Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau
i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig
Yr Ymchwiliad (parhad)
Yr Arolygydd
yn Cyrraedd yr Ymchwiliad
7.9 Ar ôl gwirio'r trefniadau
ffisegol (gweler 3.8 a 3.9
uchod), a gosod ei bapurau a'i fwrdd enw tua 30 munud cyn i'r ymchwiliad
agor, dylai'r Arolygydd adael y neuadd er mwyn lleihau'r posibilrwydd
y bydd un o'r partïon yn siarad ag ef yn absenoldeb pobl eraill.
Dylai'r Arolygydd ddychwelyd mewn da bryd (fel arfer 2-3 munud cyn i'r
ymchwiliad agor) i eistedd ac ymbaratoi, ac i ofyn i eraill yn y neuadd
gymryd eu seddi, cyn agor yr ymchwiliad yn brydlon ar yr amser penodedig.
Agor yr Ymchwiliad
7.10 Mae'r agoriad fel rheol
yn rhoi'r cyfle cyntaf, a fwy na thebyg, y cyfle gorau, i'r Arolygydd
osod cywair a chyflymder yr ymchwiliad. Dylid paratoi'r cyhoeddiad agoriadol
yn ofalus a'i deilwra i fod yn addas i brofiad a disgwyliadau'r prif bartïon
a'r cyhoedd fel ei gilydd. Dylai'r Arolygydd fod yn gadarn, yn fywiog
ac yn awdurdodol wrth gyflwyno a dylai anelu at ennyn hyder yn y trafodion,
yn arbennig ymhlith y rhai sy'n anghyfarwydd ag ymchwiliadau ac sy'n ofni'r
cynnig a gaiff ei ystyried.
7.11 Dylai cyhoeddiad agoriadol
yr Arolygydd sydd wedi'i deilwra i'r amgylchiadau gynnwys yr elfennau
sylfaenol canlynol, ac ymhelaethu arnynt os bydd angen:
- Enw a chymwysterau'r Arolygydd ac unrhyw Arolygydd Cynorthwyol a/neu
Aseswr (gweler Atodiadau Dd
a E).
- Cyfeiriad at deitl y cynllun a/neu'r gorchymyn y mae'r ymchwiliad
yn ymwneud â hwy.
- Bod yr Arolygydd wedi'i benodi i gynnal yr ymchwiliad gan y Prif
Ysgrifennydd Gwladol a/neu'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu ba Ysgrifennydd Gwladol bynnag a
restrir ar benodiad yr Arolygydd i wrando'r achos.
- Dylid nodi'r sawl sy'n awyddus i ymddangos yn yr ymchwiliad (gweler
7.12 isod)
- Bod yr ymchwiliad yn angenrheidiol oherwydd y derbyniwyd gwrthwynebiadau
i'r cynllun a/neu'r gorchymyn ac ni chawsant eu tynnu yn ôl.
- Bydd yr Arolygydd yn gwrando ar bob gwrthwynebiad a chynrychioliad
perthnasol o fewn ei ddisgresiwn (gweler
2.6 uchod).
- Bydd yr Arolygydd yn cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad
Cenedlaethol Cymru adroddiad ar hanfod y dystiolaeth a'r cyflwyniadau
a glywyd yn yr ymchwiliad, a'r cynrychioliadau ysgrifenedig a dderbyniwyd,
ynghyd â'i gasgliadau a'i argymhellion.
- Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried
adroddiad yr Arolygydd ynghyd â'r gwrthwynebiadau ysgrifenedig
a dderbyniwyd ac yna bydd yn cyhoeddi penderfyniad ar y mater sy'n destun
yr ymchwiliad.
- Ni all yr Arolygydd benderfynu ar bwyntiau cyfreithiol ond gall gynnwys
yn yr adroddiad hanfod unrhyw gyflwyniadau cyfreithiol a wneir.
- Nid yw polisïau'r Llywodraeth, a methodolegau, safonau dylunio,
tybiaethau economaidd a rhagolygon twf traffig a fabwysiadwyd gan y
Llywodraeth yn faterion y bydd pobl yn dadlau yn eu cylch yn yr ymchwiliad,
ond efallai bod eu cymhwyso i'r cynigion yn berthnasol (gweler 6.2-6.7
uchod).
- Na all yr Arolygydd ymdrin â'r gwaith o asesu iawndal a ddaw
yn fater i'w drafod rhwng partïon neu, os na ellir dod i gytundeb,
i'w bennu gan y Tribiwnlys Tir - os cadarnheir y cynllun a/neu'r gorchymyn
yn y pen draw.
- Amlinelliad o'r weithdrefn i'w mabwysiadu (gweler Atodiadau D ac E),
gan gyfeirio at unrhyw faterion gweithdrefnol y cytunwyd arnynt yn y
cyfarfod cyn yr ymchwiliad (gweler 7.31 isod). Yn ogystal, amlinelliad
o'r system rifo sydd i'w mabwysiadu ar gyfer dogfennau'r ymchwiliad
(gweler Atodiad K).
- Datganiad i'r perwyl bod yr Arolygydd eisoes wedi archwilio'r safle
a/neu lwybr y cynnig ar ei ben ei hun (i'r graddau y gallai wneud hynny
heb fentro ar dir preifat), ac os bydd o'r farn bod angen hynny neu
os bydd unrhyw barti i'r ymchwiliad yn gwneud cais am hynny, y bydd
yn archwilio'r safle neu'r llwybr yn ystod yr ymchwiliad neu ar ddiwedd
yr ymchwiliad, yng nghwmni cynrychiolwyr yr hyrwyddwyr, y gwrthwynebwyr
a/neu bartïon eraill â diddordeb.
- Cais i'r hyrwyddwyr eu bod yn sicrhau bod yr holl gynlluniau perthnasol
wedi'u harddangos yn gyhoeddus a'u bod yn cadw llyfrgell yn ystod yr
ymchwiliad lle y bydd o leiaf un copi o bob dogfen ymchwiliad berthnasol
(gan gynnwys pob prawf o dystiolaeth, datganiad ysgrifenedig a llythyr
a dderbyniwyd) ar gael i'r cyhoedd graffu arnynt. (Ar gyfer ymchwiliadau
mwy o faint, bydd y trefniadau hyn wedi cael eu gwneud yn y cyfarfod
cyn yr ymchwiliad lle y bydd y Swyddog Rhaglen neu lyfrgellydd wedi'i
benodi i fod yn gyfrifol am gadw llyfrgell yr ymchwiliad).
- Esboniad o rôl y Swyddog Rhaglen, yr Arolygydd Cynorthwyol
a'r Aseswr, os penodwyd unrhyw rai, a nodyn yn atgoffa mai'r partïon
sy'n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â'r Swyddog Rhaglen.
- Cyfeiriad at y cyfarfod (neu'r cyfarfodydd) cyn yr ymchwiliad os cynhaliwyd
un.
- Y sefyllfa o ran ceisiadau am gostau yn yr ymchwiliadau hynny y mae'n
briodol gwneud cyhoeddiad - gweler paragraffau 7.140-7.141 isod.
- Cais i'r awdurdod hyrwyddo gadarnhau y cydymffurfiwyd â'r holl
drefniadau statudol priodol.
- Cais i bawb sy'n bresennol lofnodi'r gofrestr bresenoldeb ar bob
diwrnod y byddant yn bresennol (gweler 7.155 isod).
- Manylion unrhyw faterion domestig megis seibiannau yn y bore a'r
prynhawn, cinio, amseroedd eistedd ac unrhyw gyhoeddiadau iechyd a diogelwch.
7.12 Yn gynnar yn y trafodion,
dylai'r Arolygydd wneud nodyn o'r sawl sy'n awyddus i ymddangos (h.y.
Gwneud Ymddangosiad ). Os bydd nifer fawr yn awyddus i wneud
hynny, dylai'r Arolygydd wneud nodyn o'r prif bartïon a gwahodd y
gweddill i roi eu henwau, eu cyfeiriadau a'u rhifau ffôn gydag arwydd
o'u diddordeb, i'r Swyddog Rhaglen a nodi y cânt eu cyflwyno i'r
ymchwiliad pan fyddant yn ymddangos.
7.13 Fel rheol, cynhelir sesiynau rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener. Yr
amseroedd eistedd arferol yw 10.00 i 1.00 a 2.00 i 5.00, gyda seibiannau
byr (10-15 munud) ganol y bore a chanol y prynhawn, fel y bo'n briodol
ac yn gyfleus. Efallai y bydd yn angenrheidiol gorffen yn gynharach ar
ddydd Gwener (2.00) i alluogi cyfranogwyr i deithio; os felly, mae'n bosibl
y bydd sesiwn fore hwy yn briodol, gan ddechrau ychydig yn gynharach efallai
(9.30) heb seibiant cinio, ond gyda seibiant ychydig yn hwy ganol bore
(20-30 munud). Gellir amrywio'r amseroedd hyn wrth gwrs yn ôl disgresiwn
yr Arolygydd, gan ystyried amgylchiadau'r ymchwiliad ac argaeledd y cyfranogwyr.
Fodd bynnag, gall sesiynau maith iawn fod yn flinedig i bawb dan sylw,
gan arwain at flinder a'r anallu i ganolbwyntio ar ran yr Arolygydd. Am
resymau tebyg, mae'n arferol rhaglennu ymchwiliadau maith fel bod seibiannau
o wythnos yn digwydd ar ôl eistedd am 3 i 4 wythnos.
|
Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau
i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy
|