Gorchmynion Mapiau Diffiniol

3. Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus lleol
Y camau cyntaf
3.1 Byddwn yn cynnal ymchwiliad os bydd unrhyw wrthwynebydd yn penderfynu
nad ydynt eisiau dilyn y weithdrefn ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig
ac ymweliad safle, neu os ydym yn ystyried bod ymchwiliad yn angenrheidiol.
3.2 Byddwn yn ysgrifennu at yr awdurdod ac
at yr holl wrthwynebwyr i ddweud wrthynt y caiff ymchwiliad cyhoeddus
lleol ei gynnal
i ymchwilio
i’r gorchymyn ac y caiff dyddiad a lleoliad eu trefnu cyn gynted
ag y bo’n bosibl. Ar gyfer y gwrthwynebwyr, byddwn hefyd yn amgáu
copi o ddatganiad yr awdurdod o’r rhesymau pam y dylid cadarnhau’r
gorchymyn, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau.
3.3 Efallai y bydd llawer o bobl wedi gwrthwynebu’r gorchymyn.
Felly, nid yw’n ymarferol i ni ymgynghori â phawb wrth bennu
dyddiadau ar gyfer ymchwiliadau. Byddwn yn gofyn i’r awdurdod awgrymu
dyddiad, ond mae’r dyddiad yn dibynnu hefyd ar ba bryd y mae’r
lle mwyaf addas ar gael o fewn pellter teithio rhesymol i safle’r
gorchymyn.
3.4 Unwaith bydd y dyddiad a’r lleoliad wedi’u pennu, byddwn
yn anfon y manylion i’r awdurdod, yr holl wrthwynebwyr ac i rai
sefydliadau cenedlaethol a lleol sydd â diddordeb mewn gorchmynion
hawliau tramwy. Yna, byddwn yn penodi arolygydd ar gyfer yr Ysgrifennydd
Gwladol.
3.5 Dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y byddwn
yn gohirio ymchwiliad.
Hysbysebu’r ymchwiliad
3.6 Mae’n rhaid i’r awdurdod hysbysebu’r ymchwiliad
mewn papur newydd lleol. Mae’n rhaid iddynt hefyd osod hysbysiadau
ar naill ben pob ffordd yr effeithir arni gan y gorchymyn ac hefyd yn
lle bynnag y mae hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn cael eu harddangos
yn yr ardal. Mae’n rhaid iddynt wneud hyn o leiaf 14 diwrnod cyn
y disgwylir i’r ymchwiliad ddechrau.
Pwy all fod yn bresennol?
3.7 Gall unrhyw un fynd i’r ymchwiliad.
3.8 Nid oes rhaid i unrhyw un fynd, ond disgwyliwn
i’r
awdurdod ac unrhyw un sydd wedi gwneud cais i ni am yr ymchwiliad,
fod yn bresennol.
(Os na allant fod yn bresennol, dylent anfon cynrychiolydd).
Prawf o dystiolaeth
3.9 Mae’n ddefnyddiol os yw’r awdurdod a’r gwrthwynebwyr
yn paratoi prawf o dystiolaeth. (Datganiad ysgrifenedig yw prawf o dystiolaeth
y bwriedir ei gyflwyno yn yr ymchwiliad ynghyd â chopi o unrhyw
ddogfennau y bwriedir eu cynhyrchu yno.)
3.10 Gall hyn arbed amser yn yr ymchwiliad
gan fod gan bob ochr syniad clir o’r hyn y bydd y llall yn ei ddweud. Gall hefyd helpu i osgoi
sefyllfa lle bydd pobl yn gofyn i’r ymchwiliad gael ei ohirio am
nad ydynt wedi cael amser i baratoi dadl yn erbyn tystiolaeth annisgwyl
(gweler adrannau 3.30 a 3.31 o’r llyfryn hwn). Gall pobl wastad
ychwanegu at eu prawf o dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.
3.11 Os bydd unrhyw un yn penderfynu paratoi
prawf o dystiolaeth, dylent ei anfon atom o leiaf dair wythnos cyn
dechrau’r ymchwiliad. Dylai
gwrthwynebwyr anfon copïau o’u prawf o dystiolaeth i’r
awdurdod ac atom ni (ar gyfer yr arolygydd). Dylai’r awdurdod anfon
copïau o’u prawf o dystiolaeth at y gwrthwynebwyr ac atom
ni.
Hyd yr ymchwiliad
3.12 Bydd y rhan fwyaf o ymchwiliadau yn para un neu ddau ddiwrnod.
Fodd bynnag, nid oes ffordd o ddarogan pa mor hir y pery ymchwiliad.
Dibynna
ar y nifer o bobl sydd eisiau siarad a maint y gorchymyn. Dibynna hefyd
ar faint o dystiolaeth sydd angen ei chyflwyno.
Y weithdrefn yn yr ymchwiliad
3.13 Yr arolygydd sy’n penderfynu ar
y weithdrefn yn ystod ymchwiliad. Ni cheir unrhyw reolau gweithdrefnol
ar gyfer ymchwiliadau
hawliau tramwy,
ond bydd yr ymchwiliad fel arfer ar y ffurf ganlynol.
Agor yr ymchwiliad a chyflwyniad yr arolygydd
3.14 Bydd yr arolygydd yn ei gyflwyno’i hun ac yn egluro sut y
mae’r gyfraith y gwneir y gorchymyn oddi tani yn effeithio ar
yr achos. Yna, bydd ef neu hi yn egluro sut bydd yr ymchwiliad yn parhau.
3.15 Bydd yr arolygydd yn gofyn am enwau’r rhai sydd eisiau siarad
ac yna’n penderfynu ym mha drefn y dylent siarad. Bydd gan wrthwynebwyr
yr hawl i siarad yn ystod yr ymchwiliad, ond bydd yr arolygydd fel rheol
yn caniatáu i unrhyw un sydd â rhywbeth perthnasol i’w
ddweud, siarad yn yr ymchwiliad. Dylai unrhyw un sydd eisiau siarad geisio
bod yno ar ddechrau’r ymchwiliad, ond nid yw hyn yn hanfodol.
3.16 Mae’n ddefnyddiol os yw pawb yn yr ymchwiliad yn ysgrifennu
eu henw a’u cyfeiriad llawn a manylion unrhyw sefydliad y gallent
fod yn ei gynrychioli yn glir ar y rhestr bresenoldeb y bydd yr awdurdod
yn ei dosbarthu.
3.17 Yn ystod y cam hwn o’r ymchwiliad, dylech ofyn unrhyw gwestiwn
sydd gennych ynglyn â’r weithdrefn, dweud wrth yr arolygydd
os bydd rhaid i chi adael yn gynnar neu wneud unrhyw gais am drefniadau
arbennig eraill. Unwaith y bydd yr arolygydd wedi egluro’r weithdrefn,
bydd ef neu hi yn cadw ati oni bai bod rhesymau da iawn dros ei newid.
Cyflwyno’r achosion
3.18 Fel arfer, bydd yr awdurdod yn cyflwyno ei achos
yn gyntaf. Ond os nad yw’r awdurdod yn cefnogi’r gorchymyn mwyach,cyfrifoldeb
rhywun arall sy’n cefnogi’r gorchymyn fydd cyflwyno’r
achos.
3.19 Gall yr awdurdod gyflwyno tystion i
roi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad. Os oes gan y tystion hynny
brawf o’u tystiolaethau
i’w cyflwyno fel tystiolaeth, dylai’r awdurdod ddarparu copïau
ar gyfer y gwrthwynebwyr a’r arolygydd yn yr ymchwiliad.
3.20 Caiff y gwrthwynebwyr fel arfer holi’r tystion hyn, ond bydd
yr arolygydd yn eu hatal os daw’n amlwg eu bod yn gwneud datganiad
yn hytrach nag yn gofyn cwestiynau, neu os yw eu cwestiynau’n
ailadroddus.
Fel arfer, ‘croesholi’ yw’r gair a ddefnyddir i ddisgrifio’r
weithdrefn hon.
3.21 Ni fydd pobl ar yr un ochr fel arfer
yn cael croesholi ei gilydd oni bai eu bod yn anghytuno ar bwynt pwysig.
Efallai y bydd
yr Arolygydd
hefyd am ofyn cwestiynau i’r sawl sy’n siarad.
3.22 Fel arfer, gwrandewir ar unrhyw un sydd
eisiau siarad o blaid gorchymyn ar ôl yr awdurdod. Efallai y bydd rhaid i’r bobl hyn a’u
tystion ateb cwestiynau gan y gwrthwynebwyr.
3.23 Yna, bydd y gwrthwynebwyr yn cyflwyno
eu hachosion ac yn galw ar eu tystion (os oes ganddynt rai). Yna, bydd
pobl eraill
yn cael siarad
yn erbyn y gorchymyn. Efallai y bydd rhaid i unrhyw un sy’n
rhoi tystiolaeth ateb cwestiynau gan yr ochr arall.
3.24 Ni ddylai pawb fod yn gallu dweud yr
hyn y maent am ei ddweud mewn ymchwiliad. Gall arolygydd wrthod gwrando
ar dystiolaeth
sy’n amherthnasol,
yn ailadroddus neu’n dramgwyddus.
3.25 Os bydd rhywun sydd wedi siarad yn erbyn
gorchymyn wedi cyflwyno llawer o dystiolaeth ac wedi galw ar sawl tyst,
bydd yr
arolygydd fel
arfer yn gadael iddynt wneud datganiad i gloi. Dylai’r datganiad
i gloi fod yn grynodeb bras o’r achos. Gall gyfeirio hefyd at
bwyntiau a wnaed gan yr ochr arall, ond ni ddylai gyflwyno tystiolaeth
newydd.
3.26 Ar ôl i’r gwrthwynebwyr gyflwyno eu hachosion, gan gynnwys
unrhyw ddatganiadau i gloi, bydd yr awdurdod yn gwneud datganiad i gloi
a all gyfeirio hefyd at bwyntiau a wnaed gan y gwrthwynebwyr. Ni ddylai’r
datganiad sy’n cloi gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, ond os
yw’r awdurdod yn awgrymu addasu (newid) y gorchymyn, gweler adran
6.9 y llyfryn hwn, caiff y gwrthwynebwyr y cyfle i ystyried hyn ac
ymateb.
Ymweliad safle
3.27 Bydd yr arolygydd fel arfer wedi ymweld â’r safle ar
ei ben ei hun cyn dechrau’r ymchwiliad.
3.28 Yn ystod yr ymchwiliad, fel arfer tua’r diwedd, bydd yr arolygydd
yn cyhoeddi’r trefniadau ar gyfer ymweliad safle arall. Caiff unrhyw
un sydd yn yr ymchwiliad fynd gydag arolygydd yn ystod yr ymweliad hwn.
Yn ystod yr ymweliad safle, bydd yr arolygydd yn edrych ar nodweddion
ffisegol y llwybr a drafodir yn y gorchymyn a’i ardal leol. Ni
ellir cyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, ond gall unrhyw un dynnu
sylw at y nodweddion a grybwyllwyd yn yr ymchwiliad.
Pwyntiau cyffredinol
eraill ynglyn ag ymchwiliadau lleol
Cynrychiolaeth broffesiynol
3.29 Nid oes rhaid i unrhyw un gael cynrychiolydd
proffesiynol, ond gall unrhyw un orchymyn cyfreithiwr neu berson proffesiynol
arall
i gyflwyno’u
hachos. Bydd yr arolygydd yn ymdrin â’r holl ddadleuon
gyda’r un gofal, waeth pwy sy’n eu cyflwyno, a byddant
yn sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn deg.
Pan ofynnir cwestiynau newydd yn annisgwyl
3.30 Os codir cwestiynau annisgwyl ac nad
yw’r ochr arall wedi
cael cyfle i’w hystyried, efallai y bydd rhaid i’r ymchwiliad
gael ei ohirio.
Penderfyniad yr arolygydd fydd hyn.
3.31 Cyn gohirio’r ymchwiliad, bydd yr arolygydd yn cyhoeddi pa
bryd ac ymhle y bydd yn ailddechrau. Gall gohirio’r ymchwiliad
ohirio penderfyniad yr arolygydd. Felly, dylai pawb sy’n rhoi
tystiolaeth geisio sicrhau nad ydynt yn cyflwyno cwestiynau annisgwyl.
Tystiolaeth hwyr
3.32 Os cyflwynir tystiolaeth ar ôl yr ymchwiliad ond cyn y penderfyniad,
mae’r hyn fydd yn digwydd i’r dystiolaeth yn dibynnu ar pwy
sydd i benderfynu ar yr achos. Os mai’r arolygydd fydd yn gwneud
y penderfyniad, byddwn yn trosglwyddo’r dystiolaeth iddo ef neu
hi. Bydd yr arolygydd yn penderfynu a godwyd cwestiynau newydd a allai
effeithio ar y penderfyniad. Os felly, bydd yr arolygydd yn anfon y dystiolaeth
at bawb a gyflwynodd eu hachos neu a wrthwynebasant yn ystod yr ymchwiliad,
gan roi cyfle iddynt ymateb. Bydd ef neu hi hefyd yn ystyried a ddylid
ailagor yr ymchwiliad. Mae hyn oll yn cymryd amser, felly dylai pawb
geisio sicrhau eu bod yn cyflwyno eu hachos llawn yn ystod yr ymchwiliad.
Os bydd unrhyw un yn dal tystiolaeth yn ôl yn fwriadol yn ystod
ymchwiliad ac yna’n ei gyflwyno’n hwyr er mwyn cael ailagor
yr ymchwiliad, efallai y bydd rhaid iddynt dalu costau’r ymchwiliad.
Os mai’r Ysgrifennydd Gwladol sydd i wneud penderfyniad, dim
ond ar y dystiolaeth a oedd ar gael yn ystod yr ymchwiliad y bydd yr
arolygydd
yn cyflwyno adroddiad. Byddwn yn anfon unrhyw dystiolaeth ddiweddarach
at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Sylwadau ar weithdrefnau
3.33 Os bydd unrhyw un am wneud sylwadau
ar y modd y gwnaed neu y proseswyd y gorchymyn wedi’i brosesu gan yr awdurdod, neu’r modd yr
ydym wedi delio â’r gorchymyn ers i ni ei dderbyn, dylent
siarad gyda’r arolygydd ar ddechrau’r ymchwiliad. Bydd yr
arolygydd fel arfer yn gofyn i’r awdurdod gadarnhau bod yr holl
weithdrefnau cyfreithiol wedi’u cynnal.
Cyflwyniadau cyfreithiol
3.34 Pan fydd rhywun yn yr ymchwiliad yn
herio’r gorchymyn neu’n
herio’r gwrthwynebiad o ran y gyfraith, fe’i gelwir yn ‘gyflwyniad
cyfreithiol’. Dylid mynegi cyflwyniad cyfreithlon yn ysgrifenedig
a’i roi i’r arolygydd ac i bawb arall mewn ymchwiliad.
Bydd pawb yn cael y cyfle i wneud sylwadau ar y cyflwyniad.
3.35 Fel arfer, bydd arolygydd yn ystyried
cyflwyniadau cyfreithiol ar ôl
cau’r ymchwiliad. Byddai’n anarferol i arolygydd eu hystyried
yn yr ymchwiliad oni bai eu bod yn bygwth atal yr ymchwiliad rhag parhau.
3.36 Ni all yr arolygydd roi dyfarniad cyfreithiol
ar y cwestiynau a godwyd gan gyflwyniad cyfreithlon ac unrhyw heriau
iddo
neu sylwadau
arno. Dim ond y llysoedd a all wneud hyn. Fodd bynnag, os yw’r
dogfennau cyfreithiol yn berthnasol i benderfyniad yr arolygydd ar
y gorchymyn, bydd rhaid iddo ef neu hi wneud penderfyniad arnynt.
Cwmpas yr ymchwiliad
3.37 Diben yr ymchwiliad yw gwrando ar dystiolaeth
mewn perthynas â’r
gorchymyn, yn unol â’r Ddeddf y gwnaed y gorchymyn oddi tani
(gweler rhan 5 y llyfryn hwn). Nid yw’r ymchwiliad yn gyfle i
herio gweinyddiaeth yr awdurdod nac i gyflwyno dadleuon gwleidyddol.

|