Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

3 Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus lleol

Y camau cyntaf

3.1 Byddwn yn cynnal ymchwiliad os bydd unrhyw wrthwynebydd yn penderfynu nad ydynt eisiau dilyn y weithdrefn ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig ac ymweliad safle, neu os ydym yn ystyried bod ymchwiliad yn angenrheidiol.

3.2 Byddwn yn ysgrifennu at yr awdurdod ac at yr holl wrthwynebwyr i ddweud wrthynt y caiff ymchwiliad cyhoeddus lleol ei gynnal i ymchwilio i’r gorchymyn ac y caiff dyddiad a lleoliad eu trefnu cyn gynted ag y bo’n bosibl. Ar gyfer y gwrthwynebwyr, byddwn hefyd yn amgáu copi o ddatganiad yr awdurdod o’r rhesymau pam y dylid cadarnhau’r gorchymyn, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau.

3.3 Efallai y bydd llawer o bobl wedi gwrthwynebu’r gorchymyn. Felly, nid yw’n ymarferol i ni ymgynghori â phawb wrth bennu dyddiadau ar gyfer ymchwiliadau. Byddwn yn gofyn i’r awdurdod awgrymu dyddiad, ond mae’r dyddiad yn dibynnu hefyd ar ba bryd y mae’r lle mwyaf addas ar gael o fewn pellter teithio rhesymol i safle’r gorchymyn.

3.4 Unwaith bydd y dyddiad a’r lleoliad wedi’u pennu, byddwn yn anfon y manylion i’r awdurdod, yr holl wrthwynebwyr ac i rai sefydliadau cenedlaethol a lleol sydd â diddordeb mewn gorchmynion hawliau tramwy. Yna, byddwn yn penodi arolygydd ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.

3.5 Dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y byddwn yn gohirio ymchwiliad.

Hysbysebu’r ymchwiliad

3.6 Mae’n rhaid i’r awdurdod hysbysebu’r ymchwiliad mewn papur newydd lleol. Mae’n rhaid iddynt hefyd osod hysbysiadau ar naill ben pob ffordd yr effeithir arni gan y gorchymyn ac hefyd yn lle bynnag y mae hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn cael eu harddangos yn yr ardal. Mae’n rhaid iddynt wneud hyn o leiaf 14 diwrnod cyn y disgwylir i’r ymchwiliad ddechrau.

Pwy all fod yn bresennol?

3.7 Gall unrhyw un fynd i’r ymchwiliad.

3.8 Nid oes rhaid i unrhyw un fynd, ond disgwyliwn i’r awdurdod ac unrhyw un sydd wedi gwneud cais i ni am yr ymchwiliad, fod yn bresennol. (Os na allant fod yn bresennol, dylent anfon cynrychiolydd).

Prawf o dystiolaeth

3.9 Mae’n ddefnyddiol os yw’r awdurdod a’r gwrthwynebwyr yn paratoi prawf o dystiolaeth. (Datganiad ysgrifenedig yw prawf o dystiolaeth y bwriedir ei gyflwyno yn yr ymchwiliad ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau y bwriedir eu cynhyrchu yno.)

3.10 Gall hyn arbed amser yn yr ymchwiliad gan fod gan bob ochr syniad clir o’r hyn y bydd y llall yn ei ddweud. Gall hefyd helpu i osgoi sefyllfa lle bydd pobl yn gofyn i’r ymchwiliad gael ei ohirio am nad ydynt wedi cael amser i baratoi dadl yn erbyn tystiolaeth annisgwyl (gweler adrannau 3.30 a 3.31 o’r llyfryn hwn). Gall pobl wastad ychwanegu at eu prawf o dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.

3.11 Os bydd unrhyw un yn penderfynu paratoi prawf o dystiolaeth, dylent ei anfon atom o leiaf dair wythnos cyn dechrau’r ymchwiliad. Dylai gwrthwynebwyr anfon copïau o’u prawf o dystiolaeth i’r awdurdod ac atom ni (ar gyfer yr arolygydd). Dylai’r awdurdod anfon copïau o’u prawf o dystiolaeth at y gwrthwynebwyr ac atom ni.

Hyd yr ymchwiliad

3.12 Bydd y rhan fwyaf o ymchwiliadau yn para un neu ddau ddiwrnod. Fodd bynnag, nid oes ffordd o ddarogan pa mor hir y pery ymchwiliad. Dibynna ar y nifer o bobl sydd eisiau siarad a maint y gorchymyn. Dibynna hefyd ar faint o dystiolaeth sydd angen ei chyflwyno.

Y weithdrefn yn yr ymchwiliad

3.13 Yr arolygydd sy’n penderfynu ar y weithdrefn yn ystod ymchwiliad. Ni cheir unrhyw reolau gweithdrefnol ar gyfer ymchwiliadau hawliau tramwy, ond bydd yr ymchwiliad fel arfer ar y ffurf ganlynol.

Agor yr ymchwiliad a chyflwyniad yr arolygydd

3.14 Bydd yr arolygydd yn ei gyflwyno’i hun ac yn egluro sut y mae’r gyfraith y gwneir y gorchymyn oddi tani yn effeithio ar yr achos. Yna, bydd ef neu hi yn egluro sut bydd yr ymchwiliad yn parhau.

3.15 Bydd yr arolygydd yn gofyn am enwau’r rhai sydd eisiau siarad ac yna’n penderfynu ym mha drefn y dylent siarad. Bydd gan wrthwynebwyr yr hawl i siarad yn ystod yr ymchwiliad, ond bydd yr arolygydd fel rheol yn caniatáu i unrhyw un sydd â rhywbeth perthnasol i’w ddweud, siarad yn yr ymchwiliad. Dylai unrhyw un sydd eisiau siarad geisio bod yno ar ddechrau’r ymchwiliad, ond nid yw hyn yn hanfodol.

3.16 Mae’n ddefnyddiol os yw pawb yn yr ymchwiliad yn ysgrifennu eu henw a’u cyfeiriad llawn a manylion unrhyw sefydliad y gallent fod yn ei gynrychioli yn glir ar y rhestr bresenoldeb y bydd yr awdurdod yn ei dosbarthu.

3.17 Yn ystod y cam hwn o’r ymchwiliad, dylech ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych ynglyn â’r weithdrefn, dweud wrth yr arolygydd os bydd rhaid i chi adael yn gynnar neu wneud unrhyw gais am drefniadau arbennig eraill. Unwaith y bydd yr arolygydd wedi egluro’r weithdrefn, bydd ef neu hi yn cadw ati oni bai bod rhesymau da iawn dros ei newid.

Cyflwyno’r achosion

3.18 Fel arfer, bydd yr awdurdod yn cyflwyno ei achos yn gyntaf. Ond os nad yw’r awdurdod yn cefnogi’r gorchymyn mwyach, cyfrifoldeb rhywun arall sy’n cefnogi’r gorchymyn fydd cyflwyno’r achos.

3.19 Gall yr awdurdod gyflwyno tystion i roi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad. Os oes gan y tystion hynny brawf o’u tystiolaethau i’w cyflwyno fel tystiolaeth, dylai’r awdurdod ddarparu copïau ar gyfer y gwrthwynebwyr a’r arolygydd yn yr ymchwiliad.

3.20 Caiff y gwrthwynebwyr fel arfer holi’r tystion hyn, ond bydd yr arolygydd yn eu hatal os daw’n amlwg eu bod yn gwneud datganiad yn hytrach nag yn gofyn cwestiynau, neu os yw eu cwestiynau’n ailadroddus. Fel arfer, ‘croesholi’ yw’r gair a ddefnyddir i ddisgrifio’r weithdrefn hon.

3.21 Ni fydd pobl ar yr un ochr fel arfer yn cael croesholi ei gilydd oni bai eu bod yn anghytuno ar bwynt pwysig. Efallai y bydd yr Arolygydd hefyd am ofyn cwestiynau i’r sawl sy’n siarad.

3.22 Fel arfer, gwrandewir ar unrhyw un sydd eisiau siarad o blaid gorchymyn ar ôl yr awdurdod. Efallai y bydd rhaid i’r bobl hyn a’u tystion ateb cwestiynau gan y gwrthwynebwyr.

3.23 Yna, bydd y gwrthwynebwyr yn cyflwyno eu hachosion ac yn galw ar eu tystion (os oes ganddynt rai). Yna, bydd pobl eraill yn cael siarad yn erbyn y gorchymyn. Efallai y bydd rhaid i unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth ateb cwestiynau gan yr ochr arall.

3.24 Ni ddylai pawb fod yn gallu dweud yr hyn y maent am ei ddweud mewn ymchwiliad. Gall arolygydd wrthod gwrando ar dystiolaeth sy’n amherthnasol, yn ailadroddus neu’n dramgwyddus.

3.25 Os bydd rhywun sydd wedi siarad yn erbyn gorchymyn wedi cyflwyno llawer o dystiolaeth ac wedi galw ar sawl tyst, bydd yr arolygydd fel arfer yn gadael iddynt wneud datganiad i gloi. Dylai’r datganiad i gloi fod yn grynodeb bras o’r achos. Gall gyfeirio hefyd at bwyntiau a wnaed gan yr ochr arall, ond ni ddylai gyflwyno tystiolaeth newydd.

3.26 Ar ôl i’r gwrthwynebwyr gyflwyno eu hachosion, gan gynnwys unrhyw ddatganiadau i gloi, bydd yr awdurdod yn gwneud datganiad i gloi a all gyfeirio hefyd at bwyntiau a wnaed gan y gwrthwynebwyr. Ni ddylai’r datganiad sy’n cloi gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, ond os yw’r awdurdod yn awgrymu addasu (newid) y gorchymyn, gweler adran 6.9 y llyfryn hwn, caiff y gwrthwynebwyr y cyfle i ystyried hyn ac ymateb.

Ymweliad safle

3.27 Bydd yr arolygydd fel arfer wedi ymweld â’r safle ar ei ben ei hun cyn dechrau’r ymchwiliad.

3.28 Yn ystod yr ymchwiliad, fel arfer tua’r diwedd, bydd yr arolygydd yn cyhoeddi’r trefniadau ar gyfer ymweliad safle arall. Caiff unrhyw un sydd yn yr ymchwiliad fynd gydag arolygydd yn ystod yr ymweliad hwn. Yn ystod yr ymweliad safle, bydd yr arolygydd yn edrych ar nodweddion ffisegol y llwybr a drafodir yn y gorchymyn a’i ardal leol. Ni ellir cyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, ond gall unrhyw un dynnu sylw at y nodweddion a grybwyllwyd yn yr ymchwiliad.

Pwyntiau cyffredinol eraill ynglyn ag ymchwiliadau lleol

Cynrychiolaeth broffesiynol

3.29 Nid oes rhaid i unrhyw un gael cynrychiolydd proffesiynol, ond gall unrhyw un orchymyn cyfreithiwr neu berson proffesiynol arall i gyflwyno’u hachos. Bydd yr arolygydd yn ymdrin â’r holl ddadleuon gyda’r un gofal, waeth pwy sy’n eu cyflwyno, a byddant yn sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn deg.

Pan ofynnir cwestiynau newydd yn annisgwyl

3.30 Os codir cwestiynau annisgwyl ac nad yw’r ochr arall wedi cael cyfle i’w hystyried, efallai y bydd rhaid i’r ymchwiliad gael ei ohirio. Penderfyniad yr arolygydd fydd hyn.

3.31 Cyn gohirio’r ymchwiliad, bydd yr arolygydd yn cyhoeddi pa bryd ac ymhle y bydd yn ailddechrau. Gall gohirio’r ymchwiliad ohirio penderfyniad yr arolygydd. Felly, dylai pawb sy’n rhoi tystiolaeth geisio sicrhau nad ydynt yn cyflwyno cwestiynau annisgwyl.

Tystiolaeth hwyr

3.32 Os cyflwynir tystiolaeth ar ôl yr ymchwiliad ond cyn y penderfyniad, mae’r hyn fydd yn digwydd i’r dystiolaeth yn dibynnu ar pwy sydd i benderfynu ar yr achos. Os mai’r arolygydd fydd yn gwneud y penderfyniad, byddwn yn trosglwyddo’r dystiolaeth iddo ef neu hi. Bydd yr arolygydd yn penderfynu a godwyd cwestiynau newydd a allai effeithio ar y penderfyniad. Os felly, bydd yr arolygydd yn anfon y dystiolaeth at bawb a gyflwynodd eu hachos neu a wrthwynebasant yn ystod yr ymchwiliad, gan roi cyfle iddynt ymateb. Bydd ef neu hi hefyd yn ystyried a ddylid ailagor yr ymchwiliad. Mae hyn oll yn cymryd amser, felly dylai pawb geisio sicrhau eu bod yn cyflwyno eu hachos llawn yn ystod yr ymchwiliad. Os bydd unrhyw un yn dal tystiolaeth yn ôl yn fwriadol yn ystod ymchwiliad ac yna’n ei chyflwyno’n hwyr er mwyn cael ailagor yr ymchwiliad, efallai y bydd rhaid iddynt dalu costau’r ymchwiliad. Os mai’r Ysgrifennydd Gwladol sydd i wneud penderfyniad, dim ond ar y dystiolaeth a oedd ar gael yn ystod yr ymchwiliad y bydd yr arolygydd yn cyflwyno adroddiad. Byddwn yn anfon unrhyw dystiolaeth ddiweddarach at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Sylwadau ar weithdrefnau

3.33 Os bydd unrhyw un am wneud sylwadau ar y modd y gwnaed neu y proseswyd y gorchymyn gan yr awdurdod, neu’r modd yr ydym wedi delio â’r gorchymyn ers i ni ei dderbyn, dylent siarad gyda’r arolygydd ar ddechrau’r ymchwiliad. Bydd yr arolygydd fel arfer yn gofyn i’r awdurdod gadarnhau bod yr holl weithdrefnau cyfreithiol wedi’u cynnal.

3.34 Pan fydd rhywun yn yr ymchwiliad yn herio’r gorchymyn neu’n herio gwrthwynebiad o ran y gyfraith, fe’i gelwir yn ‘gyflwyniad cyfreithiol’. Dylid mynegi cyflwyniad cyfreithlon yn ysgrifenedig a’i roi i’r arolygydd ac i bawb arall mewn ymchwiliad. Bydd pawb yn cael y cyfle i wneud sylwadau ar y cyflwyniad.

Cyflwyniadau cyfreithiol

3.35 Fel arfer, bydd arolygydd yn ystyried cyflwyniadau cyfreithiol ar ôl cau’r ymchwiliad. Byddai’n anarferol i arolygydd eu hystyried yn yr ymchwiliad oni bai eu bod yn bygwth atal yr ymchwiliad rhag parhau.

3.36 Ni all yr arolygydd roi dyfarniad cyfreithiol ar y cwestiynau a godwyd gan gyflwyniad cyfreithlon ac unrhyw heriau iddo neu sylwadau arno. Dim ond y llysoedd a all wneud hyn. Fodd bynnag, os yw’r dogfennau cyfreithiol yn berthnasol i benderfyniad yr arolygydd ar y gorchymyn, bydd rhaid iddo ef neu hi wneud penderfyniad arnynt.

Cwmpas yr ymchwiliad

3.37 Diben yr ymchwiliad yw gwrando ar dystiolaeth mewn perthynas â’r gorchymyn, yn unol â’r Ddeddf y gwnaed y gorchymyn oddi tani (gweler rhan 5 y llyfryn hwn). Nid yw’r ymchwiliad yn gyfle i herio gweinyddiaeth yr awdurdod nac i gyflwyno dadleuon gwleidyddol.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English