Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Arfer gorau ar gyfer ymchwiliadau i gynigion sy'n ymwneud â phriffyrdd lleol

Mae'r dudalen hon yn amlinellu pwyntiau o arfer gorau ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff anweinidogol eraill sy'n hyrwyddo Gorchmynion o Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Deddf Caffael Tir 1981 neu Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n gysylltiedig yn bennaf â chynigion i ehangu neu i addasu'r briffordd a'r defnydd ohoni. Mae'r arfer gorau a nodir isod yn seiliedig ar brofiad Arolygwyr, a'i nod yw nodi pwyntiau defnyddiol sydd wedi helpu'r broses o gynnal ymchwiliadau'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae ymchwiliad lleol yn y cyd-destun hwn yn ymchwiliad sy'n gysylltiedig â chynigion gan awdurdodau priffyrdd lleol neu bartïon eraill sydd â diddordeb ond nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad).

Er nad ysgrifennwyd y dudalen hon gan ystyried cynlluniau'r Cynulliad, mae ymchwiliadau i gynigion y Cynulliad yn ddarostyngedig i weithdrefnau a rheolau tebyg. Efallai y bydd partïon sy'n gysylltiedig ag ymchwiliadau o'r fath am nodi'r pwyntiau arfer gorau hyn.

Mae'r dudalen Ymchwiliadau Mawr yn cynnwys rhai o gynlluniau'r Asiantaeth Briffyrdd a chynlluniau trafnidiaeth eraill.

Tabl Cynnwys

Gweithdrefnau: Cysylltiadau â'r rheolau gweithdrefnol y mae amrywiol fathau o ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â phriffyrdd yn gweithredu oddi mewn iddynt.

Diffiniadau: Rhai diffiniadau o dermau a ddefnyddir ar y dudalen hon.

Dogfennau: Nodiadau sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau, eu cyhoeddi a'u rhoi ar adnau cyn yr ymchwiliad.

Tystiolaeth: Nodiadau bras yn ymwneud â chynnwys y dystiolaeth.

Cyfleusterau'r Ymchwiliad : Bydd yr hyrwyddwr yn trefnu lleoliad yr ymchwiliad. Rhestrir y gofynion sylfaenol.

1. Gweithdrefnau

Yn gyffredinol, mae Ymchwiliadau i Briffyrdd yn ddarostyngedig i Reolau Priffyrdd (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994, y cyfeirir atynt ar y dudalen hon fel Rheolau'r Ymchwiliadau. Ni chyhoeddwyd unrhyw Reolau ar gyfer ymchwiliadau i Orchmynion y bwriedir eu cynnal o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ond defnyddir ysbryd Rheolau Priffyrdd (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994 yn aml mewn achosion o'r fath.

Mae ymchwiliadau sydd ond yn ymwneud â Gorchmynion Prynu Gorfodol arfaethedig, lle na chaiff y gorchymyn ei hyrwyddo gan y Gweinidog, yn ddarostyngedig i Reolau Prynu Gorfodol gan Awdurdodau Caffael Anweinidogol (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1990.

Mae ymchwiliadau sydd ond yn ymwneud â Gorchmynion arfaethedig a gaiff eu gwneud o dan Ddeddfau Rheoleiddio Traffig y Ffyrdd yn unig yn ddarostyngedig i Reoliadau Gorchmynion Traffig yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1990.

Mae canllawiau ar ymchwiliadau i gynigion sy'n ymwneud â ffyrdd hefyd ar gael o'r Adran Drafnidiaeth. Mae canllawiau ar gyfer awdurdodau caffael yng Nghymru sy'n gwneud gorchmynion prynu gorfodol wedi'u nodi yn Cylchlythyr y Cynulliad 14/2004.

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi Nodiadau Canllaw ar gyfer Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig. Mae'r nodiadau hynny yn rhoi canllawiau cyffredinol i'r Arolygwyr sy'n cynnal ymchwiliadau o'r fath, ond ni ddylid eu hystyried i fod yn orfodol ym mhob agwedd.

2. Rhai Diffiniadau

Awdurdod sy'n gwneud gorchmynion: Yr awdurdod lleol sy'n gwneud Gorchymyn: er enghraifft efallai y caiff rhai gorchmynion o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 eu gwneud gan Gyngor fel awdurdod priffyrdd lleol ond ni ddaw i rym hyd nes iddo gael ei gadarnhau gan y Cynulliad.

Awdurdod Hyrwyddo: Yr awdurdod lleol sy'n hyrwyddo Gorchymyn y mae wedi gwneud cais i'r Cynulliad mewn perthynas ag ef er mwyn i'r Gorchymyn gael ei wneud. Caiff rhai Gorchmynion o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 eu gwneud gan y Cynulliad yn sgil cais gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Achosion Eraill: Mewn rhai achosion - er enghraifft, Gorchmynion y bwriedir eu gwneud o dan adran 247 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - efallai y caiff y Gorchymyn ei hyrwyddo gan barti arall, fel datblygwr, yn hytrach na'r awdurdod lleol.

Hyrwyddwr: Yn y nodiadau hyn, defnyddir y term "hyrwyddwr" i nodi'r parti sy'n hyrwyddo'r Gorchymyn neu'r Gorchmynion y cynhelir yr Ymchwiliad yn ei gylch/eu cylch. Golyga hyn yr awdurdod lleol neu gorff arall, yn ôl y galw.

Gwrthwynebydd statudol: Parti sy'n gwrthwynebu'r Gorchymyn a chanddo fuddiant mewn tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn/Gorchmynion neu yr ymddengys i'r Cynulliad fod y Gorchymyn yn effeithio arno.

Gwrthwynebydd anstatudol: Gwrthwynebydd nad yw'n wrthwynebydd statudol.

Proflen Dystiolaeth: Tystiolaeth ysgrifenedig a baratowyd gan dyst, sy'n arbenigwr yn aml, ar gyfer ei chyflwyno yn ystod yr Ymchwiliad. Ni chyfeirir at ddatganiadau ysgrifenedig sy'n llai na 1500 o eiriau gan unigolion lleyg fel proflenni tystiolaeth; yn hytrach, fe'u gelwir yn "ddatganiadau ysgrifenedig". Mae'r ddau fath o gynrychioliad yn dderbyniol, yn yr un modd â thystiolaeth a gyflwynir ar lafar yn ystod yr Ymchwiliad.

3. Pwyntiau Allweddol

Mae Rheolau'r Ymchwiliadau yn rhoi'r pwer i Arolygwyr gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad. Fodd bynnag, ni wneir hyn ar gyfer ymchwiliadau bach yn gyffredinol. Mae'r nodiadau canlynol yn rhoi arfer gorau mewn cysylltiad â rhai pwyntiau allweddol a gaiff eu trafod mewn cyfarfodydd cyn yr ymchwiliad.

3.1 Dogfennau

  1. Mae'n ofynnol cyflwyno Datganiad Achos yr hyrwyddwr i'r Cynulliad a phob gwrthwynebydd statudol yn ôl Rheolau'r Ymchwiliadau.
  2. Mae hefyd yn ofynnol cyflwyno pob dogfen (neu ran berthnasol pob dogfen), y mae'r hyrwyddwr yn bwriadu cyfeirio atynt, i'r Cynulliad yn ôl Rheolau'r Ymchwiliadau. Cyfeirir at y rhain fel y Dogfennau Craidd.
  3. O dan Reolau'r Ymchwiliadau, caiff pob dogfen (neu ran berthnasol pob dogfen), y mae'r hyrwyddwr yn bwriadu cyfeirio atynt, eu rhoi ar adnau i'r cyhoedd eu gweld am ddim yn ystod oriau rhesymol, a hysbysir pob gwrthwynebydd statudol o'r lleoedd y gellir edrych ar y dogfennau hynny. Er nad yw'n ofynnol gwneud hynny, efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno hysbysu pob gwrthwynebydd anstatudol y maent yn eu hadnabod hefyd.
  4. Mae Rheolau'r Ymchwiliadau yn caniatáu i'r hyrwyddwr ac unrhyw berson sydd â'r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad roi tystiolaeth ar ffurf proflen dystiolaeth, i'w darllen yn yr ymchwiliad. Fel arall, gellir rhoi tystiolaeth ar lafar neu drwy gynrychioliadau ysgrifenedig. Gwrandewir ar bob tystiolaeth y cytuna'r Arolygydd ei bod yn berthnasol ac nad yw'n rhy ailadroddus yn yr ymchwiliad, os bydd parti yn dymuno'i chyflwyno.
  5. Lle y bydd hyrwyddwr neu unrhyw barti yn dewis cyflwyno proflen dystiolaeth i'r ymchwiliad, mae Rheolau'r Ymchwiliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu crynodeb o'r broflen dystiolaeth os bydd y broflen dystiolaeth yn cynnwys mwy na 1500 o eiriau. Anfonir y dystiolaeth a chrynodeb o'r dystiolaeth i'r Arolygiaeth Gynllunio i'w hanfon at yr Arolygydd tair wythnos cyn dechrau'r ymchwiliad.
  6. Darperir y Dogfennau Craidd, ynghyd â phob proflen dystiolaeth ysgrifenedig, i'r Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn eu hanfon at yr Arolygydd, ynghyd â phob gwrthwynebiad a chynrychioliad ysgrifenedig a dderbynnir ganddynt. Bydd pob proflen dystiolaeth a gyflwynir i'r Ymchwiliad a phob gwrthwynebiad a chynrychioliad ysgrifenedig a ystyrir wedi hynny ar gael er mwyn i'r cyhoedd edrych arnynt yn ystod yr Ymchwiliadau a chânt eu cynnwys o fewn set o ddogfennau'r Ymchwiliadau a gasglwyd gan yr Arolygydd a'u cyflwyno i'r Cynulliad gyda'i adroddiad/hadroddiad.
  7. Er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth a'r broses gyfeirio, awgryma Arolygwyr y canlynol:

    • Dylai proflenni tystiolaeth fod yn eglur.
    • Dylid rhifo tudalennau'n olynol.
    • Ar gyfer dogfennau mwy, dylid darparu tabl cynnwys.
    • Gall lluniau, diagramau a'u math a gyflwynir i ategu proflenni tystiolaeth fod o unrhyw faint ond byddai'n ddefnyddiol plygu'r rhain i faint A4 neu oddeutu'r maint hwn a'u clymu neu eu hatodi i'r ddogfen. Gall defnyddio pocedi dogfennau plastig tryloyw gynorthwyo yn y cyd-destun hwn.
  8. Ystyria Arolygwyr ei fod yn ddefnyddiol i bob parti sy'n cyflwyno mwy nag un ddogfen i ddarparu rhestr o'r dogfennau a gyflwynir. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob dogfen ar gael yn ystod pob cam. Dylai'r hyrwyddwr grynhoi'r rhestrau hyn i ddarparu rhestr gynhwysfawr o ddogfennau.

3.2 Tystiolaeth

  1. Dylai'r dystiolaeth a gyflwynir i'r ymchwiliad fod yn berthnasol i'r Gorchymyn/Gorchmynion arfaethedig a'r cynllun.
  2. Mae gan yr hyrwyddwr a phob gwrthwynebydd statudol hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad. Ni fydd yr Arolygydd yn atal pobl eraill sydd â diddordeb rhag ymddangos yn yr ymchwiliad heb reswm dilys, ac felly mae'n bwysig sicrhau bod pob dogfen sy'n ymwneud â'r ymchwiliad ar gael i'r cyhoedd yn yr ymchwiliad a chyn yr ymchwiliad.
  3. Gall tystiolaeth yr hyrwyddwr gynnwys datganiad yn nodi ar ba sail y dylid cadarnhau'r Gorchymyn yn ei farn ef/barn hi. Mae'n ddefnyddiol i Arolygwyr os yw'r datganiadau, neu dystiolaeth arall, yn nodi sut mae'r cynllun yn bodloni'r profion statudol ar gyfer y Gorchmynion. Nodir y profion statudol yn y ddeddfwriaeth y bwriedir ei defnyddio wrth wneud y Gorchymyn ac, yn achos gorchmynion prynu gorfodol, Cylchlythyr y Cynulliad 14/2004. Bydd yr Arolygydd yn ystyried y profion hynny wrth baratoi ei adroddiad, a bydd y Cynulliad yn cyfeirio atynt wrth wneud y penderfyniad.

3.3 Cyfleusterau Ymchwiliadau Cyhoeddus

  1. Mae angen i hyrwyddwyr ystyried nodyn cyfleuster yr Arolygiaeth Gynllunio wrth wneud trefniadau ar gyfer Lleoliadau Ymchwiliadau. Mae'r nodyn cyfleuster yn rhoi gwybodaeth bwysig i'r bobl hynny sy'n trefnu'r lleoliad ar gyfer ymchwiliad. Yn gyffredinol mae'n disgrifio trefniadau derbyniol ar gyfer:-
  • Lleoliad
  • Yr ystafell
  • Ystafelloedd cotiau a thoiledau
  • Llungopïo
  • Ystafelloedd ymwisgo
  • Iechyd a diogelwch
  • Cynllun yr ystafell ymddeol
  • Gofynion eraill.

Llwythwch nodyn cyfleuster yr ymchwiliad Cyhoeddus yn PDF Dogfen ffurf PDF 36KB
Llwythwch nodyn cyfleuster yr ymchwiliad Cyhoeddus yn Word 436KB

 


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English