Gorchmynion Mapiau Diffiniol

7 Costau
7.1 Os gwneir penderfyniad yn dilyn y weithdrefn
cynrychioliadau ysgrifenedig neu wrandawiad, nid oes pwer i wneud y
rhai a wnaeth y cynrychioliadau
yn gyfrifol am rai o gostau’r parti arall neu’r holl gostau.
7.2 Fel arfer, disgwylir i awdurdodau, gwrthwynebwyr
ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â gorchymyn dalu eu costau eu hunain mewn achosion
ymchwiliadau. Fodd bynnag, gall unrhyw un ofyn i’r Ysgrifennydd
Gwladol orchymyn i un ochr dalu peth o gostau’r ochr arall os
nad y cyfan.
7.3 Cyn cytuno i hyn, bydd rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn
sicr bod y person sy’n gwneud cais wedi gorfod talu costau diangen
o ganlyniad i ymddygiad afresymol yr ochr arall.
7.4 Ni cheir unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o’r frawddeg ymddygiad
afresymol yn y cyd-destun hwn. Yma, mae i afresymol ei ystyr arferol.
Efallai y byddai’n rhaid i’r naill ochr neu’r llall
dalu holl gostau’r ymchwiliad pe gellid bod wedi osgoi’r
ymchwiliad yn rhesymol. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i awdurdod
dalu popeth os gwêl yr arolygydd fod nam sylfaenol yn y gorchymyn
a’i fod yn ei wrthod, fel bod y gwrthwynebwyr wedi gwastraffu arian
wrth fynd i’r ymchwiliad.
7.5 Gall gwrthwynebwr wneud gwrthwynebiad y canfyddir
yn ddiweddarach nad yw’n berthnasol i benderfyniad ar y gorchymyn. Os ydym wedi
rhoi’r cyfle i’r gwrthwynebwyr newid gwrthwynebiad amherthnasol
ac nad ydynt wedi gwneud hynny, gellir ystyried eu bod wedi ymddwyn yn ‘afresymol’ wrth
fynd â’r gwrthwynebiad amherthnasol i’r ymchwiliad.
7.6 Bydd pa un a yw gwrthwynebiad i orchymyn
yn amherthnasol ai peidio yn dibynnu ar y math o orchymyn ac amgylchiadau’r achos. Fel canllaw
i’r hyn y bydd arolygydd yn ei ystyried ar gyfer pob math o orchymyn,
gweler rhan 5 y llyfryn hwn.
7.7 Gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ei fod
yn angenrheidiol cynnal ymchwiliad hyd yn oed os nad oes neb arall
eisiau
un. O dan yr amgylchiadau
hyn, nid oes rhaid i wrthwynebwyr fynd i’r ymchwiliad ond dylent
roi gwybod i ni os na allant fod yn bresennol neu os nad ydynt yn dymuno
bod yno. Ni chaiff eu dewis i beidio â chymryd rhan yn yr ymchwiliad
ei ystyried yn ‘ymddygiad afresymol’.
7.8 Os na fydd gwrthwynebydd sydd wedi gofyn am ymchwiliad
yn mynychu’r
ymchwiliad nac yn cael ei gynrychioli heb ddweud wrthym, efallai y bydd
rhaid iddynt dalu o leiaf rhan o gostau ymchwiliad yr awdurdod. Er mwyn
osgoi’r costau hyn, byddai’n rhaid iddynt ddangos bod rheswm
da pam na ddylent dalu.
7.9 Am orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Bywyd
Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ni fydd pwy sy’n talu’r costau’n
dibynnu ar ganlyniad y gorchymyn.
Gwneud cais am gostau
7.10 Os ydych eisiau gwneud cais am gostau, dylech
ddweud wrth yr arolygydd ar ôl i’r awdurdod wneud ei ddatganiad i gloi ond cyn i’r
ymchwiliad lleol gael ei gau’n swyddogol. Fel arfer, bydd yr arolygydd
yn eich atgoffa o hyn ar ddechrau’r ymchwiliad. Yna, dylai fod
yn amlwg a oes gennych achos i ddadlau bod rhywun wedi ymddwyn yn afresymol.
Bydd yr arolygydd yn gwrando ar eich achos am gostau ac yn gwahodd yr
ochr arall i ateb. Ar ôl yr ymchwiliad bydd yr arolygydd yn cyflwyno
adroddiad ar eich cais am gostau i’r Ysgrifennydd Gwladol, a fydd
yn gwneud penderfyniad arno. Pan fyddwch yn gwneud cais am gostau, ni
fydd disgwyl i chi gyfrifo’r swm y byddwch yn ceisio ei hawlio
yn syth. Ymdrinnir â hyn pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi
penderfynu a ydych yn gymwys i gael costau ai peidio.
Cais hwyr
7.11 Byddwn ond yn derbyn ceisiadau am gostau ar ôl i ymchwiliad
gloi os gallwch ddangos fod gennych reswm da dros beidio â gwneud
cais ynghynt. Er mwyn gwneud cais, ysgrifennwch at:
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 3NQ
Os derbynnir eich cais hwyr, byddwn yn dweud wrthych ac wrth y bobl
eraill sy’n ymwneud â’r achos i drefnu i’r ddwy ochr
wneud cynrychioliadau ysgrifenedig cyn i’r Ysgrifennydd Gwladol
wneud penderfyniad.
7.12 Ceir hyd datganiad llawnach o bolisi’r Ysgrifennydd Gwladol
ar ddyfarnu costau yng Nghylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig 23/93
a 5/93. Mae’r rhain ar gael mewn siopau’r Llyfrfa (Llyfrfa
ei Mawrhydi gynt) neu gallwch edrych ar gopïau yn eich llyfrgell
leol.

|