Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigRôl Aseswyr5.1 Pan ymddengys yn debygol y bydd tystiolaeth a gaiff ei rhoi mewn ymchwiliad o natur arbenigol y tu hwnt i brofiad arferol yr Arolygydd, mae'n bosibl y penodir un Aseswr neu fwy sy'n arbenigo yn y meysydd dan sylw i gynghori a chynorthwyo'r Arolygydd. Cyfrifoldeb pob Aseswr yw sicrhau bod yr holl ffeithiau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer dealltwriaeth gyflawn o'r materion sy'n cynnwys arbenigedd yr Aseswr yn dod i'r amlwg yn yr ymchwiliad, ac y rhoddir pa esboniad bynnag i'r Arolygydd sy'n ofynnol i'w alluogi i ddeall y mater yn gywir ac yn llawn. 5.2 Cyn i'r ymchwiliad agor, dylai'r Arolygydd ymgynghori â'r Aseswr a diffinio rôl a chyfraniadau'r Aseswr i'r gwaith o gynnal yr ymchwiliad, ac i adroddiad yr Arolygydd. Pan fydd yr Arolygydd yn agor yr ymchwiliad, dylid cyflwyno'r Aseswr ac esbonio ei rôl. Yr Arolygydd sy'n gyfrifol am yr ymchwiliad a dylai gadw rheolaeth drosto bob amser. Hyd yn oed pan fydd dadlau ynghylch materion arbenigol, dylai'r partïon amrywiol annerch yr Arolygydd. Pan fydd yr Aseswr yn awyddus i ofyn cwestiwn, gall yr Arolygydd ei ofyn ar ran yr Aseswr, ond pan fydd y pwnc yn hynod arbenigol neu gymhleth, mae'n bosibl i'r Aseswr, gyda chaniatâd yr Arolygydd, ofyn unrhyw gwestiwn angenrheidiol. Dylai'r Arolygydd gadw rheolaeth ar y trafodion bob amser tra bod yr Aseswr yn holi cwestiynau, a dylai fod yn bresennol drwy gydol yr ymchwiliad. 5.3 Tra bod yr Aseswr yn cynorthwyo'r Arolygydd i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad, ei gynnal a chyflwyno adroddiadau arno, disgwylir hefyd i'r Arolygydd lynu wrth yr egwyddorion sy'n cynnwys bod yn ddi-duedd, yn deg ac yn agored a dylai osgoi cyswllt anffurfiol ag unrhyw un o'r cyfranogwyr, naill ai yn y lle y cynhelir yr ymchwiliad neu mewn man arall. 5.4 Mae rhagor o gyngor ar rôl aseswyr ar
gael yn Atodiad E. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |