Dull o gynnal Ymchwiliadau Cynllunio - a ddylai eiriolwyr eistedd neu sefyll?Mae pa un a ddylai eiriolwyr eistedd neu sefyll mewn ymchwiliadau wrth · ofyn i'r Arolygydd wneud cyflwyniadau agoriadol neu i gloi; · gwneud ceisiadau am ddyfarniadau neu gostau; · ymyrryd yn ystod achos parti arall; · mynd drwy dystiolaeth lafar nas darllenwyd gyda'u tyst eu hunain; · ail-holi eu tyst eu hunain; · croesholi tyst parti arall yn fater i'r Arolygydd benderfynu arno a chaiff y mater ei godi yn ystod ei gyhoeddiad agoriadol. Mewn ymchwiliadau lle mae gan y cyhoedd lawer o ddiddordeb gall fod yn anodd i bobl â diddordeb weld beth sy'n digwydd, neu adnabod pwy sy'n siarad, a gallai fod o gymorth iddynt ddilyn yr achos os saif eiriolwyr wrth wneud eu cyflwyniadau agoriadol ac i gloi ac wrth iddynt gael eu croesholi a'u hail-holi hefyd. Yn gyffredinol bydd Arolygydd yn gofyn i dystion a thrydydd partïon eistedd wrth y bwrdd tystio. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |