Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybr cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

7 Costau

7.1 Os gwneir penderfyniad yn dilyn y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig neu wrandawiad, nid oes pwer i wneud y rhai a wnaeth y cynrychioliadau yn gyfrifol am rai o gostau’r parti arall neu’r holl gostau.

7.2 Fel arfer, disgwylir i awdurdodau, gwrthwynebwyr ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â gorchymyn dalu eu costau eu hunain mewn achosion ymchwiliadau. Fodd bynnag, gall unrhyw un ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol orchymyn i un ochr dalu peth o gostau’r ochr arall os nad y cyfan.

7.3 Cyn cytuno i hyn, bydd rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn sicr bod y person sy’n gwneud cais wedi gorfod talu costau diangen o ganlyniad i ymddygiad afresymol yr ochr arall.

7.4 Ni cheir unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o’r frawddeg ymddygiad afresymol yn y cyd-destun hwn. Yma, mae i afresymol ei ystyr arferol. Efallai y byddai’n rhaid i’r naill ochr neu’r llall dalu holl gostau’r ymchwiliad pe gellid bod wedi osgoi’r ymchwiliad yn rhesymol. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i awdurdod dalu popeth os gwêl yr arolygydd fod nam sylfaenol yn y gorchymyn a’i fod yn ei wrthod, fel bod y gwrthwynebwyr wedi gwastraffu arian wrth fynd i’r ymchwiliad.

7.5 Gall gwrthwynebwr wneud gwrthwynebiad y canfyddir yn ddiweddarach nad yw’n berthnasol i benderfyniad ar y gorchymyn. Os ydym wedi rhoi’r cyfle i wrthwynebwyr newid gwrthwynebiad amherthnasol ac nad ydynt wedi gwneud hynny, gellir ystyried eu bod wedi ymddwyn yn ‘afresymol’ wrth fynd â’r gwrthwynebiad amherthnasol i’r ymchwiliad.

7.6 Bydd pa un a yw gwrthwynebiad i orchymyn yn amherthnasol ai peidio yn dibynnu ar y math o orchymyn ac amgylchiadau’r achos. Fel canllaw i’r hyn y bydd arolygydd yn ei ystyried ar gyfer pob math o orchymyn, gweler rhan 5 y llyfryn hwn.

7.7 Gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ei fod yn angenrheidiol cynnal ymchwiliad hyd yn oed os nad oes neb arall eisiau un. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oes rhaid i wrthwynebwyr fynd i’r ymchwiliad ond dylent roi gwybod i ni os na allant fod yn bresennol neu os nad ydynt yn dymuno bod yno. Ni chaiff eu dewis i beidio â chymryd rhan yn yr ymchwiliad ei ystyried yn ‘ymddygiad afresymol’.

7.8 Os na fydd gwrthwynebydd sydd wedi gofyn am ymchwiliad yn mynychu’r ymchwiliad nac yn cael ei gynrychioli heb ddweud wrthym, efallai y bydd rhaid iddynt dalu o leiaf rhan o gostau ymchwiliad yr awdurdod. Er mwyn osgoi’r costau hyn, byddai’n rhaid iddynt ddangos bod rheswm da pam na ddylent dalu.

7.9 Am orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ni fydd pwy sy’n talu’r costau’n dibynnu ar ganlyniad y gorchymyn.

7.10 Fodd bynnag, gall y penderfyniad ar rai orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 olygu bod yr awdurdod yn gorfod talu’r costau’n awtomatig. Gelwir y mathau hyn o achosion yn orchmynion ‘cyfatebol’ ac fe’u crybwyllir yn adran 7.3 isod.

Gwneud cais am gostau

7.11 Os ydych eisiau gwneud cais am gostau, dylech ddweud wrth yr arolygydd ar ôl i’r awdurdod wneud ei ddatganiad i gloi ond cyn i’r ymchwiliad lleol gael ei gau’n swyddogol. Fel arfer, bydd yr arolygydd yn eich atgoffa o hyn ar ddechrau’r ymchwiliad. Yna, dylai fod yn amlwg a oes gennych achos i ddadlau bod rhywun wedi ymddwyn yn afresymol. Bydd yr arolygydd yn gwrando ar eich achos am gostau ac yn gwahodd yr ochr arall i ateb. Ar ôl yr ymchwiliad bydd yr arolygydd yn cyflwyno adroddiad ar eich cais am gostau i’r Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn gwneud penderfyniad arno. Pan fyddwch yn gwneud cais am gostau, ni fydd disgwyl i chi gyfrifo’r swm y byddwch yn ceisio ei hawlio yn syth. Ymdrinnir â hyn pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu a ydych yn gymwys i gael costau ai peidio.

Cais hwyr

7.12 Dim ond os gallwch ddangos fod gennych reswm da dros beidio â gwneud cais ynghynt y byddwn yn derbyn ceisiadau am gostau ar ôl i ymchwiliad gloi.
Er mwyn gwneud cais, ysgrifennwch at:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 3NQ

Os derbynnir eich cais hwyr, byddwn yn dweud wrthych ac wrth y bobl eraill sy’n ymwneud â’r achos i drefnu i’r ddwy ochr wneud cynrychioliadau ysgrifenedig cyn i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud penderfyniad.

Gorchmynion ‘cyfatebol’

7.13 Ystyrir bod gorchymyn a wneir o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980 yn debyg i orchymyn prynu gorfodol yn yr ystyr bod y gorchymyn, os caiff ei dderbyn, yn mynd â hawl y perchennog neu ei ddiddordeb yn y tir oddi wrtho. Mae gan berchennog y tir yr hawl i iawndal. Gelwir y math hwn o orchymyn, lle y gellir talu iawndal, yn orchymyn ‘cyfatebol’. Gall gorchmynion dileu a dargyfeirio a wnaed o dan adrannau 118 ac 119 y Ddeddf fod yn gyfatebol yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.

7.14 Beth mae hyn yn ei olygu yw os bydd person sydd â diddordeb mewn tir y mae llwybr yn mynd i gael ei greu, ei ddargyfeirio neu ei gau arno yn gwrthwynebu mewn ymchwiliad cyhoeddus a’i fod yn llwyddiannus, bydd costau’r person hwnnw’n cael eu talu’n awtomatig gan yr awdurdod.

7.15 Os dyfernir costau ar gyfer gorchymyn cyfatebol, nid yw’n awgrymu bod yr awdurdod wedi ymddwyn yn afresymol.

7.16 Ceir datganiad llawnach o bolisi’r Ysgrifennydd Gwladol ar ddyfarnu costau yng Nghylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig 23/93 a 5/93. Mae’r rhain ar gael mewn siopau’r Llyfrfa (Llyfrfa ei Mawrhydi gynt) neu gallwch edrych ar gopïau yn eich llyfrgell leol.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English