Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys

Atodiad A – Rhai cyhoeddiadau ar orchmynion hawliau tramwy

Deddfau Seneddol a Rheoliadau

1. Deddf Priffyrdd 1980

Mae Adrannau 26, 118 a 119 yn cwmpasu gorchmynion creu, dileu a dargyfeirio. Mae Atodlen 6 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chadarnhau’r gorchmynion hyn.

Noder – Mae Deddf Priffyrdd 1980 wedi’i diwygio gan sawl Deddf Seneddol. Mae’r newidiadau sy’n cyfeirio at orchmynion llwybrau cyhoeddus yn cynnwys y rhai a wnaed o dan Atodlen 16 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (diwygio Adran 119 ac Atodlen 6 Deddf 1980).

2. Rheoliadau Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus 1993 (Offeryn Statudol 1993 Rhif 11)
Mae’r rhain yn dangos ar ba ffurf y dylai gorchmynion a wnaed o dan adrannau 26, 118 a 119 fod, a’r ffurf ar gyfer hysbysiadau sy’n hysbysebu’r gorchymyn. Gweler 5 isod.

3. Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Mae Adrannau 257, 258 a 261 yn cwmpasu gorchmynion dargyfeirio a chau i ganiatáu datblygiad. Mae Atodlen 14 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chadarnhau’r gorchmynion hyn.

4. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus) 1993 (Offeryn Statudol 1993 Rhif 10)
Mae’r rhain yn dangos ar ba ffurf y dylai gorchmynion a wnaed o dan adran 257 fod, a’r ffurf ar gyfer hysbysiadau sy’n hysbysebu’r gorchymyn. Gweler 5 isod hefyd.

5. Gorchmynion Dileu a Dargyfeirio Croesi Rheilffyrdd, Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a Rheoliadau Mapiau a Datganiadau Terfynol (Diwygiad) 1995 (Offeryn Statudol 1995 Rhif 451).

Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus) a’r Rheoliadau Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus 1993.

Cylchlythyrau
Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 5/93, Hawliau tramwy cyhoeddus

Mae hwn yn rhoi cyngor ar nifer o faterion sy’n ymwneud â chofnodi, cynnal, diogelu a newid y rhwydwaith hawliau tramwy.

Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 23/93, Dyfarnu costau yr aethpwyd iddynt mewn gweithrediadau cynllunio a gweithrediadau eraill (gan gynnwys gorchymyn prynu gorfodol)

Mae hwn yn rhoi cyngor ar ddyfarnu costau ymchwiliadau, gan gynnwys achosion yn ymwneud â gorchmynion hawliau tramwy.

Llythyr y Swyddfa Gymreig, dyddiedig 31 Mai 1995 (cyf CC 2-3-12) Rheoliadau diwygio a chyngor ar orchmynion llwybrau cyhoeddus

Mae hwn yn disgrifio’r amodau yn y Gorchmynion Dileu a Dargyfeirio Croesi Rheilffyrdd, y Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a’r Rheoliadau Mapiau a Datganiadau Terfynol (Diwygio) 1995 (Offeryn Statudol 1995/451). Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar sut y gellir defnyddio Deddf Priffyrdd 1980 i gau llwybr cyhoeddus a chreu neu ddargyfeirio llwybr fel dewis arall.

Noder

Mae’r cyhoeddiadau a restrir uchod ar gael mewn siopau’r Llyfrfa. Gallwch edrych ar gopïau hefyd yn eich llyfrgelloedd lleol ac mewn swyddfeydd cyngor.

Cyhoeddiadau eraill
Canllaw i Weithdrefnau ar gyfer Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus

Cynhyrchir y llyfryn hwn gan y Comisiwn Cefn Gwlad ac mae ar gael oddi wrth:

Countryside Commission Postal Sales
PO Box 124.
Walgrave
Northampton
NN6 9TL.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English