Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

2. Cefndir Gweinyddol a Chyfreithiol

Tarddiad Gorchmynion

2.1 Paratoir gorchmynion gan adrannau'r Llywodraeth neu gan awdurdodau lleol. Cyhoeddir y rhai a baratoir gan adrannau'r Llywodraeth ar ffurf drafft ac ni chânt eu gwneud hyd nes y bydd pob proses statudol wedi'i chwblhau. Mae awdurdodau lleol yn gwneud gorchmynion drwy gynigion a gaiff eu derbyn gan y cyngor ac yna eu cymeradwyo, ond ni ddaw'r gorchmynion i rym oni chânt eu cadarnhau gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru a hyd nes y cânt eu cadarnhau ganddynt. Mae pob gorchymyn yn dibynnu ar adran neu adrannau o Ddeddf Seneddol sydd, mewn rhai achosion, yn nodi'r meini prawf y caiff y gorchymyn ei ystyried yn eu herbyn. Mae ymchwiliadau'n angenrheidiol, fel rheol, o ganlyniad i wrthwynebiadau i gynnig na ellir eu datrys. Ar gyfer y rhan fwyaf o orchmynion, mae atodlenni a rheoliadau o dan y Ddeddf berthnasol yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud neu gadarnhau gorchmynion a'r amgylchiadau ar gyfer cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

Y Sail Statudol ar gyfer Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion

2.2 Mae Atodlen 1 Deddf Priffyrdd 1980 ac Adran 5 Deddf Caffael Tir 1981 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliadau mewn perthynas â materion sy'n codi o dan y Deddfau hynny. Mae Atodlen 1 Paragraff 7 y Ddeddf Priffyrdd yn nodi achosion lle mae angen cynnal ymchwiliad i orchmynion llinell a gorchmynion ffyrdd ochr. Mae Adran 13 y Ddeddf Caffael Tir (o ran gorchmynion awdurdodau lleol) ac Atodlen 1, Paragraff 4 y Ddeddf honno (o ran gorchmynion drafft yr Ysgrifennydd Gwladol/Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn nodi achosion lle mae angen ymchwiliad neu wrandawiad mewn perthynas â gorchmynion prynu gorfodol. Mae Adran 252(4) ac Atodlen 14, Paragraff 3 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn manylu ar yr amgylchiadau ar gyfer cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer gorchmynion o dan Adrannau 247, 248, 249 a 251 y Ddeddf honno. Mae Adran 3(5)(b) Deddf Llwybrau Beicio 1984 yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i gynnal ymchwiliadau i Orchmynion Llwybrau Beicio a wrthwynebir.

2.3 Mynegir ymchwiliadau i orchmynion y mae'r nodiadau hyn yn ymwneud â hwy yn aml fel ymchwiliadau i wrthwynebiadau neu i wrando ar gynrychioliadau neu wrthwynebiadau. Fodd bynnag, dyletswydd yr Arolygydd yw ymchwilio i'r gorchymyn yng ngoleuni'r gwrthwynebiadau. Gall gwrthwynebwyr mewn ymchwiliad geisio dangos nad oes llawer o feddwl y tu ôl i'r cynigion. Os byddant yn gwneud hynny ac oni fydd rhesymau cryf dros fabwysiadu gweithdrefn wahanol, mae'n rhaid i'r awdurdod a baratôdd y gorchymyn esbonio ei gynigion a dweud pam y credir eu bod yn fuddiol. Mae hyn yn rhoi'r cefndir y gellir ystyried yn fanwl y gwrthwynebiadau amrywiol yn ei erbyn a'r sail y gellir ei defnyddio i wneud argymhelliad ar y gorchymyn yn gyffredinol.

2.4 Er y bydd ymchwiliadau yn cael eu cynnal o ganlyniad i wrthwynebiadau heb eu datrys, gall cwmpas yr ymchwiliad fod yn ehangach. Er enghraifft, yn achos ymchwiliadau i Orchmynion Prynu Gorfodol (gweler Cylchlythyr 06/2004 Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog am ragor o fanylion) mae'n ofynnol i Arolygwyr ymdrin â'r gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, yn ogystal â bodloni eu hunain hefyd:

  • bod achos cryf dros gaffael er lles y cyhoedd;
  • bod hyn yn cyfiawnhau ymyrryd â hawliau dynol y rhai sydd â diddordeb yn y tir dan sylw;
  • bod gan yr awdurdod caffael syniad clir o'r modd y mae'n bwriadu defnyddio'r tir y mae'n awyddus i'w gaffael;
  • bod yr awdurdod caffael yn gallu dangos bod yr holl adnoddau angenrheidiol i gynnal ei gynlluniau yn debygol o fod ar gael o fewn amserlen resymol;
  • bod y cynllun yn annhebygol o gael ei rwystro gan unrhyw ddiffyg wrth ei roi ar waith.

Mae Adran 248 y Ddeddf Priffyrdd yn cyfeirio at yr amgylchiadau cyfyngedig lle y gellir caffael tir pan nad oes angen y tir ar unwaith. Wrth ystyried faint o dir a gynhwysir yn y gorchymyn, dylai'r Arolygydd roi ystyriaeth briodol i arwynebedd y tir yn ogystal â'r ystâd neu'r diddordeb y bwriedir ei gymryd ynddo. Er enghraifft, gellir dadlau bod gorchymyn sy'n darparu ar gyfer caffael teitl y tir yn ormodol oherwydd y cyfan sydd ei angen yw creu hawl o dan Adran 250 y Ddeddf Priffyrdd ac i'r hawl honno gael ei chaffael o dan y gorchymyn prynu gorfodol.

Rheolau Gweithdrefn Ymchwiliadau

2.5 Mae'r holl ymchwiliadau sy'n ymwneud â gorchmynion a chynlluniau y bwriedir eu gwneud o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 yn ddarostyngedig i Reolau Gweithdrefn Ymchwiliadau. Rheolau presennol y weithdrefn o dan y Ddeddf hon yw:

  1. Rheolau Priffyrdd (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994 - Offeryn Statudol 1994 Rhif 3263 - sy'n berthnasol i ymchwiliadau sy'n ymwneud â gorchmynion naill ai:

    • y bwriedir eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru) neu
    • a wneir gan awdurdod priffyrdd lleol a'u cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w cadarnhau.
  2. Rheolau Prynu Gorfodol gan Weinidogion (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994 - Offeryn Statudol 1994 Rhif 3264 - sy'n berthnasol i orchmynion prynu gorfodol a gyhoeddir ar ffurf drafft gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf Priffyrdd.
  3. Rheolau Prynu Gorfodol gan Awdurdodau Caffael Anweinidogol (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1990 - Offeryn Statudol 1990 Rhif 512 - sy'n berthnasol i orchmynion prynu gorfodol a wneir gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Priffyrdd a'u cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w cadarnhau.

2.6 Mae pob ymchwiliad yn ddarostyngedig i reolau cyfiawnder naturiol ac mae'n rhaid eu cynnal yn agored, yn deg ac yn ddi-duedd; mae'r Rheolau Gweithdrefn Ymchwiliadau yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn. Dim ond i wrthwynebwyr o ddosbarthiadau penodol y mae'r rheolau'n rhoi hawl ddiamwys iddynt fod yn bresennol mewn ymchwiliad: cyrff statudol ac unigolion y mae cynnig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol fel rheol. Mae gan Arolygydd y pwer i wrthod gwrando ar unrhyw un nad oes ganddo safiad gwirioneddol ar y mater ac sy'n fwriadol yn ceisio oedi neu amharu ar y trafodion. Er hynny, mae'n bwysig i'r Arolygydd siarad ag unrhyw un sy'n awyddus i fod yn bresennol yn yr ymchwiliad sydd â rhywbeth perthnasol i'w ddweud nad yw'n ailadroddus neu'n llesteiriol. Mae'r rheolau'n darparu fframwaith i'r Arolygydd ei ddefnyddio i arfer disgresiwn sylweddol, ar ôl ystyried barn y partïon sy'n bresennol yn yr ymchwiliad.

2.7 Lle nad oes unrhyw reolau'n berthnasol i ymchwiliad penodol, dylai'r Arolygydd ddilyn Rheolau Priffyrdd (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994 fel rheol cyhyd ag y bo modd. Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd lle y trefnwyd ymchwiliad i wrando ar wrthwynebiadau a wnaed o fewn cyfnod adneuo ffurfiol a hysbysebwyd (a wnaed "yn briodol") a lle nad oes amser i wrando ar gynrychioliadau gan bobl na wnaethant gyflwyno eu gwrthwynebiadau o fewn cyfnod adneuo ffurfiol, dylai Arolygwyr ddilyn arweiniad paragraffau 7.6 a 7.7. Dylai'r Arolygydd egluro'r weithdrefn y dylid ei dilyn ar ddechrau'r ymchwiliad er mwyn i bawb wybod beth i'w ddisgwyl.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English