Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigYr Ymchwiliad (parhad)Sesiynau gyda'r Nos7.35 Dylid cynnal ymchwiliadau cyhoeddus fel rheol yn ystod sesiynau bore a phrynhawn yn yr un modd â'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd cyhoeddus eraill. Gall sesiynau achlysurol gyda'r nos at ddiben penodol fod yn ddefnyddiol ond dylid eu hystyried fel eithriadau. Er bod gan wrthwynebwyr statudol yr hawl i ymddangos mewn ymchwiliad, mae hyd yn oed yn ofynnol iddynt hwy ddangos yr angen am sesiwn gyda'r nos cyn y rhoddir caniatâd i gynnal un i wrando ar eu hachos. Hyd yn oed os cynhelir sesiwn gyda'r nos, dylai fod tua diwedd yr ymchwiliad lle na fydd unrhyw gyfle arall i wrando ar wrthwynebiad. Dylai'r Swyddog Rhaglen gasglu rhestr o'r rhai sy'n awyddus i siarad ynghyd ag amlinelliad bras o'r pwyntiau y maent yn dymuno'u codi. Byddai sesiwn gyda'r nos yn cael ei chynnal yn lle, ond nid yn ogystal ag un o'r sesiynau cynharach yn ystod y dydd. Gwrthwynebiadau a Dynnwyd yn Ôl, Gwrthwynebiadau a Dynnwyd yn Ôl yn Amodol a Gwrthwrthwynebiadau7.36 Nid gwaith yr Arolygydd yw cynnwys gwybodaeth yn ei adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ymylol neu'n amherthnasol i'r materion yr anghytunir yn eu cylch. Er enghraifft, os tynnir gwrthwynebiad yn ôl cyn i ymchwiliad agor neu yn ystod yr ymchwiliad, yna byddai cyflwyno adroddiad o'r ffaith iddo gael ei dynnu'n ôl yn ddigonol. Fel rheol, ni ddylid caniatáu i'r partïon brocio neu holi ymhellach, ac ni ddylai'r Arolygydd ychwaith geisio ailgyflwyno materion a gwmpaswyd yn y gwrthwynebiadau a dynnwyd yn ôl. Fodd bynnag, efallai y bydd eithriadau i'r rheol gyffredinol hon yn briodol lle yr oedd y gwrthwynebiad a dynnwyd yn ôl yn sôn am faterion sy'n ganolog i ystyriaeth o'r cynllun, neu'n codi mater o bwysigrwydd cenedlaethol, ond lle y teimlai'r gwrthwynebwr na allai fwrw ymlaen â'r gwrthwynebiadau oherwydd nad oedd ar gael neu nad oedd yn fodlon ymddangos yn yr ymchwiliad. Cyfeiriwch at baragraffau 7.87 a 7.88 am ganllawiau ar gyflwyno tystiolaeth newydd. 7.37 Gall cyfranogwyr gyhoeddi yn yr ymchwiliad y byddent yn fodlon tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl pe câi darpariaethau penodol eu gwneud ar ffurf Cytundeb Gwaith (er enghraifft). Mae'n bosibl y bydd yr Arolygydd yn cytuno â hyn ac yn argymell y dylid cadarnhau'r Gorchmynion. Fodd bynnag, os na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl yn ffurfiol gallai hyn achosi problem i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r anhawster yn deillio o'r ffaith, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn awyddus i gadarnhau Gorchymyn, a bod gwrthwynebiad heb ei ddatrys gan ymgymerwr statudol, efallai y bydd y Gorchymyn yn ddarostyngedig i Weithdrefn Seneddol Arbennig, gan arwain at ganlyniadau cymhleth a llafurus. Mae'n bwysig felly bod Arolygwyr yn cael yr holl wybodaeth bosibl am wrthwynebiadau o'r fath. Gallai hyn, mewn amgylchiadau eithriadol, gyfiawnhau gohirio'r ymchwiliad am gyfnod byr tra cysylltir â'r ymgymerwr statudol, er mwyn ceisio cael esboniad llawn o'r gwrthwynebiad a'i ganlyniadau. Os bydd y sefyllfa hon yn codi yn ystod achosion y Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith, dylai Arolygwyr ddilyn y cyngor a ddarperir yn 7.33 uchod. 7.38 P'un a gaiff y mater ei ddatrys yn yr ymchwiliad ai peidio, mae'n rhaid i'r Arolygydd ymdrin yn derfynol â'r holl wrthwynebiadau oni bai fod y gwrthwynebydd wedi rhoi datganiad ysgrifenedig yn tynnu'r gwrthwynebiad yn ôl yn ddiamod. Ni ddylid ystyried bod gwrthwynebiadau wedi cael eu tynnu'n ôl o hyd nes bydd yr arolygydd yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig. Ni ddylai'r argymhelliad yn adroddiad yr arolygydd fod yn seiliedig ar y dybiaeth y caiff unrhyw wrthwynebiad ei dynnu'n ôl. Mae'n rhaid i sylwedd pob gwrthwynebiad sydd heb ei ddatrys gael ei gwmpasu'n eglur yn adroddiad a chasgliadau'r Arolygydd. 7.39 Os oes gwrthwynebiad 'daliannol' neu 'dechnegol' gan ymgymerwr statudol, a hynny ar ôl ymchwilio, dylai adroddiad yr Arolygydd nodi'n glir faint o bwys y dylid ei roi i'r gwrthwynebiad a pham, gan egluro p'un a yw'r tir dan sylw yn allweddol i'r cynllun. Gall yr adroddiad ystyried y casgliad hwn wedyn yn yr argymhelliad terfynol. 7.40 Efallai fod gwrthwrthwynebwyr hefyd a fyddai, er eu bod yn cefnogi' r cynllun a gynigiwyd yn wreiddiol, yn gwrthwynebu'r darpariaethau a nodir mewn unrhyw gytundeb neu addasiad arfaethedig a fyddai'n bodloni'r gwrthwynebwr gwreiddiol. Efallai y bydd yn anodd casglu gwybodaeth ar y pwynt hwn, yn arbennig lle y bydd yr awgrym i gael cytundeb neu addasiad ond yn codi yn ystod yr ymchwiliad, ac efallai na fydd y rhai sy'n cefnogi'r cynllun yn ymwybodol o 'r goblygiadau posibl os na fyddant yn bresennol. Fodd bynnag, dylai'r Arolygydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, sicrhau na fyddai buddiannau unrhyw un yn cael eu peryglu gan unrhyw gytundeb neu addasiad arfaethedig. Os oes gwrthdaro posibl o ran buddiannau, dylid ystyried hyn yn adran gasgliadau'r adroddiad a thynnu sylw'r Ysgrifennydd Gwladol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru ato. Gweler hefyd baragraffau 7.64-7.65 isod.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |