Gorchmynion Mapiau Diffiniol

6 Y penderfyniad
6.1 Ymdrinnir â bron pob gorchymyn gan arolygydd ar ran yr Ysgrifennydd
Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y penderfyniad ar nifer
fechan o orchmynion. Pan ddigwydd hyn, byddwn yn dweud pam wrth bawb
sy’n ymwneud â’r achos.
6.2 Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd yn gwneud
y penderfyniad, nid yw’n effeithio ar y gweithdrefnau nac ar yr
ystyriaethau a nodir ym mhenodau eraill y llyfryn hwn. Byddwn yn egluro’n
glir, yn ysgrifenedig, pwy fydd yn gwneud y penderfyniad ar unrhyw orchymyn.
Penderfyniadau gan Arolygydd
6.3 Bydd yr arolygydd yn egluro ei benderfyniad
ef neu hi mewn llythyr i’r awdurdod. Bydd y llythyr fel arfer
yn:
- disgrifio’r llwybrau yn y gorchymyn hwn yn fras;
- crynhoi’r
prif bwyntiau a godwyd; a
- nodi casgliadau a phenderfyniad yr arolygydd.
6.4 Byddwn yn anfon copïau o lythyr yr arolygydd at wrthwynebwyr,
at bobl eraill a gafodd ganiatâd gan yr arolygydd i siarad
yn ystod yr ymchwiliad a phobl eraill sydd wedi gofyn am gopi.
Penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol
6.5 Bydd yr arolygydd yn anfon adroddiad
at yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn argymell o ran a ddylai’r gorchymyn
gael ei gadarnhau, ei gadarnhau gydag addasiadau neu na ddylid ei gadarnhau
o gwbl.
6.6 Nid oes rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dderbyn argymhelliad
yr arolygydd ond mae’n rhaid iddo ystyried popeth sy’n berthnasol.
Bydd y llythyr i’r awdurdod yn cael ei lofnodi gan swyddog
yr Ysgrifennydd Gwladol.
6.7 Bydd copïau o lythyr yr Ysgrifennydd Gwladol a’r
casgliadau o adroddiad yr Arolygydd yn mynd at yr awdurdod ac
at bobl eraill a grybwyllwyd
yn adran 6.4.
Y mathau o benderfyniadau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol
neu arolygwyr eu gwneud
6.8 Wrth wneud penderfyniad, mae gan
yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r
arolygydd dri dewis:
- cadarnhau’r gorchymyn fel y’i gwnaed;
- cadarnhau’r
gorchymyn gyda pheth newidiadau; neu
- peidio â chadarnhau’r
gorchymyn.
6.9 Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd
yn cadarnhau’r
gorchymyn gyda pheth newidiadau iddo, bydd ef neu hi mewn
gwirionedd yn newid ei gynnwys. Gall y newidiadau fod yn gymharol fach
neu’n
rhai mawr. Bydd yr arolygydd yn egluro’r union newidiadau
yn glir yn y llythyr.
6.10 Mae’n rhaid hysbysebu’r mathau canlynol
o addasu:
- symud llinell y llwybr;
- cynyddu lled y llwybr;
- dangos llwybr newydd ar y gorchymyn;
- dileu llwybr cyfan neu rhan o
lwybr a ddangosir yn y gorchymyn; neu
- newid y math o lwybr a ddangosir
yn y gorchymyn (er enghraifft, llwybr troed yn hytrach na
llwybr ceffyl).
6.11 Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl wneud gwrthwynebiadau
i’r
newidiadau.
6.12 Bydd gwrthwynebiadau
i’r newidiadau yn cael eu hystyried gan
yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan arolygydd (fel
arfer yr un arolygydd â’i
hawgrymodd). Gall fod ymchwiliad arall hefyd.

|