Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion Mapiau Diffiniol

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

8 Cwynion

Cwyno wrthym ni

8.1 Bydd y llythyr a anfonwn i hysbysu pobl ein bod wedi derbyn y gorchymyn yn rhoi enw’r swyddog sy’n delio â’r achos. Dylech gysylltu â’r person hwn yn gyntaf os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion ynglyn â’r modd yr ymdrinnir â’r gorchymyn. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ymdrinnir â’ch problem, gallwch gysylltu â’n Huned Sicrwydd Ansawdd yn:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 3NQ

8.2 Os oes gennych gwyn ynglyn â llythyr penderfyniad yr arolygydd, neu ynglyn â’r modd y mae’r arolygydd yn delio â’r achos, ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod. Ni allwn ailystyried gorchymyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch eisoes. Yr unig ffordd y gellir herio penderfyniad yw yn yr Uchel Lys.

Yr Uchel Lys

8.3 Gallwch herio penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd am resymau cyfreithiol yn yr Uchel Lys.

8.4 Os yw arolygydd wedi cadarnhau’r gorchymyn, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi yn y papur newydd.

8.5 Os nad yw’r arolygydd wedi cadarnhau’r gorchymyn, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 3 mis i ddyddiad penderfyniad yr arolygydd.

8.6 Er mwyn i’ch her fod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi ddangos naill ai:

  • bod yr arolygydd neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi mynd yn rhy bell o ran eu pwerau mewn rhyw ffordd; neu
  • na fodlonwyd rhai meini prawf perthnasol a bod hyn wedi gwneud drwg i’ch buddiannau.

Y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (yr Ombwdsmon)

8.7 Os credwch eich bod wedi cael eich trin yn annheg am nad ydym ni neu’r arolygydd wedi gwneud ein gwaith yn briodol, gallwch ofyn i’r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (yr Ombwdsmon) ymchwilio i’r mater. Ni allwch gysylltu â’r Ombwdsmon yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i chi fynd drwy Aelod Seneddol (AS). Nid oes rhaid i chi ddewis eich AS lleol, ond yn y mwyafrif o achosion, dyma fydd y person hawsaf i fynd ato. (Gallwch weld eu henw a’u cyfeiriad yn eich llyfrgell leol.) Nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i gwestiynu teilyngdod y gorchymyn nac i newid y penderfyniad.

Y Cyngor ar Dribiwnlysoedd

8.8 Os credwch fod rhywbeth o’i le gyda’r weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym i brosesu’r gorchymyn, gallwch gwyno wrth Gyngor y Tribiwnlysoedd yn:

22 Kingsway
Llundain
WC2B 6LE

Bydd y cyngor yn ystyried y mater os credant ei fod o fewn eu pwerau i wneud hynny. Nid ydynt yn ymwneud â theilyngdod y gorchymyn ac nid oes ganddynt bwer i newid y penderfyniad.

Yr Ombwdsmon Lleol

8.9 Os oes gennych gwyn ynglyn â’r ffordd y mae’r awdurdod wedi delio â’r gorchymyn, efallai y gall yr Ombwdsmon lleol eich helpu.

Ond ni all yr Ombwdsmon Lleol gwestiynu teilyngdod gorchymyn na newid y penderfyniad. Gallwch gael llyfryn yn egluro sut i wneud cwyn drwy ysgrifennu at:

Swyddfa’r Ombwdsmon Lleol
Ty Derwen
Court Road
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English