Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cyflwyno Tystiolaeth yn Well mewn Prif Arweiniad

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys

C.Atodiadau

  1. Dylid cyflwyno cyn lleied o atodiadau â phosibl
  2. Dylai’r atodiadau fod mewn bwndel neu fwndelau ar wahân i’r ddatganiad ysgrifenedig o dystiolaeth. Dylent oll gynnwys cynlluniau, mapiau, diagramau a ffotograffau wedi’u gosod ar gerdyn, dylent fod o faint A4 neu wedi’u plygu i faint A4.
  3. Dylai’r atodiadau cyfan fod wedi’u tudalennu a dylid cael rhestr o atodiadau gyda chyfeirnodau tudalen ar ddechrau’r bwndel.
  4. Rhaid gosod rhannwr gyda thab estynedig â rhifau ar ddechrau pob atodiad.
  5. Ni ddylai atodiad gynnwys y ddogfen gyfan, dim ond y tudalennau hynny sy’n berthnasol i’r achos gan gynnwys y dudalen deitl. Fodd bynnag, dylai fod gan yr awdurdod cynllunio lleol gopïau llawn o’r Cynllun Fframwaith, Cynllun Lleol ac/neu Cynllun Datblygu Unedol ar gael at ddefnydd yr Arolygydd yn ystod yr ymchwiliad, a dylai fod gan unrhyw barti sy’n cynhyrchu rhan o unrhyw ddogfen arall fod â’r ddogfen lawn ar gael yn yr ymchwiliad.
  6. Dylid ei gwneud yn amlwg i’r Arolygydd pa rannau o bob atodiad y dylai eu darllen cyn yr ymchwiliad naill ai drwy gyfeirio at rifau paragraffau yn y dystiolaeth yn yr atodiadau neu drwy roi llinellau wrth ochr y paragraffau perthnasol.

GORFFENNAF 1995

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English