Gorchmynion llwybrau cyhoeddus1 Pan fyddwn yn derbyn gorchymyn1.1 Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn gorchymyn, byddwn yn gwneud rhai gwiriadau. Gwnawn yn siwr bod gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 ar ffurf sy’n bodloni Rheoliadau Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus 1993 (Offeryn Statudol 1993 Rhif 11). Gwnawn yn siwr bod gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar ffurf sy’n bodloni Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus) 1993 (Offeryn Statudol 1993 Rhif 10). 1.2 Pan fyddwn yn gwirio ffurf gorchymyn, nid oes gennym unrhyw bwer i wneud dyfarniad pendant ar pa un a yw’n cydymffurfio â’r Rheoliadau ai peidio. Dim ond y llysoedd a all wneud y math hwn o ddyfarniad. Fodd bynnag, os credwn fod rhywbeth o’i le gyda’r gorchymyn, er enghraifft os nad yw ar y ffurf gywir i raddau helaeth, byddwn yn ei wrthod. Yna, byddwn yn ei ddychwelyd at yr awdurdod a’i anfonodd atom gyda llythyr yn egluro’r rheswm dros ei wrthod ac yn gofyn i’r awdurdod hysbysu pawb sy’n ymwneud ag ef. 1.3 Yna, gwnawn yn siwr bod yr awdurdod wedi anfon yr holl ddogfennau sydd eu hangen arnom i gefnogi’r gorchymyn fel y’i rhestrir yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 5/93. Mae hyn yn cynnwys datganiad o’r rhesymau pam y cred yr awdurdod y dylem gadarnhau’r gorchymyn ynghyd ag unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau’r awdurdod ar y rhain. 1.4 Ni ddylai datganiad yr awdurdod ailadrodd meini prawf Adran y Ddeddf y’i gwnaed oddi tani. Mae’n rhaid iddo hefyd egluro pam mae’r gorchymyn hwnnw yn bodloni’r meini prawf. 1.5 Ar gyfer gorchymyn a wnaed o dan Deddf Priffyrdd 1980, efallai y bydd angen i’r awdurdod ymgynghori â sefydliadau eraill cyn i’r gorchymyn gael ei wneud ac efallai y bydd angen eu caniatâd. O dan baragraff 4(1) Rheoliadau Gorchymyn Llwybrau Cyhoeddus 1993, mae’n rhaid i’r awdurdod anfon tystysgrif atom i ddangos eu bod wedi ymgynghori â’r sefydliadau hyn ac wedi cael unrhyw ganiatâd sydd ei angen arnynt. Mae’n rhaid iddynt hefyd anfon datganiad atom yn egluro sut yr aethant ati i ymgynghori â’r sefydliadau a beth oedd canlyniadau hyn. 1.6 Os nad yw’r awdurdod yn anfon y dogfennau sydd eu hangen arnom, byddwn yn gofyn amdanynt. Mae hyn yn achosi oedi wrth brosesu’r gorchymyn.
1.8 Ar y cam, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac nid yr Awdurdod, sy’n gyfrifol am y gorchymyn. Golyga hyn, hyd yn oed os nad yw’r awdurdod yn cefnogi’r gorchymyn mwyach, y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol neu’n harolygydd yn gallu ystyried sylwadau unrhyw gefnogwr arall wrth benderfynu pa un a i’w gadarnhau ai peidio. Ni all yr awdurdod dynnu gorchymyn yn ôl unwaith y bydd wedi mynd gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |