Gorchmynion Mapiau Diffiniol

5 Y prif bwyntiau y mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol
neu Arolygydd eu hystyried wrth benderfynu ar orchmynion a wnaed o dan
Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Adran 53 (Gorchmynion addasu)
5.1 Cedwir y map a’r datganiad diffiniol ar gyfer ardal gan Awdurdod
y Priffyrdd ac mae’n cadw cofnod o lwybrau troed, llwybrau ceffyl
a chilffyrdd sy’n agored i bob traffig a ffyrdd a ddefnyddir
fel llwybrau cyhoeddus cyfredol.
5.2 Mae adran 53 y Ddeddf yn diweddaru’r map a’r
datganiad diffiniol drwy:
- ychwanegu unrhyw rai o’r mathau hyn o hawliau tramwy nad ydynt
wedi’u cynnwys;
- newid y statws a gofnodwyd eisoes ar gyfer
hawl tramwy;
- dileu unrhyw ffordd y gellir profi nad yw’n hawl
tramwy; a
- newid manylion eraill y map neu’r datganiad.
Y cwestiynau a fydd yn effeithio ar y penderfyniad
5.3 Yr unig bethau i’w ystyried yw pa un a yw’r llwybr yn
bodoli ai peidio ac, os yw’n bodoli, ei gyfeiriad a’i statws.
Nid yw cwestiynau megis effeithiau ei ddefnydd ar eiddo gerllaw yn berthnasol.
Mae gan awdurdodau bwerau eraill i ddelio â phroblemau o’r
math hwn.
5.4 I gadarnhau gorchymyn, mae’n
rhaid i’r arolygydd fod
yn siwr fod y gorchymyn yn dangos ac yn disgrifio hawliau tramwy’r
cyhoedd sy’n bodoli. Os nad yw’r gorchymyn yn gwneud
hyn, gall ef neu hi addasu (newid) y gorchymyn.
5.5 Wrth wneud penderfyniad, dim ond
ffeithiau’r
ffordd yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd y mae’r arolygydd
yn eu hystyried. Nid yw’n ystyried yr hyn yr hoffai’r cyngor,
nac unrhyw un arall i’r sefyllfa fod. Ni ellir defnyddio adran
53 i newid y map a’r datganiad diffiniol i ddangos dim ond y
llwybrau y byddai pobl yn hoffi eu cael.
5.6 Unwaith y bydd hawliau
tramwy cyhoeddus wedi’u creu, maent
yn parhau oni bai eu bod wedi’u cau gan orchymyn. Felly, lle
mae tystiolaeth hanesyddol yn profi bod hawl tramwy cyhoeddus wedi’i
chreu peth amser yn ôl, neu nad yw’n dderbyniol mwyach.
Y mathau o dystiolaeth a allai fod yn berthnasol
5.7 Mae
dau brif fath o dystiolaeth: dogfennau a thystiolaeth y defnyddwyr.
Dogfennau
5.8 Cyflwynir nifer o wahanol fathau o fapiau,
cynlluniau a dogfennau eraill fel tystiolaeth er mwyn profi bod hawliau
tramwy cyhoeddus
yn bodoli neu nad ydynt yn bodoli, neu bod angen diweddaru’r
map neu’r
datganiad diffiniol mewn rhyw ffordd arall.
5.9 Mae
faint y bydd dogfen yn dylanwadu ar benderfyniad gorchymyn yn
dibynnu ar pa fath o ddogfen yw hi, pam y’i cynhyrchwyd yn wreiddiol
a pha wybodaeth y mae’n ei chynnwys am y llwybr a ddangosir
yn y gorchymyn. Nid yw’n beth anarferol i’r ddwy ochr
ddadlau bod ystyr wahanol i’r un ddogfen.
5.10 Os
byddwch yn cyflwyno dogfen mewn ymchwiliad lleol neu trwy gyfrwng
y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig,
dylech hefyd ddarparu
dadl
i ddangos i’r arolygydd ei hystyr a’i pherthnasedd
i’r
penderfyniad. Dylai’r ddogfen fod mor eglur â phosibl.
Er enghraifft, byddai gwerth cyfyngedig i lungopi du a gwyn o fap
wedi’i
godio â lliw, ond ar y llaw arall, byddai llungopi lliw o’r
un map gan gynnwys ei allwedd yn fwy defnyddiol.
5.11 Mae
nodiadau canllaw Adran yr Amgylchedd ar dystiolaeth ddogfennol
yn rhoi mwy o fanylion am y gwahanol
fathau
o ddogfennau y gallwch
eu defnyddio fel tystiolaeth. Mae copïau ar gael o’n
swyddfa yng Nghaerdydd (gweler y cyfeiriad ar flaen y llyfryn hwn).
Tystiolaeth
defnyddwyr
5.12 Tystiolaeth yw hyn o’r defnydd gwirioneddol
o’r llwybr
ei hun, yn ategu’r honiad fod perchennog y tir wedi caniatáu
i hawl tramwy cyhoeddus gael ei sefydlu dros eu tir.
5.13 Gall tystiolaeth defnyddwyr fod ar ffurf:
- datganiadau ysgrifenedig neu lafar gan dystion; neu
- datganiadau cyfreithiol
gan ddefnyddwyr, sy’n rhoi manylion am
sut a pha bryd y maent wedi defnyddio’r llwybr neu
sut y gwyddant fod hawl tramwy.
Caiff tystion siarad yn yr ymchwiliad ac ateb cwestiynau
ynglyn â digwyddiadau
yn y gorffennol.
5.14 Bydd tystion yn yr ymchwiliad yn ddefnyddiol
i’r
arolygydd. Bydd tystiolaeth sydd wedi’i phrofi drwy gyfrwng croesholi
yn aml yn bwysicach na thystiolaeth na chyflwynwyd yn y modd
hwnnw.
5.15 Gall tystiolaeth defnyddwyr, ac
unrhyw dystiolaeth a gyflwynir yn ei herbyn ddisgrifio digwyddiadau
sy’n ymddangos fel petaent yn
gwrthddweud ei gilydd. Mae arolygwyr yn brofiadol wrth ddelio â’r
math hwn o dystiolaeth ac maent yn deall bod atgofion pobl
o ddigwyddiadau yn y gorffennol yn debygol o fod yn wahanol.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol
neu’r arolygydd yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn
asesu’r
achosion o blaid ac yn erbyn gorchymyn. Bydd y penderfyniad
yn seiliedig ar yr hyn sy’n debygol o fod wedi digwydd.
5.16 Mae
nodiadau canllaw Adran yr Amgylchedd ar ‘gyflwyniad tybiedig’ yn
egluro cefndir cyfreithiol tystiolaeth defnyddwyr. Mae copïau
ar gael o’n swyddfa yng Nghaerdydd (gweler y cyfeiriad
ar flaen y llyfryn hwn).
Adran 54 (Gorchymyn ailddosbarthu)
5.17 O dan adran
54, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdodau sy’n
gyfrifol am baratoi a diweddaru’r map diffiniol i newid
statws llwybrau a ddangosir ar hyn o bryd ar y map a’r
datganiad diffiniol fel ffordd a ddefnyddiwyd fel llwybr cyhoeddus
(RUPP). Yn awr, mae’n
rhaid iddynt gael eu dosbarthu fel cilffordd sy’n agored
i draffig, llwybr ceffyl neu lwybr troed. Mae hyn er mwyn
ei gwneud
yn amlwg pa
hawliau yn union sydd ar ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus.
5.18 Bydd
yr un cwestiynau a’r mathau o dystiolaeth yn berthnasol
i orchmynion ailddosbarthu â gorchmynion addasu (gweler
adrannau 5.3 i
5.16). Diben gorchmynion ailddosbarthu
yw sicrhau bod y map a’r
datganiad diffiniol yn gywir wrth gofnodi pa hawliau sy’n
bodoli. Nid yw’r arolygydd yn ystyried a yw’n well
newid statws ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus. Yn syml,
bydd yn dilyn y gyfraith
ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth ynglyn â ffordd
a statws y llwybr.
5.19 Y prif wahaniaeth rhwng
gorchmynion ailddosbarthu ac addasu yw na all yr Ysgrifennydd
Gwladol neu arolygydd,
ar gyfer gorchmynion
ailddosbarthu,
benderfynu nad oes hawl tramwy cyhoeddus ar hyd y llwybr.
Os oes hawliau
ar gyfer ceir a cherbydau eraill, daw’r llwybr yn gilffordd
sy’n
agored i bob traffig. Fel arall, daw’r llwybr yn awtomatig
yn llwybr ceffyl, oni ellir dangos nad yw hawliau’r llwybr
ceffyl yn bodoli. Yn yr achos hwn, fe’i dosberthir
fel llwybr troed.
5.20 Os nad yw’r awdurdod
yn credu bod y llwybr yn bodoli, bydd yn gwneud gorchymyn o
dan Adran 53 i’w ddileu oddi ar y map a’r
datganiad diffiniol.

|