Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Yr Arolygiaeth Gynllunio

Rydym yn asiantaeth gweithredol Adran yr Amgylchedd a’r Swyddfa Gymreig. Mae ein Hadran Hawliau Tramwy yn delio â phob gorchymyn llwybrau cyhoeddus yng Nghymru a wrthwynebir. Lleolir yr Adran yn:

Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 3NQ

Cewch wybodaeth fanylach amdanom yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Prif Arolygydd. Gallwch gael y rhifyn diweddaraf o siopau llyfrau’r Llywodraeth.

Mae ein Harolygwyr ystod eang o gymwysterau a phrofiad. Eu gwaith hwy yw edrych ar bob gorchymyn. Fe’u dewisir yn ofalus a’u hyfforddi’n drwyadl.

Mae ein staff gweinyddol yng Nghaerdydd yn gyfrifol am dderbyn y gorchmynion a’r papurau gan yr awdurdodau sy’n eu gwneud. Mae’r staff hyn hefyd yn:

  • Creu ffeil a gyflwynir i’r Arolygydd.
  • Ateb ymholiadau.
  • Trefnu ymweliadau safle, gwrandawiadau ac ymchwiliadau.
  • Anfon llythyrau penderfyniadau Arolygwyr.

Y prif gyswllt ar gyfer pawb sy’n ymwneud â gwneud a gwrthwynebu’r gorchymyn yw’r swyddog achos. Os mai’r Ysgrifennydd Gwladol yn hytrach na’n harolygydd fydd yn gwneud y penderfyniad, caiff y cyfrifoldeb dros brosesu’r gorchymyn ei drosglwyddo i’r Swyddfa Gymreig. Fel arfer, digwydd hyn ar ôl i Arolygydd gynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol, gwrandawiad neu ymweliad safle.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English