Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Deddf Priffyrdd 1980

Adran 26 (gorchmynion creu)

5.2 Mae Adran 26 y Ddeddf Priffyrdd yn rhoi pwer i awdurdod greu llwybr troed neu lwybr ceffylau. Gall yr awdurdod wneud hyn heb gael caniatâd y person sy’n berchen ar y tir y bydd y llwybr arfaethedig yn ei groesi.

Y cwestiynau a fydd yn effeithio ar y penderfyniad

5.3 Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd ond yn cadarnhau’r gorchymyn os byddant yn fodlon bod y rheswm dros wneud y gorchymyn yn un o’r rhai a nodir yn Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980. Mae’r rhesymau hyn fel a ganlyn:

  • Mae angen y llwybr newydd.
  • Mae creu’r llwybr newydd yn syniad da, o ystyried:
    * Sut y bydd yn fwy cyfleus neu’n ddymunol i’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw’n lleol neu aelodau eraill o’r cyhoedd.
    * Sut y bydd yn effeithio ar hawliau’r rhai sydd â diddordeb yn y tir (ar ôl ystyried yr iawndal y gallent ei dderbyn)

Adran 118 (gorchmynion diddymu)

5.4 Mae Adran 118 yn rhoi pwer i awdurdod ddiddymu llwybr troed neu lwybr ceffylau (cael gwared ar ei statws fel hawl tramwy cyhoeddus). Wrth wneud y gorchymyn, mae’n rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon y dylid diddymu’r llwybr gan nad oes ei angen ar y cyhoedd.

Y cwestiynau a fydd yn effeithio ar y penderfyniad

5.5 Mae’r cwestiynau y dylid eu gofyn wrth benderfynu a ddylid cadarnhau gorchymyn diddymu ai peidio fel a ganlyn:

  • A yw’n iawn cau’r llwybr ar ôl ystyried pa mor aml y caiff ei ddefnyddio neu pa mor aml y gallai gael ei ddefnyddio?
  • Sut bydd cau’r llwybr yn effeithio ar y tir sydd nesaf i’r llwybr (ar ôl ystyried yr iawndal y gallai perchnogion y tir ei dderbyn)?

5.6 Wrth ystyried gorchymyn diddymu, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd fel rheol yn anwybyddu unrhyw rwystrau i’r llwybr, hyd yn oed os ydynt eisoes yn rhwystro’r ffordd. Bydd yn ystyried faint mwy o ddefnydd a fyddai’n cael ei wneud o’r llwybr ped aed â’r rhwystrau oddi yno.

Adran 119 (gorchmynion dargyfeirio)

5.7 Mae Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi’r pwer i awdurdod ddargyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffylau er budd y perchennog, y tenant neu’r person sy’n defnyddio’r tir y mae’r llwybr yn ei groesi neu er budd y cyhoedd.
5.8 Wrth wneud y gorchymyn, mae’n rhaid i’r awdurdod sicrhau, oni bai bod y llwybr cyfredol yn cysylltu â phriffordd arall, y bydd y ffordd a ddargyfeirir yn diweddu yn yr un lle. Os nad yw’r llwybr cyfredol yn cysylltu â phriffordd arall ac os bydd y gorchymyn yn newid y man lle y bydd yn diweddu, bydd rhaid iddo barhau i gysylltu â phwynt arall ar yr un briffordd neu â phriffordd arall sydd wedi’i chysylltu â hi. Mae’n rhaid i unrhyw newid yn y man lle mae llwybr yn dod i ben fod yr un mor hwylus i’r cyhoedd â diwedd gwreiddiol y llwybr. Mae’n rhaid i’r awdurdod hefyd sicrhau nad yw’r holl ffordd a ddangosir yn y gorchymyn fel y llwybr arall yn hawl tramwy cyhoeddus cyfredol. Fel arall, byddai’r gorchymyn yn cael yr effaith o gael gwared ar y llwybr, yn hytrach na dargyfeirio llwybr.

Y cwestiynau a fydd yn effeithio ar y penderfyniad

5.9 Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd sicrhau’r canlynol:

  • Bod y gorchymyn er budd y person neu’r bobl a enwir ynddo (gweler adran 5.7)
  • Na fydd y llwybr dargyfeiriedig yn llawer llai hwylus i’r cyhoedd.
  • Bod dargyfeirio’r llwybr yn syniad da, gan ystyried:
    * Sut y bydd yn effeithio ar ddefnydd y cyhoedd o’r llwybr.
    * Sut y bydd yn effeithio ar y tir sydd nesaf at y llwybr cyfredol.
    * Sut y bydd yn effeithio ar y tir y dargyfeirir ef trwyddo (ar ôl ystyried yr iawndal y gallai’r rhai yr effeithir arnynt ei dderbyn).

5.10 Wrth ystyried gorchymyn dargyfeirio, fel rheol bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd yn
anwybyddu unrhyw rwystrau ar y llwybr a fydd yn cael ei ddargyfeirio, hyd yn oed os ydynt yn rhwystro’r ffordd. Bydd ef neu hi yn ystyried faint mwy o ddefnydd a fyddai’n cael ei wneud o’r llwybr ped aed â’r rhwystrau oddi yno.

Gorchmynion Deddf Priffyrdd Cydgyfeiriol

5.11 Weithiau bydd awdurdod yn gofyn i Ysgrifennydd Gwladol ystyried creu gorchymyn dargyfeirio ynghyd â gorchymyn diddymu. O dan Adran 118(5) Deddf Priffyrdd 1980, gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd ystyried pa un a oes angen ffordd benodol o hyd os yw un newydd yn cael ei chreu neu ei dargyfeirio.

5.12 Y pwynt pwysicaf i’w ystyried yma yw pa mor gyfleus fydd y llwybr newydd neu’r llwybr wedi’i ddargyfeirio. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd yn gweld y bydd yn llawer llai cyfleus na’r llwybr a fydd yn cael ei gau, gall ef neu hi benderfynu peidio â chadarnhau’r gorchymyn diddymu (gweler adran 5.5). Fodd bynnag, nid yw gwneud cais am ddau orchymyn ar yr un pryd yn golygu y deuir i’r un penderfyniad arnynt o reidrwydd. Er enghraifft, efallai na fydd arolygydd yn gallu cadarnhau un o’r gorchmynion gan nad yw’n bodloni’r meini prawf a nodir yn y Ddeddf, ond efallai y gellir cadarnhau’r gorchymyn arall, pan y’i hystyrir yn unigol.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English