Gorchmynion Mapiau Diffiniol
4 Y weithdrefn gwrandawiadau
4.1 Mae awdurdodau’n anfon gorchmynion hawliau tramwy i’r
Swyddfa Gymreig fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a ddylid
eu cadarnhau. Yn ymarferol, arolygydd sy’n gwneud y penderfyniad
hwn. Yn y gorffennol, roeddem yn delio â gorchmynion mewn un
o ddwy ffordd. Naill ai drwy gyfrwng cynrychioliadau ysgrifenedig neu
drwy
gynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol. (Gweler rhannau 2 a 3 y llyfryn hwn.)
4.2 Rydym wedi clywed y gall ymchwiliadau
cyhoeddus lleol fod yn rhy ffurfiol a bygythiol i aelodau o’r cyhoedd. Felly rydym wedi penderfynu
y dylem gynnal gwrandawiad yn hytrach nag ymchwiliad os yw hynny’n
bosibl.
4.3 Mae gwrandawiad yn drafodaeth o dan arweiniad
arolygydd a fydd yn penderfynu ar yr achos. Mae’n ffordd syml ac anffurfiol o ystyried
y rhesymau o blaid ac yn erbyn cadarnhau gorchymyn. Er mwyn helpu gyda
hyn, dylai pawb sy’n ymwneud â’r drafodaeth eistedd
o amgylch bwrdd. Mae ystafell bwyllgora fechan fel arfer yn addas ar
gyfer gwrandawiad. Fel rheol, ni ddylid defnyddio siambr y cyngor a’i
hamgylchedd mwy ffurfiol. Disgwyliwn y bydd gwrandawiad yn fanteisiol
i bawb sy’n mynychu, nid yn unig y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r
achos. Felly, os byddwn yn cynnig gwrandawiad yn hytrach nag ymchwiliad
cyhoeddus lleol, gobeithiwn y caiff y cynnig ei dderbyn.
4.4 Mae gwrandawiadau wedi dod yn ffordd
lwyddiannus o benderfynu ar apeliadau cynllunio. Mae ein profiad gyda
gwrandawiadau
wedi dangos,
o ganlyniad i’r fformat ‘bwrdd crwn’, nad yw gwrandawiad
yn addas os yw un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:
- Os bydd cymaint o bobl eisiau siarad fel na fyddai trafodaeth
o amgylch bwrdd crwn yn bosibl.
- Os oes materion polisi cymhleth.
- Os oes materion cyfreithiol cymhleth.
- Os bydd angen croesholi.
Cytuno ar y weithdrefn
4.5 Byddwn yn edrych ar yr holl achosion
lle y byddem fel arfer yn cynnal ymchwiliad i weld a fyddai gwrandawiad
yn addas.
Os byddwn
yn penderfynu
y byddai, byddwn yn cynnig gwrandawiad. Rydym yn gofyn i bawb
sy’n
ymwneud â’r mater roi gwybod i ni, o fewn 10 diwrnod gwaith
i ddyddiad y cynnig, a ydynt eisiau i ni gynnal gwrandawiad ai peidio.
Dylent gofio, os byddwn yn cynnal gwrandawiad, na allant wneud cais am
gostau, nac am wys i orfodi rhywun i fynychu. Dim ond os bydd pawb sy’n
ymwneud â’r achos yn cytuno y byddwn yn trefnu gwrandawiad.
4.6 Byddwn yn ceisio trefnu gwrandawiad o
fewn 12 wythnos i ddyddiad y cytundeb. A byddwn yn rhoi rhybudd o
28 diwrnod o leiaf i bawb
am ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad. Byddwn yn dweud
wrth y gwrthwynebwyr
am y gwrandawiad, a bydd yr awdurdod yn dweud wrth unrhyw un
arall sydd â diddordeb
yn y tir sydd o dan sylw, neu sydd wedi ysgrifennu atynt ynglyn â’r
gorchymyn. Bydd yr awdurdod yn rhoi gwybod i’r bobl hynny
hefyd:
- ymhle a pha bryd y gallant archwilio copïau o’r
datganiadau cyn-gwrandawiad ac unrhyw ddogfennau perthnasol
eraill.
- os bydd yr arolygydd yn cytuno, gallant gymryd rhan yn y drafodaeth
yn ystod y gwrandawiad.
Bydd yr awdurdod hefyd yn hysbysebu’r gwrandawiad yn yr ardal leol.
Awgrymwn y dylai’r awdurdod roi o leiaf hysbysiadau ynglyn â dyddiad,
amser a lleoliad y gwrandawiad ar ddau ben y llwybr perthnasol.
Rhoi gwybodaeth
4.7 Dim ond os bydd pawb sy’n ymwneud â’r gwrandawiad
yn rhoi’r dogfennau, y dystiolaeth arall a’r dadleuon y maent
yn bwriadu dibynnu arnynt, ymhell cyn y gwrandawiad, y byddwn yn cael
manteision llawn gwrandawiad. Golyga hyn y gall pawb sy’n ymwneud â’r
achos astudio’r materion ymlaen llaw. Yna, gall y gwrandawiad fod
yn drafodaeth agored ar y prif faterion, heb i dystion orfod cael eu
harchwilio a’u hailarchwilio yn y dull traddodiadol. Felly, mae’n
bwysig iawn i’r gwrthwynebwyr a’r awdurdod anfon datganiad
ysgrifenedig atom o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad y gwrandawiad. Dylai’r
datganiad ddarparu manylion llawn yr achos y byddant yn ei wneud yn ystod
y gwrandawiad, gan gynnwys rhestr o unrhyw ddogfennau y byddant yn cyfeirio
atynt ac, os yn bosibl, copïau o’r adrannau perthnasol o’r
dogfennau hynny.
4.8 Caiff y datganiadau eu rhoi
i’r arolygydd i’w hastudio.
Ar yr un pryd, dylai’r gwrthwynebwyr anfon copïau o’u
datganiadau at yr awdurdod. Byddwn yn anfon copi o ddatganiad
yr awdurdod at y gwrthwynebwyr. Os bydd yr awdurdod yn
cynhyrchu datganiad
ychwanegol,
dylent anfon copi atom ni, ac at y gwrthwynebwyr.
4.9 Mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r achos
ddilyn yr amserlen os ydym am lwyddo i gwtogi gweithdrefnau. Os nad yw’r
arolygydd yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno ef neu hi ar yr amser
priodol, efallai y bydd rhaid i ni ohirio’r gwrandawiad
neu gynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol yn ei le.
4.10 Byddwn yn trefnu ymchwiliad
cyhoeddus lleol os bydd gwrthwynebydd, yr awdurdod, neu ni’n penderfynu nad yw gwrandawiad yn addas mwyach,
cyn i’r gwrandawiad gael ei agor. Yn ystod y gwrandawiad, os yw
gwrthwynebydd neu’r awdurdod yn penderfynu nad yw’r weithdrefn
yn briodol, dylent ddweud wrth yr arolygydd a fydd yn siarad gyda phawb
sy’n ymwneud â’r achos, a phenderfynu a ddylem gynnal
ymchwiliad cyhoeddus lleol yn hytrach na gwrandawiad. Os bydd arolygydd
yn penderfynu nad yw’r weithdrefn gwrandawiad yn
addas mwyach, gall ef neu hi atal y gwrandawiad a gofyn
i ni drefnu
ymchwiliad
cyhoeddus lleol.
Y weithdrefn yn ystod gwrandawiad
4.11 Bydd yr arolygydd yn egluro testun
y gwrandawiad. Bydd ef neu hi yn:
- gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddo ef neu hi ynglyn â’r
gorchymyn neu’r cynlluniau;
- disgrifio’r achos
fel y mae ef neu hi yn ei ddeall ar ôl
darllen y papurau ac ymweld â’r safle;
a
- dweud
beth yw’r pryderon yn ôl pob tebyg a
sicrhau bod pawb yn cytuno.
Ar ôl hyn, bydd y pryderon yn cael eu trafod yn eu
tro.
4.12 Fel arfer, bydd yr awdurdod yn dechrau
drwy egluro eu hachos. Gallant gael eu cynrychioli gan eu hymgynghorydd
cyfreithiol, ond nid yw hyn
yn hanfodol. Dylai pawb fod wedi cael y cyfle i ddarllen
yr
holl ddeunydd ysgrifenedig ymlaen llaw, fel na bydd angen
ei ddarllen
ar goedd. Os
yw’n bosibl, ni ddylid cynhyrchu deunydd na dogfennau newydd unwaith
y bydd y gwrandawiad wedi agor, oherwydd efallai y bydd rhaid i’r
gwrandawiad gael ei ohirio i roi amser i bawb eu hystyried. Os cynhyrchir
dogfennau newydd, gall yr arolygydd ddweud a yw ef neu hi’n credu
y dylid gohirio’r gwrandawiad, a gofyn i bawb yn y gwrandawiad
am eu barn. Os bydd pawb yn cytuno y dylai barhau, bydd yr arolygydd
yn caniatáu iddynt ofyn cwestiynau ynglyn ag unrhyw faterion y
mae angen gwybodaeth neu eglurhad pellach. Bydd pawb sy’n cymryd
rhan yn y gwrandawiad yn cael eu hannog i ofyn cymaint o gwestiynau perthnasol
ag y dymunent. Bydd yr awdurdod yn cael gwneud unrhyw sylwadau terfynol
cyn i’r drafodaeth gloi a chyn i’r ymweliad
safle gael ei gynnal.
4.13 Gall yr arolygydd benderfynu
y gellid ymdrin â rhai materion
penodol yn haws pe byddai’r drafodaeth yn parhau
ar y safle o dan sylw. Ddim ond pan fydd yn fodlon
ar y canlynol
y bydd
ef neu hi yn gwneud
hyn:
- bod amodau’r tywydd yn addas
- y gall y drafodaeth barhau heb
roi unrhyw un o dan anfantais; a
- bod pawb yn y gwrandawiad yn cytuno
ac yn gallu bod yn bresennol.
4.14 Os bydd y gwrandawiad yn cael ei gau cyn i’r ymweliad safle
gael ei gynnal, ni ellir trafod y materion ar y safle. Bydd y gwrthwynebwyr
a’r awdurdod yn cael y cyfle i fynd gyda’r
arolygydd ar yr ymweliad safle. Gall unrhyw un
sydd yn y gwrandawiad
fynd hefyd.
4.15 Unwaith y bydd y
gwrandawiad a’r ymweliad safle wedi dod i
ben, bydd yr arolygydd yn astudio’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd
yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y gwrandawiad. Yna, bydd ef neu hi yn
ysgrifennu llythyr penderfyniad. Bydd copi o’r llythyr yn cael
ei anfon i’r awdurdod, y gwrthwynebwyr, ac
at unrhyw un arall sydd wedi gofyn am gopi.
|