8 Diben yr ymweliad safle hwn yw i’r arolygydd weld llwybr y
gorchymyn a’r ardal gyfagos ac i sylwi ar nodweddion ffisegol,
megis camfeydd, giatiau, ffensys, waliau, cloddiau a choed. Yn ystod
yr ymweliad safle, ni all yr arolygydd drafod y trefniadau a gyflwynwyd
gan yr awdurdod na’r gwrthwynebwyr. Ond gall y ddwy ochr gyfeirio
at nodweddion ffisegol y maent wedi’u crybwyll yn eu datganiadau.
2.9 Yn dilyn yr ymweliad safle, bydd yr arolygydd
yn astudio’r
gorchymyn a’r holl sylwadau a wnaed ac yna’n defnyddio’r
meini prawf perthnasol i ddod i benderfyniad.