Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Yr Ymchwiliad (parhad)

Cynnal Ymchwiliadau yng Nghymru

7.14 Nododd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 y dylid trin yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Wrth roi ystyriaeth haeddiannol i'r egwyddor hon wrth gynnal ymchwiliadau yng Nghymru, dylai Arolygwyr egluro yn eu datganiad agoriadol bod croeso i'r cyhoedd siarad Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

7.15 Fel rheol, bydd yr awdurdodau perthnasol yn hysbysu Arolygwyr lle mai'r Gymraeg fydd y brif iaith a siaredir, a bydd naill ai Arolygydd Cymraeg yn cael ei benodi neu gyfleusterau cyfieithu yn cael eu darparu. Fodd bynnag, dylid cymhwyso ysbryd Deddf yr Iaith Gymraeg i bob ymchwiliad yng Nghymru, waeth pa iaith a ddefnyddir. Mae datganiad byr i'r perwyl hwnnw felly yn angenrheidiol cyn pob ymchwiliad a gynhelir yng Nghymru. Dylid geirio'r cyhoeddiad fel a ganlyn:

"Er y caiff yr ymchwiliad ei gynnal yn Saesneg, mae gan gyfranogwyr yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg os dymunant wneud hynny. Byddai'n ddefnyddiol i unrhyw gyfranogwyr sy'n dymuno siarad Cymraeg nodi'r bwriad hwnnw".

Absenoldeb Gwrthwynebwyr neu Bartïon Eraill

7.16 Ar wahân i'r hyrwyddwyr, y mae'n rhaid iddynt wrth gwrs fynychu i ddisgrifio eu cynigion ac esbonio eu diben, nid yw'n angenrheidiol i unrhyw barti penodol ymddangos yn yr ymchwiliad er mwyn mynegi eu barn oherwydd caiff pob gwrthwynebiad ysgrifenedig, a chynrychioliadau eraill eu hystyried gydag adroddiad yr Arolygydd i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid yw methiant rhai gwrthwynebwyr a/neu bartïon eraill i ymddangos yn yr ymchwiliad felly yn rheswm dros beidio â pharhau â'r ymchwiliad.

7.17 Mewn achosion prin lle mai dim ond un gwrthwynebwr sydd, nad yw'n ymddangos nac wedi'i gynrychioli yn yr ymchwiliad, dylai'r Arolygydd ohirio'r ymchwiliad ar unwaith am ddigon o amser i alluogi pobl i holi hynt y gwrthwynebwr. Dylid cyfarwyddo'r Swyddog Rhaglen neu gynrychiolydd yr hyrwyddwyr i ddarganfod, yn y ffordd gyflymaf posibl, p'un a yw'r gwrthwynebydd yn bwriadu ymddangos, neu gael ei gynrychioli. Os felly, dylid gwneud trefniadau i aros i'r gwrthwynebwr gyrraedd ac yna i barhau â'r ymchwiliad yn y dull arferol. Os na fydd yn bwriadu ymddangos neu gael ei gynrychioli, dylid gwahodd yr hyrwyddwyr i ddatgan eu hachos ac i ateb y gwrthwynebiad ysgrifenedig. Dylai unrhyw bobl eraill sy'n bresennol sy'n dymuno cael eu clywed, gael eu clywed yn yr ymchwiliad ac yna dylid cau'r ymchwiliad.

7.18  Yn achos Gorchymyn Prynu Gorfodol neu ymchwiliad tebyg lle y dywedir wrth yr Arolygydd bod yr unig wrthwynebiad sydd heb ei ddatrys wedi cael ei dynnu'n ôl, dylid parhau i agor yr ymchwiliad yn y dull arferol, o gofio bod yr ymchwiliad yn ymwneud â'r gorchymyn ei hun ac nid â'r gwrthwynebiad yn unig.

Diffyg Cefnogaeth Weithredol i Orchymyn gan yr Awdurdod sy'n Gwneud y Gorchymyn

7.19 Mae hyn yn digwydd weithiau lle y cynigir gorchymyn cau gan yr Ysgrifennydd Gwladol, er enghraifft o dan a247 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer cynnig datblygu. Efallai na fydd yr awdurdod lleol (cynllunio neu briffyrdd) yn uniongyrchol gysylltiedig, gan adael yr ymgeisydd ar gyfer y gorchymyn i gyflwyno'r achos ac i ymdrin â'r gwrthwynebwyr sy'n ymddangos.

7.20 Nid oes unrhyw reolau gweithdrefn ymchwiliadau ar gyfer yr achosion hyn ac felly dim gofyniad i gyfranogwyr (hyrwyddwyr/ymgeisydd/cefnogwr neu wrthwynebwyr) gynhyrchu datganiadau neu dystiolaeth ymlaen llaw. Efallai y bydd yn amlwg o ffeil yr achos p'un a fydd yr awdurdod lleol yn ymddangos, ond efallai na fydd hyn yn amlwg. Ni ddylai'r Arolygydd gael ei synnu gan ddiffyg presenoldeb yr awdurdod yn y math hwn o ymchwiliad, ac ni ddylai ychwaith gael ei synnu os na chaiff yr ymgeisydd ar gyfer y gorchymyn ei gynrychioli gan gyfreithiwr, na'i gynrychioli gan berson proffesiynol sy'n anghyfarwydd â diben ymchwiliad neu'r weithdrefn. Fel cam diogelu, mae angen i'r Arolygydd baratoi hyd yn oed yn fwy trylwyr.

Yr Ymchwiliad

7.21 Yr ymgeisydd/hyrwyddwr sy'n gyfrifol am gyfiawnhau cynnig y gorchymyn. Lle na fydd yr awdurdod lleol yn bresennol dylid annog yr ymgeisydd (neu'r cefnogwr) i gymryd yr awenau a chyflwyno'r achos ar gyfer gorchymyn sydd i gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Efallai y bydd angen i'r Arolygydd dywys yr ymgeisydd drwy'r materion gweithdrefnol. Dylid rhoi cyfle i wrthwynebwyr gwestiynu tystiolaeth sy'n groes i'w hachos, ac i'r gwrthwyneb.

7.22 Lle y bydd yr awdurdod lleol yn ymddangos mewn enw yn unig neu'n niwtral, dylid gwahodd yr awdurdod i wneud datganiad agoriadol yn esbonio ei rôl cyn achos yr ymgeisydd. Lle nad oes unrhyw gyfranogiad pellach gan yr awdurdod ni ddylid caniatáu datganiad i gloi gan na roddwyd tystiolaeth. Os oes tystiolaeth y mae'r awdurdod yn awyddus i'w gwrth-ddweud neu'i gwrthbrofi, dylai'r awdurdod gael caniatâd i wneud hynny ac i wneud datganiad i gloi, gan gofio bod gan yr ymgeisydd hawl derfynol i ateb.

7.23 Mewn achos annhebygol iawn lle y gwrthwynebir gorchymyn cau gan yr awdurdod lleol (e.e. priffyrdd), ymdrinnir â'r awdurdod fel prif wrthwynebwr, fel rheol, a rhoddir blaenoriaeth iddo yn nhrefn ymddangos y gwrthwynebwyr. Lle y gwneir cyflwyniad cau gan awdurdod o'r fath, bydd hyn yn rhagflaenu cyflwyniad cyfatebol yr hyrwyddwr.

7.24 Unwaith eto, mewn achos annhebygol iawn lle nad yw'r ymgeisydd, y cefnogwr na'r gwrthwynebwr yn awyddus i roi tystiolaeth, dylai'r Arolygydd grynhoi ei achos fel y cyflwynwyd yn ysgrifenedig (h.y. ar ffeil yr achos), egluro bod y crynodeb yn foddhaol a gwahodd cwestiynau o'r ochr arall. Yna, efallai y bydd angen i'r Arolygydd ofyn cwestiynau i gael eglurhad gan yr ymgeisydd a'r gwrthwynebwyr. Byddai datganiad i gloi gan y "cyfranogwyr perthnasol" yn briodol.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English