Cymorth Safle
CyflwyniadMae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am gyfleusterau sydd ar gael o'r wefan yn cynnwys dulliau llywio a dolenni i wefannau gan roi cyngor hygyrchedd a gwybodaeth ar bori drwy'r wefan gydag offer darllen sgrîn. Mae'r dudalen hon ar gael o bob tudalen ar y wefan Mynediad. Hefyd rydym wedi darparu gwybodaeth ar sut i newid y gosodiadau ar eich porwr i wneud y wefan yn haws i'w darllen os ydych yn cael trafferthion. Ynglyn â'r WefanMae'r wefan fynediad yn cynnwys gwybodaeth, arweiniad a chyngor. Bydd y safle yn cael ei ddatblygu'n barhaus i gynnwys gwybodaeth gyfredol ynglyn ag apeliadau mynediad. Mae'n rhoi cyfeiriadaeth at ffynonellau gwybodaeth a gwefannau perthnasol eraill. Am wybodaeth pellach a fydd o gymorth gwelwch dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml. Dylanwadwyd ar y gwaith o wneud y safle hwn yn fwy hygyrch gan y Canllawiau ar gyfer Gwefannau Llywodraeth y DG, sy'n ymgorffori cefnogaeth ar gyfer y Fenter Hygyrchedd i'r We (WAI). Lle bo'n bosibl, defnyddir Dalennau Arddull Rhaeadru (CSS) i wahanau fformadu gweledol oddi wrth farciadau strwythurol. Dylai'r holl dudalennau a grëwyd i'n safonau dylunio mwyaf diweddar fod ar ffurf ddefnyddiol ar ystod eang o borwyr ac, os bydd angen, dylent fod yn weladwy ar ffurf sylfaenol iawn ar borwyr nad ydynt yn gallu adnabod CSS neu lle bo CSS wedi cael ei ddiffodd. Hygyrchedd gwefanSafon Allweddgyrchu Llywodraeth y DUMae'r tabl canlynol yn dangos gorchmynion bysellfwrdd cyflym sydd ar gael o fewn yr ardaloedd o'r wefan hon a ddiweddarwyd. Cynlluniwyd y gorchmynion hyn i gynorthwyo defnyddwyr sy'n cael anhawster i ddefnyddio dyfeisiau pwyntio megis y llygoden. Defnyddiwch un o'r canlynol yn dibynnu ar eich math o borwr.
Mae rhai o'r dogfennau yn y wefan hon ar gael ar Fformad Dogfen Gludadwy (PDF) Adobe Acrobat. Er mwyn gweld y dogfennau hyn rhaid i chi ddefnyddio edrychydd ffeil PDF megis Acrobat Reader neu Acrobat Exchange o Adobe Systems Corfforedig. Er eich bod yn gallu edrych ar y ffurflen ar y sgrin, ni fyddwch yn gallu arbed y ffurflen a gwblhawyd ar eich cyfrifiadur er mwyn bwrw golwg drosti neu ei newid yn ddiweddarach. Gallwch yn awr ddadlwytho'r Acrobat Reader am ddim. Os hoffech Arbed Ffeiliau PDF at ddefnydd arall efallai y penderfynwch
ystyried prynu'r cynnyrch Acrobat llawn ar eich cost eich hun. Ymwelwch â http://www.adobe.com/products/acrobat/products.html
am ragor o fanylion. Mae Access.Adobe.Com yn declyn sy'n caniatáu i ddefnyddwyr dall a rhai sydd â nam ar eu golwg ddarllen unrhyw ddogfen ar fformat Adobe PDF. Bydd y teclyn yn trosi dogfennau PDF i mewn i HTML syml neu destun ASCII a all gael eu darllen wedyn gan nifer o raglenni darllen sgrin gyffredin sy'n cyfuno'r HTML fel iaith ddarllenadwy. Meintiau SgrînMae'r sgrîn yn cydweddu â thechnoleg mynediad, sy'n darllen cynnwys y safle ac yn ei drosglwyddo mewn fformad darllenadwy. Mae hefyd wedi ei gynllunio i arddangos ar bob math ar fonitor, yn cynwys pixels 600 x 400 a defnyddia liwiau gwe diogel. Gall maint y ffont gael ei addasu trwy ddefnyddio eich porwr. ArgymhellionMae Gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio wedi cael ei hargymell fel model o arfer da mewn dylunio hygyrch gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB).
Llwyddodd gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio i gael cydymffurfiad LefelA fel y'i diffinnir gan W3C:
Cafodd y wefan hon ei graddio gan y Gymdeithas Graddio Cynnwys Rhyngrwyd.
Defnyddio'r WefanLlywio'r WefanGall y wefan gael ei llywio mewn nifer o ffyrdd:
Dengys yr enghreifftiau canlynol rai o'r gwahanol fathau o lywio sydd ar gael. Prif Far Llywio UchafMae'r bar llywio ar y dudalen fynedfa flaen yr un fath â'r tudalennau eraill i gyd. Mae hyn yn caniatáu i'r defnyddwyr lywio'n gyflym i ardaloedd allweddol ar y wefan. Mae'r ddewislen i'r holl dudalennau eraill yn ymddangos ar y sgrîn fel a ganlyn:
Mae'r dewisiadau yn y ddewislen yn darparu'r dolenni canlynol: Dolenni prif benawdauMae'r dolenni prif benawdau mewn ffontiau pinc mawr ac wedi eu tanlinellu pan gânt eu rholio drosodd. Dilynnir y dolenni prif benawdau o hyd gan ryw destun esboniadol am y pwnc sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen. Dolenni Gwaelod y DudalenMae dolenni testun ar waelod y dudalen yn darparu dolenni yn ôl i'r dudalen hafan, i 'r wefan Llywodraeth Agored, gwybodaeth hawlfraint yn ymwneud â phob gwybodaeth ar y wefan fynediad ac i ffurflen adborth yn benodol argyfer y wefan. Mae'r sylwadau a wneir ar y wefan yn cael eu postio'n uniongyrchol i Reolwr y Wefan. Dewislen ochrMae gan rai tudalennau ddewisiadau dewislen ochr sy'n dolenni i feysydd pwnc, er enghraifft yr adran Beth sy'n Newydd a rhestrau cyfeirio cyflym o gyhoeddiadau a ffurflenni mynediad. Os ydych ar dudalen heb y dolenni hyn a'ch bod yn dymuno eu gweld cliciwch ar y botwm Hafan ar y bar llywio uchaf. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |