Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Yr Ymchwiliad

Rhaglennu

7.1 Ar gyfer yr ymchwiliadau mwy o faint, caiff Swyddog Rhaglen ei benodi a'u cyfrifoldeb hwy, o dan arweiniad yr Arolygydd, fydd llunio rhaglen dros dro ar gyfer yr ymchwiliad. Os trefnwyd cyfarfod cyn yr ymchwiliad, bydd y Swyddog Rhaglen fel rheol yn bresennol i gynorthwyo â threfniadau a dylid achub ar y cyfle i'w gyflwyno i'r sawl sy'n bresennol ac i esbonio ei rôl. Dylid dweud wrth y partïon mai eu cyfrifoldeb hwy yw cadw mewn cysylltiad â'r Swyddog Rhaglen ynglyn â rhaglen yr ymchwiliad.

7.2 Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, dylai'r Swyddog Rhaglen gynnal rhaglen dreigl fanylach o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos mewn ymgynghoriad â'r partïon dan sylw ac o dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Arolygydd. Efallai mai'r Swyddog Rhaglen fydd hefyd yn gyfrifol am gynnal llyfrgell o ddogfennau ymchwiliadau, gan oruchwylio'r gwaith o'u rhifo a'u cofnodi, a threfnu eu bod yn cael eu llungopïo a'u dosbarthu. Gweler Nodiadau Canllaw i Swyddogion Rhaglen ar gyfer Ymchwiliadau Lleol Cyhoeddus.

7.3 Fel rheol gyffredinol, dylid rhaglennu bod cyrff cyhoeddus sydd naill ai'n cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cynigion yn cael eu clywed cyn cefnogwyr neu wrthwynebwyr unigol, fel bod yr unigolion yn gwybod safbwynt pob corff cyhoeddus o ran y cynigion cyn iddynt (yr unigolion) gael eu galw i gyflwyno eu hachosion eu hunain.

7.4 Ni all y rhan fwyaf o'r partïon roi o'u hamser i fynychu ymchwiliad maith cyfan a bydd llawer ond yn mynychu yn ystod y broses o gyflwyno eu hachosion hwy ac achosion yr hyrwyddwr. Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ar Arolygydd i'w hysbysu, mae'n arfer da gofyn i'r Swyddog Rhaglen gysylltu â phartïon y mae tystiolaeth a fyddai fel arall yn cael ei rhoi yn eu habsenoldeb yn debygol o effeithio'n ddifrifol ar eu buddiannau. Dylid dangos y rhaglen ar hysbysfwrdd ymchwiliadau bob amser a dylai fod yn hygyrch i'r cyhoedd bob amser.

Gwrthwynebiadau na chafwyd hysbysiadau ohonynt ymlaen llaw

7.5 Fel rheol, trefnir i unrhyw un sy'n gwrthwynebu'r cynnig a fethodd â rhoi rhybudd o'u gwrthwynebiad o fewn y cyfnod statudol neu unrhyw un arall sy'n bresennol sy'n awyddus i wneud cynrychioliadau yn yr ymchwiliad, siarad ar ôl gwrando ar y gwrthwynebwyr statudol, ar yr amod bod ganddynt rywbeth perthnasol i'w ddweud nad yw'n rhy ailadroddus. Adolygir rhaglenni'n barhaus i ystyried newidiadau mewn amgylchiadau.

7.6 Fodd bynnag, mae rhai ymchwiliadau yn ymwneud yn benodol â gwrthwynebiadau a wnaed o fewn cyfnod adneuo ffurfiol a hysbysebwyd - hynny yw, gwrthwynebiadau a "wnaed yn briodol". Mewn achosion o'r fath, efallai na fydd modd gwrando ar gynrychioliadau gan bobl na chyflwynasant eu gwrthwynebiadau cyn dyddiad cau'r cyfnod adneuo ffurfiol. Mae Gorchmynion Diwygio Harbwr yn y categori hwn. Mewn ymchwiliadau o'r fath, ni ddylai'r Arolygydd ofyn a oes unrhyw un arall (ar wahân i'r bobl a restrwyd a gyflwynodd wrthwynebiadau " a wnaed yn briodol") yn awyddus i siarad yn yr ymchwiliad. Byddai gwneud hynny yn rhoi'r Arolygydd mewn perygl o gael ei ystyried fel pe bai'n anwybyddu'r weithdrefn a hysbysebwyd neu'n ei thanseilio.

7.7 Efallai y bydd gan rywun bwynt perthnasol ond na wnaethant ei gynnwys mewn gwrthwynebiad "a wnaed yn briodol". Os caiff hyrwyddwr y Gorchymyn ei gynrychioli yn yr ymchwiliad, yna mae'n bosibl y bydd yr Arolygydd yn gofyn i'r hyrwyddwr a hoffai i'r pwynt(iau) pellach gael ei drin (eu trin) fel rhai "a wnaed yn briodol". Os mai "na" yw'r ymateb, yna bydd yn rhaid i'r Arolygydd ymwrthod â'r cynrychioliadau hwyr, gan ddweud na all weithredu arnynt ymhellach. Os na chaiff hyrwyddwr y Gorchymyn ei gynrychioli yn yr ymchwiliad, gallai'r Arolygydd naill ai ddweud, er nad yw'r gwrthwynebiad wedi ei wneud "yn briodol" ac felly nid oes angen iddo gael ei ystyried, y bydd yn gwrando ar y pwynt(iau) ac yn eu nodi yn yr adroddiad ac i'r graddau y gall wneud hynny; neu ddweud er na all wrando ar wrthwynebiadau hwyr, y dylai'r person ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn nodi ei farn, gan wneud cais iddynt gael eu hystyried wrth ddod i benderfyniad ar y Gorchymyn.

7.8 Fodd bynnag, mae cymhlethdod yn codi yn achos Gorchmynion lluosog (e.e. gwrandawiad o Orchymyn Diwygio Harbwr ar y cyd â Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith) lle y mae'n briodol gwrando ar gynrychioliadau hwyr ar gyfer un ac nid y llall. Dylai'r Arolygydd ddefnyddio disgresiwn wrth wrando ar wrthwynebiadau hwyr a gofyn a yw'r pwynt yn fwy perthnasol i un Gorchymyn neu'r llall. Yna bydd yn fater i'w ddyfarnu ar y diwrnod o ran sut i barhau ac o hynny ymlaen sut i gwmpasu'r pwynt yn ei adroddiad.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English