Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion Mapiau Diffiniol

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys

Atodiad A – Rhai cyhoeddiadau ar orchmynion hawliau tramwy

Deddfau Seneddol a Rheoliadau

1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Mae Adran 53 a 54 yn cwmpasu gorchmynion addasu ac ailddosbarthu. Mae Atodiad 15 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chadarnhau’r gorchmynion hyn.

2 Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Mapiau a Datganiadau Terfynol) 1993 (Offeryn Statudol 1993 Rhif 12)

Mae’r rhain yn dangos y ffurf y dylai gorchmynion a wneir o dan Adran 53 neu 54 fod arni, a’r ffurf ar gyfer yr hysbysiadau sy’n hysbysebu’r gorchymyn. Gweler 3 isod.

3 Gorchmynion Dileu a Dargyfeirio Croesi Rheilffyrdd, Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a Rheoliadau Mapiau a Datganiadau Terfynol (Diwygiad) 1995 (Offeryn Statudol 1995 Rhif 451)

Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Mapiau a Datganiadau Terfynol) 1993.

Cylchlythyrau

Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 5/93, Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae hwn yn rhoi cyngor ar nifer o faterion sy’n ymwneud â chofnodi, cynnal, diogelu a newid y rhwydwaith hawliau tramwy.

1 Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 23/93, Dyfarnu costau a gafwyd mewn gweithrediadau cynllunio a gweithrediadau eraill (gan gynnwys gorchymyn prynu gorfodol)

Mae hwn yn rhoi cyngor ar ddyfarnu costau ymchwiliadau, gan gynnwys achosion gorchmynion hawliau tramwy.

2 Llythyr y Swyddfa Gymreig, dyddiedig 31 Mai 1995 (cyf CC 2-3-12) Rheoliadau a Chyngor Diwygiedig ar Orchmynion Llwybrau Cyhoeddus

Mae hwn yn disgrifio’r amodau a gafodd eu cynnwys yn y Gorchmynion Dileu a Dargyfeirio Croesi Rheilffyrdd, Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a Rheoliadau Mapiau a Datganiadau Terfynol (Diwygiad) 1995 (Offeryn Statudol 1995/451). Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar sut y gellir defnyddio Deddf Priffyrdd 1980 i gau llwybr cyhoeddus neu i greu neu ddargyfeirio llwybr fel dewis arall.

Noder

Mae’r cyhoeddiadau a restrir uchod ar gael mewn siopau llyfrau y Llyfrfa. Gallwch edrych ar gopïau hefyd yn eich llyfrgelloedd lleol ac mewn swyddfeydd cyngor.

Cyhoeddiadau eraill

Arweiniad i Weithdrefnau Mapiau Diffiniol

Cynhyrchir y llyfryn hwn gan y Comisiwn Cefn Gwlad ac mae ar gael gan:

Countryside Commission Postal Sales

PO Box 124
Walgrave
Northampton
NN6 9TL.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English