Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigYr Ymchwiliad (parhad)Cyflwyniadau Cyfreithiol7.25 Dim ond y Llysoedd all ddehongli'r gyfraith yn awdurdodol. Dylid cofnodi cyflwyniadau cyfreithiol a wnaed yn yr ymchwiliad yn adroddiad yr Arolygydd. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi barn ar berthnasedd y cyflwyniad cyfreithiol o ran sut y mae'n berthnasol i'r gorchymyn wrth ddod i benderfyniad arno, ond dylai'r Arolygydd fynd i'r afael â'r mater hwn yn ei gasgliadau. 7.26 Caiff cyflwyniadau sy'n herio cyfreithlondeb yr ymchwiliad neu ddilysrwydd y cynllun a/neu'r gorchymyn eu gwneud weithiau mewn ymchwiliadau. Nid yw materion o'r fath fel rheol yn faterion i'r Arolygydd eu datrys ac felly dylai sicrhau mai dim ond gwrando ar y dadleuon a gyflwynir a wna (ac yn y pen draw gyflwyno adroddiadau arnynt). Dylai'r ymchwiliad fynd yn ei flaen oni fydd cyflwyniadau o'r fath, wrth gwrs, yn peri i'r hyrwyddwyr dynnu eu cynnig yn ôl neu'n peri iddynt wneud cais am ohiriad er mwyn ymdrin â'r mater a godwyd. Yn achos yr olaf o'r rhain, bydd yn ofynnol i'r Arolygydd ystyried a dyfarnu ar y cais (gweler 7.32 isod). Dylid dweud wrth unrhyw un nad yw'n fodlon derbyn mai'r camau gweithredu hyn ar ran yr Arolygydd yw'r unig beth y gellir eu gwneud, bod croeso iddynt ymgynghori â'u hymgynghorwyr eu hunain o ran a oes unrhyw ddatrysiad ar gael. Fodd bynnag, os bydd pob parti'n cytuno bod y Gorchymyn wedi'i gyhoeddi'n amhriodol, ni fyddai'n synhwyrol parhau â'r ymchwiliad. Os felly, dylid cau'r ymchwiliad a dylid gwneud cyflwyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn esbonio'r amgylchiadau ac yn rhoi'r rhesymau pam na ellir gwneud cynnydd pellach ar y Gorchymyn. 7.27 Lle bynnag y cyflwynir dadleuon cyfreithiol, yn aml, bydd yn ddefnyddiol cael y rhain yn ysgrifenedig, er efallai nad yw hyn yn ddichonadwy mewn ymchwiliad byr. Mae cyflwyniadau cyfreithiol ysgrifenedig, yn arbennig rhai hir, yn ddiamau yn arbed amser ymchwiliadau ac yn helpu i leihau'r posibilrwydd o wallau wrth eu cofnodi. Dylai unrhyw ddogfennaeth o'r fath gael eu hatodi i adroddiad yr Arolygydd. 7.28 Efallai y bydd argymhelliad gan Arolygydd mewn ymchwiliad, a phenderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl ymchwiliad, yn destun adolygiad barnwrol. Caiff ceisiadau am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol eu gwneud ar ran un ochr yn unig ( ex parte). Gall unrhyw un y mae ei benderfyniad yn destun cwyn, gael ei gynrychioli a'i glywed yng ngwrandawiad y cais. Os rhoddir caniatâd, bydd gan y person y mae amheuaeth ynghylch ei benderfyniad hawl i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad. 7.29 Yn ogystal ag adolygiad barnwrol, ceir hawl statudol i herio'r uchel lys ar y gorchmynion a wnaed. Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf Priffyrdd, Atodlen 2, Paragraffau 2 a 3 ar gyfer gorchmynion a wnaed o dan y Ddeddf honno, ac yn Neddf Caffael Tir, Adrannau 23 a 24 ar gyfer Gorchmynion Prynu Gorfodol ac yn Neddf Llwybrau Beicio, adrannau 3(6) a (7). Mae'r ddwy gyfres o ddarpariaethau'n awdurdodi'r Uchel Lys i ddileu gorchymyn os caiff ei wneud y tu hwnt i bwerau'r Ddeddf alluogi neu os bydd yr ymgeisydd o dan anfantais oherwydd annhegwch gweithdrefnol. Ni ddylai Arolygydd gynnig sylwadau ar argaeledd y prosesau hyn, ond mae'n rhaid iddo adael i bobl gymryd pa gamau bynnag y byddant am eu cymryd. Cyflwyniadau Gweithdrefnol7.30 Mae cyflwyniadau sy'n ymwneud â'r weithdrefn sydd i'w mabwysiadu mewn ymchwiliad yn faterion i'r Arolygydd eu hystyried ac fel arfer, cânt eu gwneud ar ddiwrnod agoriadol yr ymchwiliad (neu mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad os cynhaliwyd un), er y gallant godi ar unrhyw gam yn ystod y trafodion. Dylid gwrando ar farn pawb dan sylw cyn datrys materion. Efallai y bydd yr Arolygydd yn credu y bydd yn ddefnyddiol gohirio am gyfnod byr i ystyried ei ateb, neu i oedi cyn ateb tan ryw ddyddiad penodol yn y dyfodol, er mwyn cael amser digonol i roi ystyriaeth haeddiannol i'r mater heb oedi'r ymchwiliad. Wrth wneud ei benderfyniad, efallai y bydd yr Arolygydd yn arfer ei ddisgresiwn o ran y weithdrefn i'w mabwysiadu, ac eithrio lle y bydd Rheolau Gweithdrefn Ymchwiliadau'n gwneud darpariaeth benodol yn hyn o beth. Fel arall, yr Arolygydd yn unig sy'n rheoli'r ymchwiliad ac yn gwneud yr holl ddyfarniadau. 7.31 Gellir datrys materion gweithdrefnol mewn ymchwiliad neu mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad drwy wneud dyfarniad ffurfiol ond dylid gwneud pob ymdrech i geisio dod i gytundeb yn gyntaf. Os codwyd materion gweithdrefnol yn y cyfarfod cyn ymchwiliad, cynghorir yr Arolygydd i grybwyll unrhyw bwyntiau gweithdrefnol ar agoriad yr ymchwiliad, er mwyn rhoi cyfle i unrhyw un nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad wneud sylwadau. Heb eu cytundeb, ni fyddent wedi'u rhwymo gan benderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad (gweler Atodiad C, paragraff 7). Ceisiadau i Ohirio7.32 Dylid gwrthod ceisiadau i ohirio ymchwiliadau fel rheol oni fydd rhesymau cryf dros eu caniatáu. Mae gohiriadau'n arwain at anghyfleustra a gallant fod yn gostus - i nifer fawr o bobl yn aml. Os na ellir osgoi gohirio, dylid cyhoeddi hyn cyn gynted â phosibl. Cyn i'r gohiriad ddechrau, mae'n rhaid cyhoeddi amser, dyddiad a lleoliad ailddechrau'r ymchwiliad. Dylid hysbysu'r Arolygiaeth Gynllunio o unrhyw ohiriad sy'n parhau am fwy na diwrnod. 7.33 Yn ystod achosion y Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith, efallai y bydd Arolygwyr yn awyddus i ddefnyddio gohiriadau er mwyn caniatáu amser i drafodaethau ddod i ben. Efallai na fydd hyn o reidrwydd yn arwain at wrthwynebiad yn cael ei dynnu'n ôl, ond gall arwain at sefyllfa derfynol y gellir ei chyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol a gall ddarparu gwybodaeth ar gyfer argymhelliad yr Arolygydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ohiriadau gael eu rheoli'n gywir, ac os daw'n amlwg bod trafodaethau wedi cael eu gohirio, dylai Arolygwyr bennu terfyn amser ar gyfer cwblhau pob trafodaeth/gwybodaeth, gyda'r dyfarniad y bydd yr Arolygydd yn seilio ei adroddiad a'i argymhellion ar y sefyllfa fel y bydd ar y dyddiad hwnnw. 7.34 Ni ddylid ystyried gohirio heb bennu dyddiad ar gyfer ailddechrau ( sine die) ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Hyd yn oed os oes amheuaeth o ran p'un a fydd yn rhaid i'r ymchwiliad barhau ar ôl y gohiriad, dylid pennu dyddiad. Mewn achos prin na ellir ei osgoi lle nad yw'n bosibl cyhoeddi amser, dyddiad a'r lleoliad ar gyfer ailddechrau ymchwiliad, dylai'r Arolygydd gyhoeddi'r modd y dylai'r partïon a'r bobl eraill sy'n bresennol yn yr ymchwiliad gael eu hysbysu pan gaiff y trefniadau ar gyfer ailddechrau eu cwblhau. Er enghraifft, gyda chytundeb yr awdurdod hyrwyddo, efallai y bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi y bydd yn ysgrifennu at bawb sydd wedi ymddangos yn yr ymchwiliad neu sydd wedi cyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig ac unrhyw un arall sy'n bresennol sy'n rhoi eu cyfeiriad i'r Swyddog Rhaglen.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |