Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Yr Ymchwiliad (parhad)

Deddf Hawliau Dynol

7.41 Mae Adran 6(1) Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i berson sy'n gwneud penderfyniadau weithredu mewn ffordd sy'n groes i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Hynny yw, dylai'r sawl sy'n gwneud penderfyniad ystyried effaith bosibl cynllun ar hawliau dynol unigolion sy'n debygol o fod yn gysylltiedig ag ef. Felly, mae'n rhaid i'r Arolygydd nodi unrhyw ymyriadau â hawliau dynol fel cyflwyniadau cyfreithiol (gweler paragraffau 7.25-29 uchod) a chyflwyno adroddiadau am y rhain i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ddyletswydd ar yr Arolygydd hefyd i godi materion sy'n ymwneud â hawliau dynol os nad yw'r cyfranogwyr yn yr ymchwiliad wedi tynnu ei sylw atynt os cred fod risg wirioneddol o ymyrryd â hawliau dynol. Dylid cofio efallai nad yw dioddefwyr posibl yn uniongyrchol gysylltiedig â'r ymchwiliad, neu hyn yn oed yn cymryd rhan fel partïon â diddordeb, gan nad ydynt o bosibl wedi dangos diddordeb neu efallai nad ydynt yn ymwybodol o'r effeithiau posibl.

7.42 Gellir codi hawliau'r Confensiwn, a nodir yn Atodlen 1 y Ddeddf Hawliau Dynol, mewn 2 gyd-destun. Yn gyntaf, gellir eu galw i rym mewn cysylltiad ag achos. Dwy hawl y Confensiwn sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol yw erthygl 8 (Hawl i barch tuag at fywyd preifat a theuluol) ac erthygl 1 y Protocol Cyntaf (Diogelu eiddo). Mae'n rhaid i bobl sy'n galw eu hawliau dynol i rym nodi o dan ba erthygl y byddai'r ymyriad honedig yn berthnasol iddi a dangos eu bod yn pasio'r prawf dioddefwyr (h.y. yr effeithid arnynt o ddifrif ac yn uniongyrchol). Mae cyfraith achos Llys Hawliau Dynol Ewrop yn awgrymu mai dim ond mewn achosion lle mae'r ymyrraeth yn eithafol y bydd y llysoedd yn dyfarnu yr ymyrrwyd â hawliau dynol.

7.43 Yr ail gyd-destun y gellid galw hawliau'r Confensiwn i rym yw yn y weithdrefn ymchwiliadau. Mae erthygl 6 yn nodi ar gyfer gwrandawiad teg:

6(1) "In the determination of his civil rights and obligations.....everyone is entitled to a fair and public hearing within a reasonable time by an independent and impartial tribunal established by law......"

7.44 Mae'r hawliau canlynol a ddaeth o erthygl 6 gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn fwy tebygol o gael eu codi mewn perthynas â'r gwaith o gynnal y trafodion. Maent yn cwmpasu sefyllfaoedd y mae'r Arolygydd yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt yn ogystal â diffygion posibl yn y camau gweithdrefnol blaenorol, y gallai er hynny fod yn bosibl i'r Arolygydd wneud iawn amdanynt:

(1) yr hawl i gael mynediad i drafodion yr apêl gan gynnwys yr hawl i gael mynediad effeithiol ; ni ddylid gosod rhwystrau sy'n anodd neu'n amhosibl i'w goresgyn. Gallai fod achlysuron lle yr ymyrrwyd â hawliau partïon (gan gynnwys trydydd partïon) o dan erthygl 6 gan derfynau amser a oedd o dan yr amgylchiadau yn afresymol; neu gan leoliad anaddas gan ei gwneud yn anodd iawn i barti fynychu.

(2) yr egwyddor o " gynrychiolaeth gyfartal" er mwyn i bob parti gael cyfle rhesymol i gyflwyno ei achos i'r llys o dan amodau nad ydynt yn ei roi o dan anfantais sylweddol o gymharu â'i wrthwynebydd. Byddai enghreifftiau o dorri'r egwyddor hon yn driniaeth wahanol o ran hawl i weld dogfennau neu ganiatâd i groesholi.

(3) yr hawl i gael gwrandawiad o fewn amser rhesymol gan gynnwys yr hawl i gael penderfyniad o fewn amser rhesymol. Gall "rhesymol" fod yn hwy ar gyfer achos mwy cymhleth, yn fyrrach ar gyfer achos syml. Yn gyffredinol, mae cyfraith achos Strasbwrg yn dynodi cyfnod a fesurir mewn blynyddoedd yn hytrach nag wythnosau, ond dylai Arolygwyr gofio hyn wrth ystyried y posibilrwydd o ohiriadau neu oedi hir am ba reswm bynnag.

(4) gellir galw yr hawl i gael tribiwnlys annibynnol ac amhleidiol i rym mewn honiadau o ragfarn e.e. wrth benodi Arolygydd neu wrth newid Arolygydd; neu o ran y ffordd y mae'r Arolygydd yn trin y partïon. Ni ddylai fod unrhyw ragfarn nac unrhyw ragfarn ymddangosiadol

7.45 Mae hefyd yn bosibl i'r fframwaith gweithdrefnol a sefydlwyd drwy statud gael ei herio. Mae hyn yn llawer llai tebygol yn dilyn dyfarniad Alconbury (1) ar Dy'r Arglwyddi. Roedd hyn yn ymdrin â 3 apêl ar wahân gan gynnwys un yn ymwneud â chynllun gwella ffyrdd yn y gyfnewidfa rhwng yr M4 a'r A34 yn Newbury, a hyrwyddwyd gan yr Asiantaeth Priffyrdd ac a fyddai'n golygu cymryd tir yr ymatebwr.

7.46 Os oes her i gyfreithlondeb y weithdrefn lle y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud penderfyniad yn dilyn ymchwiliad, efallai y bydd yr Arolygydd yn cyfeirio at Alconbury , gan dynnu ar y pwyntiau canlynol (mae'r cyfeiriadau at baragraffau'r dyfarniad):

  • Canfu Ty'r Arglwyddi bod gweithdrefn yr Ysgrifennydd Gwladol yn deg ac yn cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
  • Mae'n rhaid ystyried y weithdrefn yn gyffredinol, gan gynnwys yr ymchwiliad, penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a'r hawl i apelio i'r Uchel Lys ar bwynt o gyfraith. Nid oes angen i bob cam o'r weithdrefn gydymffurfio ag erthygl 6. (152ff.)
  • Mae'r Arolygydd yn ddi-duedd; mae rheolau'r weithdrefn ymchwiliadau a dulliau diogelu eraill (diogelwch rhag dylanwad amhriodol, egwyddorion Franks) yn cefnogi'r natur ddi-duedd honno. (24,114)
  • Ac eithrio yn y gofyniad i gymhwyso polisïau'r Ysgrifennydd Gwadol, mae'r Arolygydd hefyd yn annibynnol, (nid yw'n gysylltiedig â'r partïon ac nid yw'n amodol ar eu dylanwad na'u rheolaeth). (108)
  • Ar faterion sy'n ymwneud â pholisi (teilyngdod), mae'r Ysgrifennydd Gwadol yn atebol i'r Senedd, ac nid i'r Llysoedd. Mae hyn yn hanfodol i ddemocratiaeth.(60,99,129)
  • Mae'r gwaith o wneud penderfyniadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn amodol ar ddulliau diogelu pwysig (gan gynnwys Cod y Gwasanaeth Sifil a Chod y Gweinidogion, rheolau gweithdrefn ymchwiliadau, rhoi ystyriaeth i'r ymchwiliad, ni ddylai fod yn fympwyol, mae'n rhaid i'r penderfyniad fod yn rhesymol, dim diddordeb personol neu ariannol) (170, 142)
  • Nid oes dim o'i le i'r Ysgrifennydd Gwladol geisio neu ystyried cyngor y gall gael gafael arno o fewn ei adran, lle y ceisir y cyngor hwnnw i egluro cyfraith neu bolisi. Nid oes dim o'i le ychwaith mewn cyfathrebu rhydd o fewn yr Adran wrth baratoi'r cyngor hwnnw. (170, 126)
  • Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn atebol i'r Uchel Lys ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith, sy'n cynnwys rhesymoleg y penderfyniad a thegwch y broses. (62)
  • Ni thorrir Erthygl 6 yn dilyn y ffaith bod gan y Llywodraeth ddiddordeb -dim ond os caiff hyn ei ystyried mewn modd amhriodol, ac os felly mae adolygiad barnwrol ar gael. (55, 64, 130, 197)

7.47 Er hynny, os gofynnir i'r Arolygydd ohirio'r ymchwiliad ar y sail nad yw'r weithdrefn ymchwiliadau yn gydnaws â hawliau dynol, ni ddylai gytuno ar ohirio oni fydd rhesymau cryf iawn dros wneud hynny. Penodwyd yr Arolygydd i gynnal yr ymchwiliad, ac os na roddwyd caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol, dylai barhau. Dim ond os bydd parti'n nodi bwriad cryf i wneud cais am adolygiad barnwrol y bydd gohirio yn debygol o fod yn briodol. Yn yr achos hwnnw, dylai'r gohiriad fod yn fyr (dim mwy na 4 wythnos fel rheol) a dylid esbonio y bydd yr ymchwiliad yn parhau oni chaiff cais ei wneud yn ystod y gohiriad. Cyhyd ag y bydd y mater gerbron y llys, bydd angen ymestyn y gohiriad.

1, [2001] 2WLR.1389; [2001] 2 All ER 929


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English