Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Adran 257 (dargyfeirio a gorchmynion cau)

5.13 Mae Adran 257 yn rhoi pwer i awdurdod ddargyfeirio neu gau (diddymu) llwybrau troed neu lwybrau ceffylau i ddatblygu’r tir y maent arnynt. Mae’n rhaid i’r datblygiad fod:

  • Yn unol â’r caniatâd cynllunio a nodir o dan Ran III y Ddeddf.
  • Gan adran o’r llywodraeth.

5.14 Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd fod yn sicr bod cau neu ddargyfeirio’r llwybr yn angenrheidiol er mwyn i’r datblygiad gael ei gynnal.

5.15 Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd yn gweld bod y gorchymyn yn angenrheidiol, gall ef neu hi ystyried unrhyw anfanteision neu golled sy’n debygol o gael eu hachosi o ganlyniad i’r gorchymyn. Os yw’r anfanteision neu’r golled yn rhy fawr, ni ellir cadarnhau’r gorchymyn.

5.16 Ni fydd yr Ysgrifennydd Gwladol na’r arolygydd yn ystyried yr angen am y datblygiad. Ond bydd ef neu hi yn ymwybodol o ddiben y datblygiad a pha mor bwysig y tybiwyd yr oedd pan roddwyd caniatâd cynllunio. Wrth ddod i benderfyniad ar y gorchymyn, mae’n rhaid iddo ef neu hi ystyried y manteision a ddaw wrth gau neu ddargyfeirio llwybr, yn ogystal â’r anfanteision.

5.17 Ni cheir unrhyw drefniadau ar gyfer digolledu perchnogion tir y mae angen eu tir ar gyfer hawl tramwy cyhoeddus newydd o dan yr adran hon, neu ar gyfer prynu’r tir hwnnw’n orfodol. Felly, mae’n rhaid i’r awdurdod gael caniatâd perchennog y tir i greu hawl tramwy newydd dros y tir.
Adran 258 (gorchmynion diddymu)

5.18 Mae Adran 258 yn rhoi pwer i awdurdod gau llwybr troed neu lwybr ceffylau ar ei dir ei hun os yw’n bwriadu datblygu’r tir.

5.19 Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd fod yn siwr naill ai:

  • Bod yr awdurdod wedi darparu neu ei fod yn mynd i ddarparu hawl tramwy arall.
  • Neu, nad oes angen hawl tramwy arall.
    Adran 261 (gorchmynion cau dros dro)

5.20 Mae Adran 261 yn rhoi pwer i awdurdod gau neu ddargyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffylau am gyfnod er mwyn i fwynau allu cael eu mwyngloddio o’r arwyneb. Mae’n rhaid i’r awdurdod adfer y llwybr wedi hynny i gyflwr rhesymol.

5.21 Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd yn ystyried yr un meini prawf ag a geir mewn gorchymyn dargyfeirio neu gau yn Adran 257 (gweler 5.13 a 5.14).

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English