Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Newid lleoliadau eich Porwr

Internet Explorer

Gallwch nodi'r meintiau ffont, arddulliau a lliwiau, a lliwiau blaendir a chefndir tudalennau'r We a arddangosir ar sgrîn eich cyfrifiadur, hyd yn oed os yw awdur y dudalen We eisoes wedi nodi'r rheini. Gallwch hefyd nodi'r lliw a ddefnyddir i ddynodi dolenni yn y tudalennau Gwe, neu liw arbennig ar gyfer dolenni a gaiff ei ddefnyddio dim ond pan fydd y llygoden yn mynd dros y ddolen.

Mae hyn yn ddefnyddiol os yw eich golwg yn wan, os bydd angen ffontiau mwy arnoch neu os bydd angen lliwiau cyferbyniad-uchel arnoch. Gallwch osod Internet Explorer i ddefnyddio'r lliwiau a'r ffontiau a nodwch, eich lliwiau a ffontiau Windows diofyn, neu'r gosodiadau a nodwch yn eich dalen arddull eich hun.

Y ffordd symlaf i newid gosodiadau'r porwr yw dewis Ffontiau o'r ddewislen Gwylio yn Internet Explorer 4 neu fersiwn gynharach neu ddewis Maint Testun o'r ddewislen Gwylio yn Internet Explorer 5 a chlicio ar faint y testun y dymunwch ei ddefnyddio.

I gael rhagor o reolaeth dros osodiad porwr dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd o'r ddewislen Gwylio yn Internet Explorer 4 neu fersiwn gynharach neu yn y ddewislen Offer yn Internet Explorer 5.

Mae'r Dewisiadau Rhyngrwyd yn caniatáu i chi newid ffontiau a lliwiau cefndir a defnyddio eich dalen arddull eich hun i addasu'r porwr ymhellach ar gyfer eich anghenion hygyrchedd.

Netscape

Gallwch ddynodi pa ffontiau a meintiau ffontiau a ddefnyddir i arddangos tudalennau'r we yn eich porwr. Gallwch hefyd ddewis amgodiadau cymeriadau.

  1. Agor y ddewislen Golygu a dewis Dewisiadau.
  2. Agor y grwp Ymddangos a chlicio'r categori Ffontiau.
  3. Dewis amgodiad i ddweud wrth y cyfrifiadur pa fathau o lythrennau a symbolau i'w defnyddio
  4. Dewis eich ffontiau diofynnu o ddewislenni Ffont Lled-Amywiol a Ffont Lled-Sefydlog. (Defnyddir ffontiau lled-sefydlog yn aml ar gyfer cwblhau ffurflenni.)
  5. Clicio un o'r canlynol:
  • Er mwyn nodi bod eich ffontiau diofyn yn cael eu defnyddio o hyd yn lle'r ffontiau a ddewisir gan awdur dogfen, cliciwch "Defnyddiwch fy ffontiau diofyn, gan ddiystyru'r ffontiau dogfen-ddynodedig."
  • I nodi y defnyddir ffontiau tudalen yn unig pan fônt ar gael heb eu dadlwytho (mae'n arbed amser), cliciwch " Defnyddiwch ffontiau dogfen-ddynodedig, ond mynnwch anablu Ffontiau Deinamig."
  • I ddynodi bod ffontiau tudalen yn cael eu defnyddio bob amser, cliciwch "Defnyddiwch ffontiau dogfen-ddynodedig, yn cynnwys Ffontiau Deinamig."

Os edrychwch ar dudalennau'r we mewn mwy nag un cynllun amgodu (er enghraifft, Gorllewinol neu Tsieineaidd), gallwch ddewis ffontiau a meintiau ffontiau ar gyfer pob amgodiad.

Dolenni Defnyddiol

Mae'r dolenni isod yn agor mewn ffenestr bori newydd.

Directgov - Mae Directgov yn cynning gwybodaeth â pwynt mynediad i gwasanaethau'r llywodraeth; yn cynnwys gwybodaeth i bobl anabl.

RNIB - Mae gan ddwy filiwn o bobl yn y DU broblemau â’u golwg. Bydd rhai o’r rhain yn ddall a rhai yn rhannol ddall. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) yn gweithio i alluogi pobl sydd â nam ar y golwg i fyw eu bywyd bob dydd yn annibynnol.

Comisiwn Hawliau'r Anabl - Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995; gofynion newydd i wneud nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn fwy hygyrch i bobl anabl o 2004.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English