Cyflwyno Tystiolaeth yn Well mewn Prif Arweiniad

A. Datganiadau Ysgrifenedig o Dystiolaeth
- Dylai datganiadu ysgrifenedig o dystiolaeth fod mor gryno ag sy’n
bosibl gan osgoi ailadrodd ac amleiriogrwydd.
- Dylai’r Apelydd/Ceisydd/Gwrthwynebydd a’r Awdurdod Cynllunio
Lleol wneud pob ymdrech i gytuno ar wybodaeth ffeithiol megis disgrifiad
o’r safle, disgrifid o’r ardal o’i amgylch, hanes
cynllunio, data ac ystadegau ac ati, cyn gynted ag y bo modd.
- Lle y bo angen i nodi ffeithiau’n fanwl, dylent ganolbwyntio
ar yr hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd i’r mater dan sylw ac
osgoi cynnwys deunydd nad yw’n angenrheidiol. Fel arfer, gellir
nodi manylion megis disgrifiad o’r safle a hanes cynllunio, os nad
yw mewn datganiad y cytunwyd arno, yn yr atodiadau gyda dim ond datganiad
cryno o’r ffeithiau hollbwysig yn y ddatganiad ei hun.
- Mae’r gallu i fod yn gryno yn arbennig o bwysig yn achos datganiad
ysgrifenedig o dystiolaeth mewn Ymchwiliadau Cynlluniau Datblygu. Maent
yn ymwneud gan fwyaf ag egwyddorion y defnydd cyffredinol o ardaloedd
o dir ac anaml iawn gyda manylion cynigion datblygu penodol. Felly, anaml
y mae tystiolaeth o ran teilyngdod y cynlluniau arfaethedig i ddatblygu
yn briodol, ond o bryd i’w gilydd, gall tystiolaeth gynnwys materion
megis cyfrifiadau o ran bodloni cylch gorchwyl tai cynllun fframwaith.
- Ni ddylid ailadrodd testun canllawiau cenedlaethol na rhanbarthol
yn nhestun y datganiad ysgrifendig o dystiolaeth, nac ychwaith anfon
crynodeb
ohonynt. Gellir cymryd fod canllawiau cenedlaethol neu ranbarthol megis
Nodiadau Cyngor Technegol (Cymru) ar gael i bartïon neu’r Arolygydd
ac nid oes angen eu cynnwys yn yr atodiadau. Y ffordd orau o gyflwyno
polisïau lleol perthnasol yw ar ffurf dyfyniadau y dylid eu cynnwys
yn yr atodiadau ac fel arfer wedi’u dyfynnu yn ôl yr angen
yn y datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth.
- Lle gwneir pwynt yn nhestun datganiad sy’n dibynnu ar ddogfen
(p’un a yw’r ddogfen honno wedi’i chynnwys yn yr atodiadau
ai peidio), dylid nodi rhif y dudalen a’r paragraff yn y ddogfen
honno bob amser.
- Mae adran ar ddiwedd datganiad yn nodi’r casgliadau yn ddefnyddiol
dim ond os yw mewn gwirionedd yn nodi’r casgliadau sy’n deillio
o’r testun blaenorol. Ni ddylid defnyddio “Casgliadau” i
gyflwyno pwyntiau newydd.
- Dylid rhifo tudalennau a pharagraffau datganiad ysgrifenedig o
dystiolaeth.
Datganiadau Ysgrifenedig o Dystiolaeth Atodol
Nid yw’r rheolau yn darparu ar gyfer datganiadau ysgrifenedig
o dystiolaeth atodol, ac fel nod cyffredinol, dylid cynnwys holl dystiolaeth
y tyst yn y ddatganiad a gyflwynir pedair wythnos cyn yr ymchwiliad. Fodd
bynnag, cydnabyddir mewn rhai achosion, y bydd parti’n canfod (er
enghraifft, wrth ddarllen tystiolaeth parti arall) fod yn rhaid cwmpasu
mater ychwanegol. O dan amgylchiadau o’r fath, dylai unrhyw ddatganiadau
ysgrifenedig o dystiolaeth atodol gydymffurfio cymaint â phosibl
â’r canllawiau hyn a dylid ei gyflwyno i’r holl bartïon
eraill yn ddi-oed. Dylid cadw datganiadau atodol (h.y. yn cynnwys deunydd
atodol) ar wahân i ddatganiad gryno sydd ei hangen o dan y rheolau
(a dim ond crynhoi’r hyn sydd yn y ddatganiad ysgrifenedig o dystiolaeth
ei hun y dylai’i wneud: gweler isod).

|